Neidio i'r prif gynnwy

Gweithredwr switsfwrdd Ysbyty Gwynedd yn paratoi ar gyfer naid awyren er cof am ei bartner

Mae gweithredwr switsfwrdd yn Ysbyty Gwynedd yn gwneud naid awyren er cof am ei bartner a fu farw.

Saith mlynedd yn ôl, bu farw Tammy Winters o ffibrosis cystig yn 30 oed ar ôl byw gyda’r clefyd gydol ei hoes.

Disgrifiodd ei phartner, David Griffith, hi fel unigolyn a oedd yn llawn bywyd a dywedodd y byddai’n cefnogi ei her yn llawn.

Dywedodd: “Roedd Tammy yn unigolyn gofalgar iawn a bob amser yn rhoi pawb arall yn gyntaf - roedd bob amser yn gofalu am weddill y teulu.

“Roedd bob amser yn barod i wneud unrhyw beth felly rwy’n gwybod y byddai’n awyddus iawn i mi wneud y naid awyren!

“Nid wyf yn hoff o uchder o gwbl felly rwy’n nerfus iawn i’w wneud ond yn gyffrous yr un pryd!”

Bydd David, o Fangor yn cymryd rhan yn y naid awyren ddydd Sul 2 Awst, i godi arian at Ymddiriedolaeth Ffibrosis Cystig.

“Fe wnaeth yr elusen cymaint i Tammy. Fe wnaethant hyd yn oed helpu i godi arian tuag addasu’r tŷ i fodloni ei hanghenion, roeddent yn wych.

“Dyma fy ffordd i o ddweud diolch am yr holl wnaethant a hefyd i helpu eraill sy’n byw â Ffibrosis Cystig,”ychwanegodd David.

I noddi David, gallwch gysylltu ag ef drwy e-bostio david.griffith2@wales.nhs.uk