Neidio i'r prif gynnwy

Gwahodd y cyhoedd i ddysgu mwy am wasanaethau yn Ysbyty Llandudno

Mae trigolion Llandudno yn cael y cyfle i edrych tu ôl i'r llenni yn ystod diwrnod arferol yn y GIG yng Ngogledd Cymru.

Mae Ysbyty Cyffredinol Llandudno yn agor ei ddrysau gyda diwrnod agored ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd rhwng 10am a 2pm, gan roi cyfle i drigolion lleol ganfod mwy am wasanaethau sydd ar gael yn y dref.

Mae'r diwrnod agored yn cynnwys taith o amgylch yr ysbyty, gan arweiniad Phil Rathbone ac yn cynnwys Maer Llandudno, y Cyng. Angela O'Grady, a fydd hefyd yn cyhoeddi enillydd cystadleuaeth i ysgolion lleol ddylunio poster hybu iechyd.  

Bydd dosbarthiadau iechyd a lles am ddim ar gael yn yr ysbyty hefyd, yn cynnwys sesiwn blas ar Tae Kwon Do am ddim, cystadleuaeth Wii Fit, a sesiwn ioga foreol.

Bydd staff y GIG hefyd wrth law trwy gydol y dydd i gynnig gwybodaeth a chyngor iechyd am ddim, yn ogystal â manylion am sut mae Uned Mân Anafiadau'r ysbyty'n gweithio. Gall ymwelwyr hyd yn oed edrych o gwmpas ambiwlans go iawn a fydd wedi'i leoli y tu allan i'r ysbyty am y diwrnod.

Dywedodd Metron Phil Rathbone: “Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ddod i adnabod eu hysbyty lleol yn well ac i ddysgu beth gallant ei wneud i aros yn iach. Rydw i wir yn edrych ymlaen at ddangos i bobl y gwaith gwych rydym ni’n ei wneud."

Mae'r diwrnod agored hefyd yn cynnig y cyfle i gyfarfod ag un o fydwragedd cymunedol Llandudno, cael mwy o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli yn yr ardal leol, a mwynhau cwpaned o de yng nghynllun Caffi Cof yr ysbyty, sy'n cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl sy'n byw gyda Dementia.

I gael rhagor o wybodaeth am y diwrnod neu sut i gymryd rhan, anfonwch e-bost  at vanessa.dean-richards@wales.nhs.uk neu megan.vickery@wales.nhs.uk.