Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant prosiect achub bywydau Gogledd Cymru

17/06/21

Mae prosiect achub bywydau drwy roi mynediad at gannoedd o diffibrilwyr ar draws Gogledd Cymru er mwyn dysgu pobl sut i ymateb i ataliad y galon wedi bod yn llwyddiannus.

Yn y tair blynedd ddiwethaf mae mwy na 500 o ddiffibrilwyr cymunedol (CPAD) newydd wedi cael eu gosod, gyda 315 ychwanegol wedi cael eu hail-osod - yn cynnwys un ym mhob ysgol uwchradd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae adfywio’r galon a’r ysgyfaint drwy CPR a defnyddio diffibriliwr cyn i ambiwlans gyrraedd yn cynyddu’r siawns o oroesi ataliad y galon yn sylweddol.

Partneriaeth yw’r prosiect hwn rhwng y Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r elusen gardiaidd SADS UK.

Dywedodd Julie Starling, Uwch Nyrs Glinigol Arbenigol Arrhythmia a Rheolwr y Prosiect: “Y penwythnos hwn fe gawsom ein hatgoffa am bwysigrwydd deall sut i ymateb i ataliad y galon a chael mynediad at yr offer cywir i wneud hynny. Dangosodd yr hyn a ddigwyddodd i Christian Eriksen bod unrhyw un o unrhyw oedran, hyd yn oed plant, yn gallu dioddef o ataliad y galon heb rybudd.

“Cafodd bywyd Christian Eriksen ei arbed drwy CPR a’r defnydd o ddiffibriliwr, y cyfuniad mwyaf pwerus i achub bywyd mewn sefyllfa fel hyn. Dyma un o’r prif bethau sydd wedi bod wrth wraidd y prosiect hwn yng Ngogledd Cymru. Mae’r prosiect wedi cynnig hyfforddiant achub bywydau i’n cymunedau, ac wedi eu haddysgu ar sut i ddefnyddio diffibrilwyr.

“Rhoddwyd mwy o ddiffibrilwyr yn ein cymunedau i sicrhau eu bod ar gael yn eang i helpu achub bywydau, sydd yn bwysig iawn yn y rhannau mwyaf gwledig hynny o Ogledd Cymru. Gorau po gyntaf y mae CPR yn cael ei wneud a diffibriliwr yn cael ei ddefnyddio er mwyn rhoi’r siawns gorau i unigolyn oroesi.”

SADS UK a ariannodd y prosiect yn llwyr am y ddwy flynedd gyntaf, a oedd yn cynnwys cyflogi Swyddog Mynediad at Ddiffibrilwyr Cymunedol i sicrhau bod yr holl offer a oedd eisoes ar gael yn yr ardal yn cael eu profi i fod yn barod i’w defnyddio.

Dywedodd Anne Jolly MBE, sylfaenydd SADS UK: “Er nad oes angen gwneud llawer i gynnal diffibriliwr mae’n hanfodol bod padiau a batris yn cael eu newid bob hyn a hyn. Mae’r Swyddog Cefnogi CPAD wedi bod yn allweddol i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud a bod diffibrilwyr bob amser yn barod i’w defnyddio, gyda chymorth y gymuned. Mae’r elusen yn falch o gefnogi’r prosiect pwysig hwn sy’n dysgu sgiliau achub bywyd ac yn darparu gwybodaeth a chymorth i helpu ysgolion sicrhau bod diffibriliwr ar gael ar y safle.”

Dywedodd Greg Lloyd, Pennaeth Gweithrediadau Clinigol yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Y cyfuniad mwyaf pwerus i achub bywyd mewn sefyllfa fel hyn yw rhoi CPR a defnyddio diffibriliwr ac mae rôl y Swyddog Cefnogi CPAD wedi bod yn hanfodol i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd drwy sicrhau bod yr holl ddiffibrilwyr yn y gymuned yn barod i’w defnyddio, yn ogystal â mynychu achosion o ataliad y galon fel ymatebwr cyntaf pan fo ar ddyletswydd.

“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae’n dystiolaeth o’r hyn all gael ei gyflawni wrth gyd-weithio. Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn falch o fod wedi bod yn rhan o’r prosiect pwysig hwn ac yn falch iawn o glywed bod posibilrwydd y bydd y prosiect yn cael ei ledaenu ar draws Cymru. Hoffai’r bartneriaeth ddymuno gwellhad buan i Christian Eriksen.”

Mae’r prosiect hefyd yn cael ei gefnogi gan arian a godwyd drwy Cadwch Curiadau Keep the Beats sydd yn rhan o elusen Awyr Las y Bwrdd Iechyd. Mae Cadwch Curiadau wedi llwyddo i godi £20,000 hyd yma ac wedi buddsoddi mewn offer newydd, fideos hyfforddi a diffribilwyr achub bywydau.

Gall unrhyw ysgol neu grŵp cymunedol sydd yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, gysylltu â SADS drwy info@sadsuk.org neu ag Awyr Las drwy BCU.AwyrLas@wales.nhs.uk

Gwybodaeth Ychwanegol:

  • Cyflwr yw ataliad y galon lle mae’r galon yn stopio curo yn sydyn a heb rybudd oherwydd diffyg yn system drydanol y galon.
  • Gellir cael rhagor o wybodaeth am Cadwch Curiadau ar www.awyrlas.org.uk/keepthebeats neu dilynwch eu gwaith @cadwchcuriadau ar Facebook a Twitter.