Neidio i'r prif gynnwy

Gwella hwyliau plant gyda rhoddion Nadolig gan gyfeillion hael

22.12.21

Bydd plant ar ward baediatrig yn derbyn toreth o anrhegion y Nadolig hwn oherwydd haelioni pobl eraill.

Er iddi fod yn flwyddyn anodd ar lefel emosiynol ac ariannol i lawer o unigolion a busnesau, mae cannoedd o roddion calonogol wedi'u cyflwyno i ward y plant Ysbyty Glan Clwyd.

Bydd pobl ifanc sy'n gorfod aros yn yr ysbyty yn derbyn teganau meddal, bocsys o siocledi amrywiol, a thoreth o anrhegion eraill i ddathlu hwyl yr ŵyl yn ystod eu triniaeth.

Ddydd Mawrth, derbyniodd yr adran gant o deganau meddal a 100 o focsys o siocledi amrywiol wedi'u lapio'n unigol gan Barciau Gwyliau Lyons, sy'n cynnal safle yn Nhalacre.

Ar ôl i 72 awr o gwarantin fynd heibio, bydd y rhai bach yn gallu dewis o eirth, anifeiliaid ac ungyrn meddal.

Dywedodd Joseph Lyons Mound, cyfarwyddwr Parciau Gwyliau Lyons: "Mae'r Nadolig yn ymwneud â rhoi a gobeithiwn y bydd yr arwydd bach yma o garedigrwydd yn mynd yn bell, yn enwedig eleni.

"Ni allwn ni roi mewn geiriau'r effeithiau y mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi'u cael ar y GIG ac os bydd y rhodd fach hon yn gwella'r hwyliau ychydig bach yn unig, mae hynny'n ddigon da i ni.

"O un teulu i'r llall, hoffem ddymuno Nadolig heddychol a thawel i'r holl staff, plant a chleifion yn Ysbyty Glan Clwyd."

Mae rhoddion wedi'u derbyn yn ddiolchgar hefyd gan: Presthaven; Giddo’s Gifts; Ysgol Christchurch, Y Rhyl; Elusen y Plant Starlight; Ysgol Ddawns Tik, Y Rhyl a Pharciau Gwyliau Lyons.

Dywedodd Cara Roberts, rheolwr ward ar ward baediatrig Ysbyty Glan Clwyd: "Gall y Nadolig fod yn adeg anodd i blant sydd yn yr ysbyty ac mae'n waeth ar hyn o bryd oherwydd y pandemig.

"Mae'n galonogol gweld y rhoddion y mae pobl wedi'u casglu ar gyfer ein plant a hoffwn ddiolch i bawb am eu haelioni.

"Rydym ni bob amser yn ceisio sicrhau bod y Nadolig yn adeg arbennig i blant ar y ward ond bydd y rhoddion hyn yn sicr yn rhoi ambell wên ychwanegol ar eu hwynebau."

Derbyniwyd rhodd hael hefyd ar gyfer plant sy'n aros yn Ysbyty Gwynedd dros y Nadolig gan staff a theuluoedd yn RAF y Fali yn Ynys Môn.