Neidio i'r prif gynnwy

Mae cydnabod Kara fel Nyrs y Frenhines yn profi ei bod yn 'fetron o safon'

23.11.2023

Mae gweithiwr iechyd proffesiynol gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y maes wedi profi ei bod wir yn "fetron o safon" ar ôl iddi dderbyn cydnabyddiaeth fel Nyrs y Frenhines (QN).

Mae Kara Roberts yn aelod o’n Tîm Datblygu Ansawdd Corfforaethol ar gyfer Cartrefi Gofal, ac yn ddiweddar cafodd wybod y bydd yn ymuno â thua 2,500 o'i chydweithwyr ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel Nyrs y Frenhines.

Dechreuodd ei gyrfa pan oedd yn 18 mlwydd oed. Cwblhaodd ei NVQ  lefel 2 a 3, ac fe roddodd hyn gyfle iddi astudio nyrsio - gan gymhwyso fel nyrs gofrestredig yn 2005.

Ar ôl gweithio yng ngofal yr henoed ac yn yr uned gofal coronaidd, sylweddolodd Kara mai ei gwir angerdd oedd addysgu, a daeth yn nyrs datblygu practis. O ganlyniad, enillodd radd Meistr mewn Arwain mewn Ansawdd.

Erbyn hyn, hi yw'r fetron ansawdd, sy’n enw addas, ar gyfer comisiynu gwasanaethau, ac mae'n gweithio gyda phob un o'r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru i wella ansawdd cartrefi gofal ar draws y rhanbarth.

Gwasanaethau yn y Gymuned - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio: “Rwyf mor falch o Kara, ac rwy’n ei llongyfarch ar y llwyddiant hwn.

“Rydym yn gwybod fod y sector gofal wedi dioddef yn ddiweddar, ac mae'n hanfodol fod gennym wasanaethau gofal o ansawdd ar gyfer ein poblogaeth. Mae ganddynt effaith hanfodol wrth redeg ein Bwrdd Iechyd.

“Mae’n gysur gwybod fod gennym nyrsys ymroddedig fel Kara yn rhannu gwybodaeth, yn gweithio gyda’n partneriaid ac yn helpu’r gwasanaethau hynny i wella a dilyn arferion gorau.

“Rwyf mor falch bod cydweithiwr arall yn cael ei anrhydeddu a'i chydnabod fel hyn. Da iawn ti Kara.”

Mae Kara yn credu bod ennill y gydnabyddiaeth hon yn rhoi cyfle iddi gydweithio a lledaenu ei dysg hyd yn oed ymhellach.

Dywedodd: “Mae cael fy ngalw’n Nyrs y Frenhines yn anrhydedd, a bydd yn fy ysgogi i barhau i hyrwyddo'r gofal o'r ansawdd uchaf mewn cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru. Yn ogystal, rwy’n gobeithio bod yn fodel rôl da i gyfoedion a chydweithwyr eraill yn y sector gofal cymdeithasol.

Clinig deintyddol cymunedol o'r radd flaenaf yn agor yn Ysbyty Bryn Beryl - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

“Bydd cael fy nghydnabod fel Nyrs y Frenhines yn fy ngalluogi i gysylltu â'r rhwydwaith cartrefi gofal a defnyddio'r adnoddau ar wefan Sefydliad Nyrsio'r Frenhines.

"Rwy’n awyddus i fod yn fodel rôl rhagorol yn fy maes, gan rannu gwerthoedd megis arweinyddiaeth, dysgu a datblygu.

“Rwyf hefyd eisiau arddangos gofal o ansawdd da a datblygu addysg a hyfforddiant ar draws Gogledd Cymru.”

Mae teitl Nyrs y Frenhines (QN) ar gael i nyrsys unigol sydd wedi dangos lefel uchel o ymrwymiad i ofal cleifion ac ymarfer nyrsio.

Mae nyrsys, ymwelwyr iechyd a bydwragedd sydd ȃ phum mlynedd o brofiad yn gweithio yn y maes gofal cymunedol/sylfaenol a gofal cymdeithasol yn gymwys i ymgeisio.

Mae teitl Nyrs y Frenhines yn galluogi unigolion i gael mynediad at rwydweithiau cymorth proffesiynol, rhaglenni datblygu a bwrsarïau – ac mae'n gydnabyddiaeth ffurfiol o ymrwymiad yr unigolyn i wella gofal cleifion.

Sefydliad Nyrs y Frenhines (QNI), sef yr elusen nyrsio hynaf yn y byd, sy’n gwobrwyo teitl Nyrs y Frenhines.

Sefydlwyd Nyrs y Frenhines gan y Frenhines Victoria yn 1887, ac o’r dechrau y mae wedi’i noddi gan Frenhines, hyd yn oed pan mai Brenin sydd ar yr orsedd.

Pan fu farw Mam y Frenhines yn 2022, daeth y Frenhines Elizabeth II yn noddwr. Yn sgil ei marwolaeth y llynedd, aeth y rôl dan sylw i’r Frenhines Camilla, Cydweddog y Brenin.

Bydd Kara yn derbyn ei gwobr ar 8 Rhagfyr, yn Llundain.

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)