Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrwyo Nyrs Arbenigol am ei hymrwymiad i'r Gymraeg

27.10.23

Mae Nyrs Arbenigol wedi ei chydnabod am baratoi pecyn hyfforddiant hanfodol yn y Gymraeg a fydd yn elwa plant Gwynedd a Môn.

Derbyniodd Lowri Davies, Nyrs Arbenigol yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) ym Mangor, Wobr y Gymraeg yng Ngwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd eleni.

Ar ôl sawl blwyddyn o weithio fel therapydd gyda CAMHS, mae Lowri bellach yn cydlynu Rhaglen Gwydnwch FFRINDIAU yn ardaloedd Gwynedd a Môn ac yn darparu hyfforddiant i staff addysg a gwasanaethau cymunedol.

Datblygwyd y rhaglen FRIENDS yn wreiddiol yn Awstralia gan Dr Paula Barrett ym 1988, ac mae wedi’i seilio ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) i atal a thrin gorbryder ac iselder ymhlith plant a phobl ifanc. Mae’r rhaglen yn berffaith i’w hwyluso mewn ysgolion, gan hybu gwydnwch mewn unigolion o bob oed, teuluoedd a chymunedau.

Gan nad oedd ‘Friends Resilience’ ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, nid oedd ysgolion Cymraeg yn gallu hwyluso’r rhaglen. Sylwyd bod galw am y rhaglen ymhlith holl ysgolion Gogledd Cymru fel bod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i feithrin eu gwydnwch a mynegi eu hunain yn eu hiaith gyntaf. Mae Cynllun ‘Mwy na Geiriau’ Llywodraeth Cymru yn nodi bod plant a phobl ifanc yn un o’r grwpiau agored i niwed sydd angen cyfathrebu a mynegi eu hunain yn eu hiaith gyntaf.

Yn 2020, gyda chaniatâd hawlfraint sefydliad FRIENDS, bu’r Bwrdd Iechyd, CAMHS a Mewngymorth Ysgolion yn cydweithio â thîm cyfieithu’r Bwrdd Iechyd, i ddatblygu pecyn Cymraeg. Ariannwyd y datblygiad hwn gan Fwrdd Trawsnewid Cymru, sy’n golygu bod plant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr yn cael mynediad at ddeunyddiau dwyieithog yn ein hysgolion a’n cymunedau. Lansiwyd FFRINDIAU yn Gymraeg yn swyddogol yn ystod 2022.

Dywedodd Alaw Griffith o Dîm y Gymraeg y Bwrdd Iechyd, a enwebodd Lowri ar gyfer y wobr: “Ers dechrau ei gyrfa nyrsio, mae Lowri wedi teimlo’n angerddol iawn am hawliau cleifion i gael mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hi bob amser yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod hyn yn gallu digwydd.

“Nid yw’n syndod felly ei bod yn ymfalchïo’n fawr yn y ffaith bod plant a phobl ifanc bellach yn gallu mynychu’r sesiynau FFRINDIAU trwy gyfrwng y Gymraeg, boed hynny wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae cefnogaeth Lowri yn amhrisiadwy. Mae hi hefyd yn falch o allu darparu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg i staff ac ysgolion Gwynedd a Môn. Mae ceisio datblygu unrhyw sgil neu dechneg i wella iechyd meddwl a gwydnwch yn llawer haws os caiff ei wneud yn ein hiaith gyntaf a bydd plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn elwa o hyn. Mae hefyd yn golygu bod ysgolion Cymraeg yn gallu darparu’r sesiynau FFRINDIAU yn y Gymraeg ac yn gallu cyrraedd eu targedau lles ac iechyd fel rhan o’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.”

Dywedodd Jez Nash, Prif Weithredwr Centerprise International, noddwr y digwyddiad: “Rydym yn ein chweched flwyddyn yn noddi Gwobrau Cyrhaeddiad BIPBC, ac mae ymrwymiad rhagorol staff y GIG yng Ngogledd Cymru yn parhau i wneud argraff arnaf i. Maen nhw’n arloesol yn eu hagwedd at ddarparu gofal ac yn dangos tosturi di-ben draw tuag at eu cleifion a’u cydweithwyr.

“Rydym yn falch iawn o rannu achlysur y gwobrau gyda 500 o staff y GIG, ac yn falch o allu parhau â’n cysylltiad â noson wych i ddathlu eu hymdrechion.

“Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd ar restr fer y gwobrau eleni.”