Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith adeiladu gwerth £1.3m yn ailddechrau ar ganolfan cymorth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau newydd Caergybi

Mae gwaith adeiladu wedi ailddechrau ar ailddatblygu canolfan cymorth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau gwerth £1.3m yng Nghaergybi, ar ôl yr oedi a achoswyd gan y pandemig COVID-19.

Bydd estyniad sylweddol ar adeilad Craig Hyfryd ar Stryd Cambria'n galluogi pobl sy'n cael profiad o anawsterau iechyd meddwl, alcohol a chyffuriau i gael mynediad gan ystod o wahanol sefydliadau o dan un to.

Tan yn ddiweddar, roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel lleoliad ategol ar gyfer staff tîm iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Fodd bynnag, mae maint a chyflwr gwael yr adeilad wedi atal staff y GIG rhag gweithio'n effeithiol gydag asiantaethau eraill i ddarparu cefnogaeth cydgysylltiedig.

Bydd yr ailddatblygiad yn cynyddu gofod therapiwtig a gofod swyddfa'r adeilad yn sylweddol, gan alluogi gweithio ar y cyd rhwng ystod o sefydliadau, gan gynnwys timau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau BIPBC, elusen adsefydlu alcohol a chyffuriau CAIS, gwasanaethau prawf a chyflogaeth, a chyflenwyr eraill o’r trydydd sector.

Bydd hefyd yn cefnogi datblygu cynllun mentor cymheiriaid Cyfle Cymru, sy'n helpu pobl sy'n cael profiad o gamddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl i fagu hyder a chael mynediad at hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith.

Dywedodd Aled Hughes, Rheolwr Tîm BIPBC ar Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yn Ynys Môn: "Bydd yr ailddatblygiad yn darparu amgylchedd therapiwtig, modern sy'n caniatáu i ni weithio'n llawer mwy agos gydag ystod o asiantaethau eraill o dan un to i gefnogi adsefydliad unigolion.

"Rydym yn gwybod bod y math hwn o weithio’n aml-asiantaethol, ble gall unigolion gael mynediad yn hawdd at y gwasanaeth di-dor sydd ei angen arnynt, yn hanfodol os ydym am sicrhau'r canlyniadau gorau."

Dywedodd Clive Wolfendale, Prif Weithredwr CAIS:  "Rydym yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid eraill fel rhan o'r ailddatblygiad cyffrous yng Nghraig Hyfryd.

"Bydd y prosiect hwn yn caniatáu i'n staff arbenigol weithio'n fwy agos gyda chydweithwyr o wasanaethau prawf a chyflogaeth, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn ddyddiol gan helpu pobl o Ynys Môn i wella eu hiechyd, eu sefyllfaoedd personol a'u dyfodol.

"Rydym eisoes yn gweithio mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd yn ein huned dadwenwyno Hafan Wen yn Wrecsam, ar y cynllun cymorth cyflogaeth arloesol MI FEDRAF Weithio, fel noddwr menter cynnwys defnyddwyr gwasanaeth Caniad ac ar nifer o brosiectau cymunedol a therapiwtig eraill, ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar y llwyddiannau hyn yng Nghaergybi."

Yn ystod y cyfnod adeiladu, y disgwylir iddo ddod i ben yn Haf 2021, mae'r gwasanaethau a ddarperir yng Nghraig Hyfryd ar hyn o bryd wedi eu symud dros dro i Ganolfan WOW ar Ffordd Llundain.