Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ffliw yn lladd – amddiffynnwch eich hun, eich teulu a'ch ffrindiau

Mae amddiffyn eich hun, eich teulu a'ch ffrindiau rhag y ffliw yn syml a gall achub bywydau.

Dyna'r neges gan Katie Bryan, nyrs sy'n rhoi gofal arbenigol i fabanod difrifol wael a bregus, ac sydd hefyd yn rhoi ei hamser ei hun ddydd a nos i frechu cannoedd o staff y GIG.

Mae Katie, nyrs staff ar yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Maelor Wrecsam, eisoes wedi brechu tua 350 o bobl yn yr wythnos ddiwethaf. Ar ôl gweld effeithiau dinistriol y salwch drosti ei hun, mae'n annog pobl i wneud yn siŵr eu bod yn cael y brechiad.

Argymhellir bod y rhai sydd yn y perygl mwyaf o gael cymhlethdodau yn cael brechiad y ffliw bob blwyddyn. Mae hynny’n cynnwys pawb pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, merched beichiog a phobl dros 65 oed. Gall plant rhwng 2 a 10 oed gael y brechiad drwy chwistrell trwyn.

Dywedodd Katie: "Mae'n bwysig iawn i bobl gael eu brechu rhag y ffliw. Rydw i'n gweithio mewn maes risg uchel felly gwn mor bwysig yw hi i bobl gael eu brechu gan fod hyn yn eu hamddiffyn rhag mynd yn ddifrifol wael neu waeth.

"Gwn beth yw'r effaith y gallai'r salwch hwn ei gael ar y babanod rydw i'n gofalu amdanyn nhw, ond gwn hefyd mor bwysig yw hi i mi amddiffyn fy hun, fy nheulu a'm ffrindiau rhag y ffliw.

"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n gymwys i gael y brechiad, i wneud yn siŵr eu bod yn ei gael cyn gynted â phosibl. Mae'n gyflym ac yn hawdd, ac mae'n bwysig i bobl sylweddoli na fydd y brechiad yn eich gwneud yn sâl."

Os hoffech wybod mwy am bwy sy'n gymwys i gael y brechiad ffliw, a ble i'w gael, ewch i.