Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Cyrsiau Rhianta Ar-lein Rhad Ac Am Ddim yng Ngogledd Cymru

Caiff pedwar cwrs rhiantu ar-lein eu lansio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol yr wythnos hon a byddant ar gael yn rhad ac am ddim i holl breswylwyr Gogledd Cymru tan fis Tachwedd 2022.

Mae’r cyrsiau achrededig gan Solihull Approach yn seiliedig ar dystiolaeth ac maent wedi’u datblygu gan weithwyr proffesiynol cofrestredig. Maent yn canolbwyntio ar gefnogi perthnasoedd rhwng rhieni, neiniau a theidiau a/neu ofalwyr a’u plant trwy wella iechyd a llesiant emosiynol.

Meddai Siobhan Adams, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd o Dîm Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Mae’r pedwar cwrs ar-lein yn darparu cyfoeth o wybodaeth am feichiogrwydd a genedigaeth, datblygiad yr ymennydd a datblygiad corfforol ac emosiynol eich babi.  Maent yn eich cefnogi chi fel rhieni, neiniau a theidiau a gofalwyr i gydnabod eich emosiynau eich hun ac emosiynau eich plant.  Mae hyn yn helpu i roi dealltwriaeth i chi o sut mae emosiynau yn effeithio ar ymddygiadau, gan gefnogi eich perthnasoedd a gwella eich iechyd a’ch llesiant emosiynol yn y pen draw.”

Mae llawer o deuluoedd ledled y DU a thu hwnt wedi cwblhau’r cyrsiau hyn, fel y mae un rhiant yn ei esbonio: 

“Mae’r cwrs hwn wedi bod yn rodd hollol amhrisiadwy i mi. Mae wedi, a bydd, yn newid cymaint o agweddau ar fy mywyd. Heb os, rydw i’n riant gwell ac yn berson mwy cyflawn o ganlyniad. Mae rhai agweddau wedi bod yn gyfnodau o  ‘Eureka’ i mi! Petawn i ond yn gwybod hyn i gyd flynyddoedd yn ôl.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio’r cyrsiau hyn, ewch i: www.inourplace.co.uk i gofrestru a mewnbynnwch god mynediad unigryw Gogledd Cymru: NWSOL