Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r trosglwyddiad yng nghymuned Wrecsam yn is nag y tybiwyd, oherwydd dau achos newydd sydd wedi'i nodi hyd yma

Datganiad i'r wasg: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r trosglwyddiad yng nghymuned Wrecsam yn is nag y tybiwyd, oherwydd dau achos newydd sydd wedi'i nodi hyd yma

Dim ond dau achos newydd o'r Coronafeirws sydd wedi'i nodi hyd yma mewn canolfannau profi cymunedol hygyrch yn Wrecsam, sy'n awgrymu bod trosglwyddiad y feirws yn y gymuned yn is na'r hyn a dybiwyd yn flaenorol.

Mae swyddogion iechyd wedi bod wrth eu boddau gyda'r ymateb gan y gymuned yn Wrecsam, gyda thros 800 o bobl wedi'u profi yn y deuddydd cyntaf mewn dwy ganolfan brofi symudol yn Hightown a Pharc Caia. 

Mae'r profion yn parhau tan ddydd Sadwrn, ond mae'r canlyniadau o'r diwrnod cyntaf pan gafodd tua 400 o bobl eu profi, wedi arwain at nodi dau achos newydd yn unig.

Meddai Dr Chris Johnson, Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd y Tîm Rheoli Achosion Amlasiantaeth:

“Diolch yn fawr iawn i'r gymuned yn Wrecsam am eu hymateb brwdfrydig i'r cyfle hwn i gael eu profi am y Coronafeirws. 

“Rydym wedi ein calonogi'n fawr gan y darlun sy'n dod i'r amlwg o'r sesiynau hyn, sy'n awgrymu bod y trosglwyddiad yn sylweddol is na'r hyn a dybiwyd.  Dim ond dau achos newydd a nodwyd ar ddiwrnod cyntaf y profion.  Byddwn yn cysylltu ag unigolion gyda'u canlyniadau prawf dros y dyddiau nesaf.

“Mae'r profion yn parhau, felly manteisiwch ar y cyfle i gael eich profi a helpu i atal lledaeniad posibl COVID-19 yn ardal Wrecsam - hyd yn oed os yw eich symptomau yn ysgafn. 

“Po fwyaf yr achosion yr ydym yn eu canfod, mwyaf fydd y bobl y gellir eu hatgyfeirio wedyn i'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu, gan alluogi'r swyddogion olrhain cysylltiadau i weithredu er mwyn atal lledaeniad Coronafeirws yn yr ardal.

“Rydym yn atgoffa'r cyhoedd a pherchnogion busnes i beidio â bod yn hunanfodlon yn sgil y canlyniadau hyn.  Mae gan bob un ohonom ran hanfodol i'w chwarae wrth atal Coronafeirws rhag lledaenu drwy ddilyn canllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol – sef aros dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill – a golchi dwylo'n rheolaidd.”

Ymhlith y symptomau posibl i gadw llygad amdanynt mae peswch cyson newydd, tymheredd uchel, a cholli neu newid o ran eich synnwyr blas neu arogli arferol.

Mae'r canolfannau profi symudol yng Nghanolfan Iechyd Parc Caia ar Ffordd y Tywysog Siarl, ac yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, Fusilier Way, oddi ar Ffordd Bryn y Cabanau.  Mae sesiynau wedi'u trefnu tan ddydd Sadwrn ar hyn o bryd, a gwahoddir unrhyw un sydd am gael prawf i ddod rhwng 9am a 6pm.

Mae'r gwaith yn cael ei gydlynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Wrecsam, a phartneriaid eraill, gyda chymorth gan y sefydliad sector gwirfoddol lleol, AVOW a grwpiau cymunedol.  Fel mewn rhannau eraill o'r wlad, mae'r fyddin wedi helpu i sefydlu'r unedau profi symudol.

DIWEDD

CYSWLLT:   Ar gyfer ymholiadau'r wasg ffoniwch dîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 02920 348755 (24 awr)

Nodiadau'r golygydd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sefydliad y GIG sy’n darparu cyngor a gwasanaethau iechyd y cyhoedd annibynnol i ddiogelu a gwella iechyd a lles poblogaeth Cymru.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bedair swyddogaeth statudol:

  • Darparu a rheoli ystod o wasanaethau iechyd cyhoeddus, diogelu iechyd, gwella gofal iechyd, cynghori ar iechyd, amddiffyn plant a labordai microbiolegol a gwasanaethau’n ymwneud â gwyliadwriaeth, atal a rheoli clefydau trosglwyddadwy;
  • Datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth am faterion yn ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gyfer y cyhoedd; cynnal a chomisiynu ymchwil i faterion o’r fath a chyfrannu at ddarparu a datblygu hyfforddiant mewn materion o’r fath;
  • Casglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth yn systematig am iechyd pobl Cymru yn arbennig yn cynnwys achosion o ganser, cyfraddau marwolaeth a goroesi; a nifer yr achosion o anomaleddau cynhenid; a
  • Darparu, rheoli, monitro, gwerthuso a chynnal ymchwil i sgrinio cyflyrau iechyd a sgrinio materion yn ymwneud ag iechyd.

Ceir rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru yn www.iechydcyhoedduscymru.org