Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr i dîm anableddau dysgu'r GIG sy'n mynd gam ychwanegol i gefnogi cleifion bregus

19/05/21

Fel tîm y GIG sy'n darparu adsefydliad i bobl ag anableddau dysgu ac anawsterau iechyd meddwl, maent wedi ennill gwobr am eu gwaith yn ystod pandemig COVID-19.

Staff yn Uned Adsefydlu Tan y Coed yn Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan, yw enillwyr diweddaraf Gwobr Seren Betsi, sy'n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Wedi ei swatio mewn yng nghanol y coed rhwng mynyddoedd y Carneddau a môr yr Iwerddon, mae Tan y Coed yn darparu cefnogaeth adsefydlu i bobl ag anableddau dysgu ac anawsterau iechyd meddwl sy'n gallu dangos ymddygiad heriol.

Enwebwyd y tîm gan eu rheolwr, Dewi Evans, a ganmolwyd penderfyniad ei gydweithwyr i gadw cleifion yn ddiogel yn wyneb trallod enfawr dros y 12 mis diwethaf.

Nid yn unig y mae staff Tan y Coed wedi wynebu'r her ddigynsail a berir gan y pandemig COVID-19, maent hefyd wedi gorfod cystadlu ag adleoli eu cleifion bregus i lety dros dro ar safle Bryn y Neuadd ar fyr rybudd, ar ôl i broblemau strwythurol gael eu dynodi gydag Adeiladau Tan y Coed.

“Mae’r Pandemig COVID-19 wedi dod â’i heriau annisgwyl a digynsail i’r GIG a chredaf ei bod yn deg dweud nad oes unrhyw un wedi dianc yn ddianaf,” eglurodd Dewi.

“O ystyried natur a chyflwr ein cleifion, nid oedd eu hadleoli fyth am fod yn weithred hawdd i'w gyflawni mewn amserlen fer iawn.

“Roedd gan hyn y potensial i fod yn  adeg anodd a gofidus iawn i’n holl gleifion. Fodd bynnag, oherwydd y proffesiynoldeb eithriadol a'r cariad, y gofal ac ymrwymiad gwirioneddol a ddangoswyd gan yr holl staff, nid yw hyn wedi bod yn wir.

“Mae’r symudiadau wedi profi i fod yn anodd iawn i’n staff ac maent yn haeddu cydnabyddiaeth am eu proffesiynoldeb anhunanoldeb wrth sicrhau diogelwch a lles ein cleifion yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.

“Ni allaf eu canmol ddigon am fynd gam yn ychwanegol mewn sefyllfa o argyfwng.”

Cyflwynwyd y wobr i'r tîm gan Nichaela Jones - Pennaeth Nyrsio Gwasanaethau Anabledd Dysgu, a Will Williams - Pennaeth Gweithrediadau a Darpariaeth Gwasanaethau ar gyfer Gwasanaethau Arbenigol a Gomisiynwyd,  yn ystod seremoni annisgwyl.

Dywedodd Will: “Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol iawn i dîm sy'n mynd gam yn ychwanegol yn gyson i ddarparu'r gofal gorau un i'n cleifion."

Ychwanegodd Nichaela: “Mae'r tîm yn Tan y Coed yn cynrychioli popeth sy'n dda am anabledd dysgu ac rwy'n hynod falch o'r ffordd maen nhw wedi tynnu at ei gilydd i gefnogi ein cleifion yn ystod cyfnod heriol iawn.”