Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth drwy ffenestr y car i gleifion y galon yn Llanfairfechan

Mae cleifion sydd â rheoliadur y galon a dyfeisiau cardiaidd wedi'u mewnblannu yn elwa o wasanaeth drwy ffenestr y car yn ystod y pandemig COVID.

Mae angen gwirio dyfais pobl sydd â rheoliadur y galon yn rheolaidd, fel arfer o leiaf unwaith y flwyddyn, ond oherwydd y cyfyngiadau oherwydd COVID-19, mae wedi bod yn anodd i'r tîm weld cleifion wyneb yn wyneb.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r Adran Archwiliadau Cardioleg yn Ysbyty Gwynedd wedi bod yn gweithredu clinig drwy ffenestr y car ym Mryn y Neuadd yn Llanfairfechan. Gall cleifion barcio o dan ardal gysgodol ac yna mae un o'r ffisiolegwyr cardiaidd yn lawr lwytho gwybodaeth o'u rheoliadur y galon trwy ffenest eu car.

Dywedodd Aled Hughes, Prif Ffisiolegydd Cardiaidd, yn Ysbyty Gwynedd: “Yn ystod y pandemig nid oeddem yn gallu cynnig apwyntiadau i unrhyw gleifion am gyfnod, ac mae rhai yn dal i fod yn amharod i ddod i glinig oherwydd pryderon ynghylch COVID.

“Pan fydd ein cleifion yn cyrraedd y clinig drwy ffenestr y car maent yn cael eu cyfarch gan aelod o staff ac mae dyfais ddiwifr, ychydig yn fwy na maint llygoden gyfrifiadur yn cael ei roi i'r claf trwy ffenest y car a bydd y claf yn ei ddal yn erbyn ei frest dros ei ddyfais sydd wedi’i mewnblannu.

“Mae'r wybodaeth yn cael ei lawr lwytho o'r ddyfais ar iPad, sydd wedyn yn anfon y wybodaeth i'n cronfa ddata rheoliadur y galon i'w hadolygu, sydd fel arfer yn cael ei wneud ar y cyfrifiadur yn y swyddfa ar y safle profi.

“Tra bod y wybodaeth yn lawr lwytho, rydym yn gallu cael ymgynghoriad gyda’r claf. Yna gofynnir i'r claf aros am ychydig funudau wrth i'r wybodaeth gael ei hadolygu, ac yna rhoddir y canlyniadau i'r claf. Mae'r broses gyfan yn cymryd tua phump i ddeg munud o’r dechrau i’r diwedd.

“Mae'r tîm wedi cael adborth cadarnhaol hyd yn hyn gan eu cleifion ond dim ond i gleifion penodol sydd â dyfeisiau sy'n cael eu gwneud gan y cwmni, Medtronic, y gellir cynnig apwyntiadau.

“Mae gweithgynhyrchwyr eraill yn gweithio ar fonitor a fydd yn caniatáu i ni wirio eu dyfeisiau hefyd, a fyddai’n golygu y byddem yn gallu cynnig yr apwyntiadau i fwyafrif ein cleifion yn y clinig drwy ffenestr y car.

“Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn ac rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu parhau i ddarparu’r gwasanaeth gwerthfawr hwn i’n cleifion.

“Mae'r clinig drwy ffenestr y car yn gyflym iawn ac rydym yn gallu darparu'r canlyniadau i'r claf y diwrnod hwnnw. Os yw popeth yn iawn yna mae'n rhoi tawelwch meddwl i'r claf ac nid oes angen iddo glywed gennym hyd nes ei apwyntiad nesaf," ychwanegodd Aled.