Neidio i'r prif gynnwy

Llawfeddyg Orthopaedig o Wrecsam wedi cael ei gydnabod am ddarparu gofal cleifion rhagorol

Mae Llawfeddyg Orthopaedig o Wrecsam wedi cael ei ganmol gan ei gleifion am eu helpu i godi yn ôl ar eu traed a gwella ansawdd eu bywydau.

Mae Mr Yogesh Joshi, llawfeddyg y ben-glin wedi derbyn gwobr 'Tystysgrif Rhagoriaeth' yn ddiweddar am gyflawni pum seren gan gleifion ar wefan adolygu gofal iechyd y Deyrnas Unedig, iWantGreatCare.

Mae'r Meddyg Ymgynghorol o Ysbyty Maelor Wrecsam yn arbenigwr y ben-glin, ac yn delio ag ystod eang o broblemau'r ben-glin, o achosion trawma pen-glin mawr i achosion pen-glin dewisol.

Dywedodd Karen Davies, 63, sy'n gyn Nyrs Theatr yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a oedd yn cael trafferth gofalu am ei gŵr, sy'n byw â dementia, oherwydd y boen yn ei phen-glin ei bod yn hynod o ddiolchgar am y llawfeddygaeth a gafodd.

Dywedodd: "Roeddwn i'n nyrs am dros 40 mlynedd, ac mi dreuliais yr 20 mlynedd ddiwethaf fel Nyrs Theatr yn y Maelor.

"Yn anffodus oherwydd yr arthritis yn fy mhen-glin bu i mi ymddeol gan fod y boen yn annioddefol, ac roedd yn effeithio ar fy swydd o ddydd i ddydd, a hefyd ar y gofal roeddwn yn gallu ei ddarparu i fy ngŵr."

Cafodd Karen lawfeddygaeth hanner pen-glin newydd ym mis Awst 2018, ac yn y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi gallu mwynhau gwyliau dramor yn ogystal â mynd ar dripiau gyda'i gŵr.

Dywedodd: "Rwy'n hynod o ddiolchgar am y gofal a gefais yn y Maelor, nid oeddwn yn yr ysbyty am yn hir, a dim ond am wythnos roeddwn ar faglau pan es i adref.

"Mae gennyf ansawdd fy mywyd yn ôl yn awr, a gallaf fwynhau mynd â fy ngŵr am ddiwrnodau allan eto, nid oeddwn yn gallu gwneud hyn cynt, gan fy mod yn cael trafferth gyrru.

"Rwyf mor falch gyda'r canlyniad, ac ni allaf ddiolch digon i Mr Joshi, yn ogystal â'i dîm. Mae'r apwyntiadau cleifion allanol a'r tîm ffisiotherapi wedi bod yn wych hefyd yn dilyn y llawdriniaeth."

Dywedodd Keiran Thomas, 28, a rwygodd ei ewyn cresffurf blaen yn ei goes dde sydd wedi crymu, ei fod yn ddiolchgar iawn i Mr Joshi am ei alluogi i ddychwelyd i'w ddyletswyddau llawn fel Parafeddyg ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. 

Cafodd Keiran, o Lanbedrgoch yn Ynys Môn, lawdriniaeth i ailffurfio gewyn cresffurf blaen ar y cyd â llawdriniaeth unioni (osteotomi crimogol uwch) ar ei ben-glin ym mis Mawrth 2019 yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Dywedodd: "Roedd y gofal a gefais gan Mr Joshi a'i dîm yn ddi-fai, ac nid yw'n syndod i mi ei fod wedi derbyn gwobr am y gofal y mae'n ei ddarparu i'w gleifion. Mae'n ddyn cwrtais iawn, ac fe wnaeth i mi deimlo'n gyfforddus yn syth. 

"Rwyf wedi gweld gwelliannau mawr ers fy llawfeddygaeth, ac rwy'n hynod o falch fy mod wedi gallu dechrau rhedeg eto."

Dywedodd Mr Joshi, sydd wedi bod yn Feddyg Ymgynghorol Trawma ac Orthopaedig yn Ysbyty Maelor Wrecsam ers 2016: "Rwy'n falch iawn o glywed fod Karen a Keiran yn gwella yn dilyn eu llawfeddygaeth, a hoffwn hefyd ddiolch iddynt am eu geiriau caredig am y driniaeth a gawsant.

"Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd y gofal a gynigir i'n cleifion, ac rwy'n gweithio'n agos iawn gyda thîm amlddisgyblaethol arbennig i wella canlyniadau cleifion.

"Mae'n hyfryd cael fy nghydnabod gan y wefan iWantGreatCare, ac i weld yr holl adolygiadau cadarnhaol gan ein cleifion, fydd yn fanteisiol i gleifion y dyfodol rwy'n siŵr."