Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth newydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam am wella profiad cleifion

Bellach mae gan gleifion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n ymweld ag Ysbyty Maelor Wrecsam bwynt cyswllt newydd ar ôl lansio gwasanaeth Cyngor a Chefnogaeth Cyswllt i Gleifion (PALS).  

Nawr, mae PALS ar gael yng nghyntedd yr ysbyty i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth ac ymwelwyr.  

Mae PALS yn ateb ymholiadau gan gleifion, gofalwyr a pherthnasau er mwyn chwilio am ddatrysiad amserol boddhaol.  Mae PALS yn galluogi cyfathrebu effeithiol rhwng staff a chleifion, gofalwyr a’u teuluoedd gan hyrwyddo ‘Dywedoch chi, Gwnaethom Ni’ a dylanwadu’n gadarnhaol ar y gwasanaethau. 

Bydd y gwasanaeth yn Wrecsam, a lansiwyd yn swyddogol gan y Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Nyrsio a Bydwreigiaeth, Deborah Carter, yn helpu aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â'r ysbyty ac yn ei ddefnyddio i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sydd ganddynt yn effeithlon ac yn brydlon.

Dywedodd Pennaeth Profiadau Cleifion a Defnyddwyr y Gwasanaeth, Carolyn Owen: "Mae ein tîm PALS yma i wrando ar unrhyw bryder, awgrym, canmoliaeth ac ymholiad cyn gynted â phosib.

"Gallant hefyd ddarparu gwybodaeth am sefydliadau eraill a all ddarparu gwybodaeth neu gyngor.

"Maent hefyd yma i gynnig cyngor a chefnogaeth ddiduedd i gleifion, teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau a'r gobaith yw y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i brofiad cyffredinol unigolion sy'n ymweld â'r ysbyty."

Mae swyddogion PALS wedi ymgymryd â rhaglen gynefino fanwl a bellach yn edrych ymlaen at siarad ag ymwelwyr a chleifion yn yr ysbyty i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth.