Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwyr Ysbyty Gwynedd yn darparu cefnogaeth hanfodol i gleifion a theuluoedd yn ystod y pandemig

20.01.2022

Mae tîm o wirfoddolwyr a Chynorthwywyr Gofal Iechyd wedi helpu bron i 4,400 aelodau o’r cyhoedd yn Ysbyty Gwynedd ym mis Rhagfyr.

Ers cychwyn y pandemig ma tîm o wirfoddolwyr, yn cynnwys aelodau o’r Gwasanaaeth Gwirfoddol Brenhinol, aelodau o’r cyhoedd sydd wedi rhoi eu hamser a Chynorthwywyr Gofal Iechyd, wedi helpu cleifion i allu derbyn eitemau hanfodol o gartref.

Mae ymweliadau wedi cael eu cyfyngu yn yr ysbytai oherwydd y pandemig ac mae’r tîm wrth y brif dderbynfa wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod cleifion yn cael eitemau hanfodol o gartref tra maent yn yr ysbyty.

Mae’r gwirfoddolwyr wedi bod wrth y ddesg saith niwrnod yr wythnos i gefnogi aelodau o’r cyhoedd, ac yn ystod mis Rhagfyr fe wnaethant ddelio â dros 1,400 o ymholiadau, helpu i gyfeirio bron i 1,500 o gleifion i’w hapwyntiadau a danfon dros 1,100 o eitemau hanfodol i gleifion mewnol.

Dywedodd Nicky Jones, sy’n Nyrs ond hefyd yn gyfrifol am y ddesg flaen: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’n tîm gwych o wirfoddolwyr am eu help. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’n cleifion yn yr ysbytai, ac i’w teuluoedd.

“Yn ogystal â delio â nifer o ymholiadau gan y cyhoedd meant hefyd yn croesawu ein cleifion sydd wedi dod i mewn i apwyntiadau ac i gael llawdriniaethau ac yn eu helpu drwy eu cyfeirio at yr adran gywir.

“Oherwydd ein canllawiau atal heintiau llym maent hefyd yn helpu sicrhau bod ein holl gleifion yn cael mygydau ac yn defnyddio hylif diheintio dwylo wrth y dderbynfa i helpu i’w cadw’n ddiogel tra meant yn ymweld â ni.”

Mae mis Rhagfyr wedi bod yn gyfnod prysur iawn i’r tîm o wirfoddolwyr ac mae aelodau o’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol wedi bod yn falch o gael cefnogi’r ysbyty yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd Debbie Griffin, Rheolwr Gwasanaeth gyda’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol: “Mae mis Rhagfyr a’r cyfnod cyn y Nadolig wedi bod yn gyfnod prysur iawn i Hannah Coles – Cydlynydd Gwasanaeth a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio wrth y ddesg flaen gyda chymysgedd o ymholiadau gan gleifion, cyfeirio cleifion at adrannau a derbyn pecynnau hanfodol gan berthnasau i’w danfon i’r wardiau.

“Mae ymrwymiad pawb yn wych ac yn dangos bod pawb yn gweithio’n wych fel tîm. Hoffem ddiolch i bawb am wneud y gwasanaeth hwn yn llwyddiant.”

Ychwanegodd Meinir Williams, Cyfarwyddwr Gofal Llym yn Ysbyty Gwynedd: “Rydym yn ymwybodol iawn o ba mor anodd y mae hi wedi bod ar deuluoedd ddim yn cael gweld eu hanwyliaid yn yr ysbyty yn ystod y pandemig.

“Mae cael y gwasanaeth hwn yn ein desg flaen wedi golygu ein bod wedi gallu parhau i ddanfon eitemau personol o gartref i’n cleifion sydd wedi bod yn gysur mawr.

“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’n holl wirfoddolwyr am eu hymrwymiad i helpu ein cleifion, eu teuluoedd a’n staff.”