Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth newydd hunan-brofi INR ar gyfer cleifion yng Ngogledd Cymru

Mae cleifion sy'n dueddol o gael clotiau gwaed yn awr yn gallu monitro ei hunain gartref yn ystod y pandemig COVID-19 gyda pheiriant profi newydd.

Mae'r gwasanaeth ar gyfer pobl sy'n cael y cyffur warfarin ar bresgripsiwn i atal clotiau gwaed. Fel arfer byddai'n rhaid iddynt fynd i gliniau meddygol yn rheolaidd i gael profion gwaed i bennu'r dos cywir.

Yn awr, gall rhai cleifion brofi ei hunain gartref a ffonio'r feddygfa gyda'r canlyniadau a bydd gweithiwr proffesiynol gofal iechyd yn gallu dweud wrthynt sut i addasu eu dos warfarin, os oes angen.

Dywedodd Rhys Thomas, Fferyllydd yn Ysbyty Gwynedd,: "Mae Warfarin yn feddyginiaeth sy'n teneuo'r gwaed ac mae'n cael ei ragnodi ar gyfer sawl cyflwr. Mae'n gofyn am fonitro prawf Cymhareb Normaleiddio Rhyngwladol (INR) i bennu os yw'r dos yn addas. Mae hyn yn cael ei wneud drwy ddull 'pigo bys' yn y rhan fwyaf o achosion ac mae'r gwaed yn cael ei brofi ar beiriant yn y Feddygfa.

"Yn ystod mis Mawrth, edrychodd dimau nyrsio a thimau fferyllfa i mewn i'r syniad o brynu peiriannau hunan-brofi INR i leihau cyswllt cleifion gyda staff gofal iechyd ac i helpu'r rhai sy'n ynysu yn ystod y pandemig.

"Rydym yn awr yn cael y peiriannau mewn swp o oddeutu 50 bob pythefnos hyd at ddiwedd mis Awst a bydd y rhain yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer ein cleifion sydd fwyaf mewn perygl, a'r rhai nad oes gan opsiynau triniaeth eraill heblaw am warfarin, ac sy'n ynysu gartref".

Mae llawer iawn o waith wedi'i gynnal gan y timau i sicrhau bod hyfforddiant wedi digwydd mewn cyfnod byr.

Dywedodd Judith Colclough, Nyrs Arweiniol Arbenigol Thrombosis: "Cynhaliwyd yr holl hyfforddiant yn rhithiol, yn hytrach nag wyneb wrth wyneb.

"Fel arfer byddai'r prosiect mawr hwn ar draws Gogledd Cymru gyfan yn cymryd bron i ddwy flynedd i'w gwblhau. Fodd bynnag, rhoddwyd y prosiect hwn at ei gilydd mewn mis, ac roedd yn cynnwys nifer o wahanol dimau, mae hyn yn dangos yr ymdrech a'r gwaith mawr a wnaed i sicrhau y gallwn gynnig y gwasanaeth hwn i'n cleifion."

Meddygfa Bodreinallt yng Nghonwy oedd y feddygfa gyntaf yng Ngogledd Cymru i gael y peiriant hunan-brofi ar gyfer cleifion addas.

Dywedodd Dr Alistair Crawford o'r feddygfa: "Mae hyn yn gam gwych ymlaen yn y gymuned.

"Mae'n arbed llawer iawn o amser ac ymdrech y nyrsys ardal, mae'n llawer mwy hwylus i'r claf gan nad oes yn rhaid iddo/iddi aros i mewn am y nyrs ac mae'n llawer mwy amlbwrpas yn gyffredinol.

"Mae'n arbennig o ddefnyddiol yn y pandemig presennol, mae'n lleihau cysylltiadau diangen ac felly'n lleihau'r risg i gleifion a staff fel ei gilydd.”