Neidio i'r prif gynnwy

Mam sydd â chyflwr anghyffredin yn diolch i'r tîm yn Ysbyty Gwynedd a helpodd i roi genedigaeth i'w merch fach iach

26.08.2022

Mae mam ifanc y gall ei chyflwr achosi i'w hysgyfant ddadchwyddo’n ddirybudd wedi diolch i'r tîm o staff clinigol sydd wedi ei helpu i gael beichiogrwydd llwyddiannus.

Gwnaeth Donna Marie Parry, o Benysarn yn Ynys Môn, ddioddef ei niwmothoracs cyntaf (datchwyddiad yr ysgyfant) pan oedd ond yn 17 oed a arweiniodd at ei derbyn i'r ysbyty sawl gwaith dros y 13 mlynedd nesaf.

Pan feichiogiodd Donna ym mis Mai 2020, darganfuwyd bod arni Syndrom Birt-Hogg-Dubé (Syndrom BHD). Mae'r anhwylder angyffredin hwn, sy’n effeithio ar ryw 600 o deuluoedd ym mhedwar ban byd, yn effeithio ar y croen a'r ysgyfaint ac mae'n cynyddu'r risg o gael mathau penodol o diwmorau. Cafodd apwyntiad gyda Dr Aparna Gumma, meddyg ymgynghorol meddygaeth mamau yn Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd: "Cefais wybod ar ddechrau COVID fy mod i'n feichiog felly roedd aros gartref yn gweithio'n dda i mi gan fy mod i eisoes yn cael fy ystyried i fod â risg uchel ond roedd y risg honno hyd yn oed yn uwch oherwydd y feirws.

"Oherwydd fy nghyflwr, roedd angen i mi gadw mewn cysylltiad â fy nhîm clinigol gan fod rhaid i mi gael fy monitro'n agos trwy gydol fy meichiogrwydd er mwyn sicrhau bod popeth yn iawn.

"Cafodd fy nhoriad Cesaraidd ei drefnu ar gyfer dechrau mis Ionawr felly roeddwn i'n teimlo fy mod i'n gallu ymlacio ac nid oeddwn i wedi dioddef gyda niwmothoracs yn ystod y cyfnod hwn felly roeddwn i'n teimlo'n weddol hyderus bod popeth yn mynd yn dda.

"Roeddwn i hefyd o dan ofal y tîm Anadlol trwy'r cyfan, roedd Mr Thaseen a'i dîm yn wych."

Fodd bynnag, wythnos cyn bo disgwyl i Donna gael toriad Cesaraidd, aed â hi ar frys i Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd ar ôl dioddef niwmothoracs yn ddirybudd.

Bu'n rhaid i'r tîm amlddisgyblaethol, sy'n cynnwys Meddygon Ymgynghorol, Anesthetyddion a Bydwragedd, a oedd eisoes wedi cynllunio genedigaeth Donna ym mis Ionawr, weithredu'n gyflym er mwyn cwblhau toriad Cesaraidd brys oherwydd ei chyflwr.

Dywedodd Dr Aparna Gumma, Meddyg Ymgynghorol mewn Obstetreg a Gynaecoleg ac arbenigwr Meddygaeth Mamau yn Ysbyty Gwynedd: "Fel arfer pan fyddwn yn delio â chlaf sydd â chyflwr anghyffredin fel un Donna, byddem yn eu trosglwyddo i ysbyty arbenigol a fydd yn rheoli eu beichiogrwydd.

"Fodd bynnag, yn yr achos hwn, nid oedd unrhyw achosion eraill o'r cyflwr hwn yn ystod beichiogrwydd i'w cael yn y byd felly gwnaethom weithio gyda'n gilydd fel tîm amlddisgyblaethol i reoli ei beichiogrwydd yma gyda ni yn Ysbyty Gwynedd.

"Roeddem ni wedi trefnu toriad Cesaraidd wedi'i gynllunio ym mis Ionawr ond pan ddaeth Donna i'n Hadran Achosion Brys, roeddem ni'n gwybod, oherwydd ei chyflwr, fod rhaid i ni newid ein cynlluniau a dwyn y toriad Cesaraidd ymlaen er mwyn sicrhau bod y fam a'r baban yn ddiogel."

Diolch i'r tîm, rhoddodd Donna enedigaeth i ferch fach iach ar Nos Galan, Erin Lois Jones, sydd bron yn ddwyflwydd oed erbyn hyn.

Dywedodd Donna: "Rydw i mor ddiolchgar i bob un o'r tîm yn Ysbyty Gwynedd am y ffordd y gwnaethant ofalu amdanom ni yn ystod y beichiogrwydd.

"Roedd fy nghyflwr hefyd yn rhywbeth nad oeddent wedi delio ag ef o'r blaen ond gwnaethant wir helpu i mi deimlo'n gyfforddus gan wneud i mi deimlo'n ddiogel.

"Ni chefais unrhyw gymhlethdodau gyda fy ngenedigaeth ac mae popeth yn iawn gydag Erin, rydw i am ddiolch i'r tîm am beth wnaethant drosom ni."

Ychwanegodd Dr Gumma: "Rydym ni mor falch o glywed bod Donna ac Erin yn cadw mor dda.

"Roedd hon wir yn ymdrech enfawr gan bob un o'r timau ynghyd â Donna - ein blaenoriaeth bennaf oedd sicrhau bod y fam a'r babi yn ddiogel trwy'r cyfan ac rydw i'n falch iawn o bawb fu'n rhan o'r gwaith."

Nodiadau i olygyddion:

Cafodd yr achos hwn ei ddethol i gael ei gyflwyno yng Nghyngres Ryngwladol Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynaecolegwyr yn 2021 a chafodd ei gyhoeddi yn ei gyfnodolyn.