Neidio i'r prif gynnwy

Lansio peilot brechu drwy ffenestr y car yn Sir y Fflint

04/06/2021

Cafodd dros 200 o bobl eu brechu rhag COVID-19 yn Sir y Fflint yn y sesiwn frechu gyntaf drwy ffenestr y car a lansiwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru fel rhan o brosiect peilot. 

Roedd y peilot, a gynhaliwyd yng nghlinig Preswylfa yn y Wyddgrug, yn llwyddiant gyda 253 o bobl yn cael y brechlyn AstraZeneca o fewn chwe awr. Dangosodd y sesiwn brechu drwy ffenestr y car ffordd dda o ymateb yn gyflym i ofyn brys ar gyfer safleoedd brechu ac mae'r Bwrdd Iechyd yn archwilio cyfleoedd i agor safleoedd brechu drwy ffenestr y car pellach i ymestyn y treial yn y dyfodol.

Lansiwyd y peilot gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ôl adborth gan Lywodraeth Cymru yn gofyn am frechu pobl rhwng 30 a 39 mlwydd oed yng ngrŵp blaenoriaeth 10 cyn y dyddiad gwreiddiol, sef canol mis Mai.

Defnyddiwyd y clinig brechu drwy ffenestr y car i ysgogi sesiwn yn gyflym ac asesu a allai’r model gael ei ddyblygu mewn ardaloedd eraill. Roedd lle i dri char yn y lleoliad, ac roedd 'lôn gyflym' i'r cleifion hynny a oedd yn sedd teithiwr y car.

Dywedodd Jane Jones, Rheolwr Nyrsio ar gyfer Gofal Cychwynnol a Chymunedol BIPBC: "Roeddem yn falch bod y rhai a fynychodd yn hapus gyda chyfleustra brechu trwy ffenestr y car. Addasodd y tîm yn gyflym i'r sefyllfa a datblygwyd ffyrdd newydd o weithio. Roedd yn gyfle gwerthfawr i frechu mewn lleoliad lleol."

Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: "Rwy'n falch iawn bod y peilot yn llwyddiant ac mae wedi rhoi gwell dealltwriaeth i ni o sut i gynnal brechu torfol ar frys pan fo angen. Hoffem ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth o fod yn rhan o'r sesiwn frechu drwy ffenestr y car gyntaf yng Ngogledd Cymru, hoffem barhau i annog cymaint o bobl â phosibl i dderbyn y brechlyn pan gânt y cynnig"

Ar 03/06/2021, mae'r Bwrdd Iechyd wedi brechu mwy na 755,000 yng Ngogledd Cymru ac rydym ar y trywydd cywir i gynnig brechiadau i'r boblogaeth o oedolion sy'n weddill erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Mae'n bwysig bod unrhyw un dros 40 mlwydd oed neu mewn grŵp sydd mewn perygl nad yw wedi cael gwahoddiad neu heb allu derbyn apwyntiad i drefnu un trwy ffonio 03000 840004 neu drefnu apwyntiad ar-lein - Brechiad COVID-19: Trefnu apwyntiad ar lein - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru).