Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr newydd i Wasanaeth Cof Gwynedd a Môn am ei bod 'o'r radd flaenaf'

Mae pobl sy'n byw â dementia a'u gofalwyr wedi ymuno ag arbenigwyr iechyd i ganmol y cymorth cof 'o'r radd flaenaf' a ddarperir ledled Gogledd Orllewin Cymru.

Mae Gwasanaeth Cof Gwynedd a Môn wedi derbyn marc o'r safon uchaf gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion am y drydedd tro yn olynol am ddarparu gofal o'r ansawdd uchaf i bobl sy'n byw â dementia a phroblemau cof eraill.

Mae'r 'Dystysgrif Achredu Cenedlaethol Gwasanaethau Cof' yn cydnabod gwaith rhagorol ar draws meysydd allweddol a nodwyd gan weithwyr proffesiynol iechyd meddwl, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a Meddygon Teulu. 

Mae gwasanaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn darparu asesiad, diagnosis a chymorth parhaus i bobl â dementia a phroblemau cof eraill ar draws Gwynedd a Môn. 

Ymhlith y rheiny sy'n elwa o gymorth y tîm mae Glenda Roberts o Lannor, ger Nefyn, sy'n byw â dementia.  Dywedodd:

"Mae'r cymorth yr ydw i wedi ei gael gan y tîm yn fy nghartref fy hun yn anghredadwy.  Mae wedi fy helpu i barhau i fyw bywyd egnïol a boddhaus gan wneud y pethau yr wyf yn eu caru.  Heb eu cefnogaeth, byddwn mewn cartref gofal erbyn hyn, mwy na thebyg.

"Mae yna stereoteip bod pawb sydd â dementia yn hen ac yn eistedd mewn cartref gofal, ond mae'n bosib bod yn egnïol a pharhau â'ch bywyd."

Dywedodd David Williams o Ffestiniog bod y Gwasanaeth Cof wedi chwarae rôl allweddol wrth helpu ei wraig, Ann, ddygymod â'r diagnosis o ddementia. 

Dywedodd: "Mae wedi helpu i ni ddygymod a delio â'r peth.  Dydw i ddim yn hoffi meddwl beth fyddai wedi digwydd fel arall.  Mae hyn yn rhan o ystod o gefnogaeth a dderbyniwn gan y GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol ac ni allaf eu canmol yn ddigon uchel - mae'n wirioneddol wych."

Canmolodd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion  "ddull hyblyg” y tîm “sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn", ac yn "sensitif i anghenion y cleifion a'u teuluoedd", wrth  nodi hefyd ymdrechion y tîm i annog pobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a grwpiau sy'n cael eu cynnal i ffwrdd o leoliadau clinigol.
 

Dywedodd Sharon Morley o Lanystumdwy, y mae ei gŵr hi'n byw â dementia, ei bod hi'n galonogol gwybod bod y Tîm Cof wastad ar gael i ddarparu cefnogaeth pan fo'i angen. 

Dywedodd: "Os oes unrhyw broblem, rwy'n gwybod y gallaf godi'r ffôn a byddant yno.  Maent o'r radd flaenaf."

Mae'r Tîm Cof wedi cael llwyddiant ddwbl  drwy ennill Canmoliaeth y Gwasanaeth Iechyd Cynaliadwy  gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.

Mae'r marc ansawdd newydd wedi ei gyflwyno i nodi gwasanaethau sy'n grymuso cleifion a gofalwyr i reoli eu hiechyd meddwl eu hunain; cael gwared o weithgareddau gwastraffus; gwneud defnydd o ddewisiadau carbon isel; a grymuso staff yn eu gwaith o ddydd i ddydd. 

Dywedodd Rhian Russell-Owen, Rheolwr Gwasanaeth Cof Gwynedd a Môn:

"Rwy'n hynod o falch o fod yn gweithio fel rhan o'r tîm bach, ond ymroddedig yma o glinigwyr sy'n angerddol am ddarparu’r gofal a'r cymorth gorau posib.

"Dylai'r marc ansawdd hwn roi hyder pellach i'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu eu bod yn derbyn gofal a chymorth o'r ansawdd uchaf pan ddônt i gysylltiad â'n gwasanaethau."