Datganiad i'r wasg: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dim ond dau achos newydd o'r Coronafeirws sydd wedi'i nodi hyd yma mewn canolfannau profi cymunedol hygyrch yn Wrecsam, sy'n awgrymu bod trosglwyddiad y feirws yn y gymuned yn is na'r hyn a dybiwyd yn flaenorol.
Mae swyddogion iechyd wedi bod wrth eu boddau gyda'r ymateb gan y gymuned yn Wrecsam, gyda thros 800 o bobl wedi'u profi yn y deuddydd cyntaf mewn dwy ganolfan brofi symudol yn Hightown a Pharc Caia.
Mae'r profion yn parhau tan ddydd Sadwrn, ond mae'r canlyniadau o'r diwrnod cyntaf pan gafodd tua 400 o bobl eu profi, wedi arwain at nodi dau achos newydd yn unig.
Meddai Dr Chris Johnson, Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd y Tîm Rheoli Achosion Amlasiantaeth:
“Diolch yn fawr iawn i'r gymuned yn Wrecsam am eu hymateb brwdfrydig i'r cyfle hwn i gael eu profi am y Coronafeirws.
“Rydym wedi ein calonogi'n fawr gan y darlun sy'n dod i'r amlwg o'r sesiynau hyn, sy'n awgrymu bod y trosglwyddiad yn sylweddol is na'r hyn a dybiwyd. Dim ond dau achos newydd a nodwyd ar ddiwrnod cyntaf y profion. Byddwn yn cysylltu ag unigolion gyda'u canlyniadau prawf dros y dyddiau nesaf.
“Mae'r profion yn parhau, felly manteisiwch ar y cyfle i gael eich profi a helpu i atal lledaeniad posibl COVID-19 yn ardal Wrecsam - hyd yn oed os yw eich symptomau yn ysgafn.
“Po fwyaf yr achosion yr ydym yn eu canfod, mwyaf fydd y bobl y gellir eu hatgyfeirio wedyn i'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu, gan alluogi'r swyddogion olrhain cysylltiadau i weithredu er mwyn atal lledaeniad Coronafeirws yn yr ardal.
“Rydym yn atgoffa'r cyhoedd a pherchnogion busnes i beidio â bod yn hunanfodlon yn sgil y canlyniadau hyn. Mae gan bob un ohonom ran hanfodol i'w chwarae wrth atal Coronafeirws rhag lledaenu drwy ddilyn canllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol – sef aros dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill – a golchi dwylo'n rheolaidd.”
Ymhlith y symptomau posibl i gadw llygad amdanynt mae peswch cyson newydd, tymheredd uchel, a cholli neu newid o ran eich synnwyr blas neu arogli arferol.
Mae'r canolfannau profi symudol yng Nghanolfan Iechyd Parc Caia ar Ffordd y Tywysog Siarl, ac yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, Fusilier Way, oddi ar Ffordd Bryn y Cabanau. Mae sesiynau wedi'u trefnu tan ddydd Sadwrn ar hyn o bryd, a gwahoddir unrhyw un sydd am gael prawf i ddod rhwng 9am a 6pm.
Mae'r gwaith yn cael ei gydlynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Wrecsam, a phartneriaid eraill, gyda chymorth gan y sefydliad sector gwirfoddol lleol, AVOW a grwpiau cymunedol. Fel mewn rhannau eraill o'r wlad, mae'r fyddin wedi helpu i sefydlu'r unedau profi symudol.
DIWEDD
CYSWLLT: Ar gyfer ymholiadau'r wasg ffoniwch dîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 02920 348755 (24 awr)
Nodiadau'r golygydd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sefydliad y GIG sy’n darparu cyngor a gwasanaethau iechyd y cyhoedd annibynnol i ddiogelu a gwella iechyd a lles poblogaeth Cymru.
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bedair swyddogaeth statudol:
Ceir rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru yn www.iechydcyhoedduscymru.org