Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith cyflwyno'r pigiad atgyfnerthu yng Nghanolfan OpTIC yn parhau ar garlam er gwaethaf fandaliaeth yn hwyr y nos

Mae gwaith Betsi Cadwaladr i gyflwyno pigiad atgyfnerthu Covid yn parhau'n ddibaid er gwaethaf fandaliaeth yn un o'i ganolfannau brechu nos Fercher.

Roedd Canolfan OpTIC yn Llanelwy yn croesawu'r sawl a oedd ag apwyntiadau ar gyfer eu pigiadau o 8.30am fore dydd Iau, er bod 17 o ffenestri wedi'u torri.

Tra'r oedd swyddogion safleoedd troseddau'n parhau i gasglu tystiolaeth fforensig ar ôl y digwyddiad, roedd gwirfoddolwyr a brechwyr eisoes wedi gwneud y trefniadau angenrheidiol i barhau i ddiogelu'r boblogaeth.

Dywedodd Teleri Roberts, rheolwr nyrsio'r rhaglen frechu rhag Covid yng Nghanolfan OpTIC: "Mae'r gwasanaeth yn gweithredu yn ôl ei arfer er gwaethaf yr hyn a alwn ni'n weithredoedd amhriodol un unigolyn.

"Rydym wedi cynnal asesiad risg o'r fynedfa a'r allanfa ar gyfer y sawl sy'n dod i apwyntiadau, er mwyn sicrhau bod pobl yn ddiogel tra byddant yn yr adeilad.

"Byddem yn annog pobl i gadw at eu slot amser a'u hapwyntiadau sydd wedi trefnu ond dylent gofio nad clinig galw heibio yw hwn.

"Mae'r staff yma wedi gwneud gwaith gwych. Byddwn yn parhau i sicrhau bod y boblogaeth yn cael ei diogelu a bod modd iddynt fanteisio ar eu brechiadau rhag Covid mor ddiogel a chyflym â phosibl."

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi bron i 1.3m o frechiadau ar ffurf dos cyntaf, ail ddos a thrydydd dos (ar gyfer y rhai sydd â system imiwnedd wannach) a dosiau atgyfnerthu.

BIPBC oedd y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i lansio cyfleuster trefnu apwyntiadau ar-lein ar gyfer y pigiad atgyfnerthu ac mae hefyd yn anfon negeseuon testun a llythyrau at bobl i roi gwybod iddynt am eu hapwyntiadau. Mae'n bwysig os oes gan bobl apwyntiad eu bod yn cadw ato.

Os nad oes gan unrhyw un apwyntiad eto, ei fod dros 18 oed a bod o leiaf dri mis wedi mynd heibio ers derbyn ei ail frechiad rhag Covid, gellir trefnu pigiad atgyfnerthu yma: Trefnu apwyntiadau COVID-19 ar-lein - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nhs.wales)

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod dyn wedi cael ei arestio ar ôl yr ymosodiad ar Ganolfan OpTIC.

Dywedodd lleferydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Gwnaethom dderbyn galwad am 11.41pm neithiwr (Nos Fercher) yn rhoi gwybod am ddigwyddiad parhaus yn adeilad OpTIC ar Ffordd William Morgan, Llanelwy.

"Aeth swyddogion i'r safle a chafodd dyn 58 oed o Landdulas ei arestio ar amheuaeth o achosi Difrod Troseddol. Mae'n dal i fod yn y ddalfa, ac mae ein hymholiadau'n parhau."