Neidio i'r prif gynnwy

Goleuo Ysbyty Glan Clwyd gyda lliwiau'r enfys i ddathlu staff ac i nodi 40 mlynedd ers ei agor

Cafodd Ysbyty Glan Clwyd ei oleuo gyda lliwiau'r enfys ddoe i ddathlu ymdrechion staff y GIG i fynd i'r afael â COVID-19 ac i nodi 40 mlynedd ers agor yr ysbyty.

Cafodd y safle ei oleuo am 9.44pm, hirddydd yr haf, i nodi pedwar degawd o ofal yn yr ysbyty ym Modelwyddan.

Gwnaeth staff ddefnyddio'r achlysur arbennig hefyd i gofio am fywyd un o'n cydweithwyr Zaldy Manalo, a fu farw ar ôl dal COVID-19 y penwythnos diwethaf.

Wedi'i adeiladu'n wreiddiol ym 1980, mae gwasanaethau iechyd a chyfleusterau ar y safle wedi datblygu'n sylweddol dros y pedwar degawd a ddilynodd fel un o'r tri ysbyty ardal yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Rab Mcewan, Rheolwr-gyfarwyddwr yr Ysbyty: “Roeddem yn gobeithio gwneud nifer o gynlluniau i nodi 40 mlynedd ers agor yr ysbyty eleni, ond mae COVID-19 wedi'n rhwystro rhag gallu dathlu'n ddigonol.

“Ar ôl popeth yr ydym wedi bod trwyddo dros yr ychydig fisoedd diwethaf, roeddem am achub ar y cyfle hwn i ddangos ein gwerthfawrogiad i'r holl staff yn Ysbyty Glan Clwyd am eu hymateb anhygoel i'r pandemig hyd yn hyn. 

“Roedd yn gyfle i ddathlu'r 40 mlynedd hynny o wasanaethu'r gymuned leol, ac i edrych yn ôl ar yr hyn rydym wedi bod trwyddo gyda'n gilydd.

“Roedd rhywfaint o'r edrych yn ôl yna'n cynnwys atgofion am ffrindiau a chydweithwyr sydd wedi'n gadael, yn cynnwys Zaldy Manalo a gollodd ei fywyd yn dorcalonnus oherwydd coronafeirws yr wythnos diwethaf tra'r oedd yn gweithio yn YGC.

“Uwchlaw popeth, roedd yn ymwneud â thîm rheoli'r ysbyty'n gwneud rhywbeth i ddangos ein gwerthfawrogiad i bob aelod o staff sy'n gwneud cyfraniad anhygoel yma."

Cafodd Ysbyty Glan Clwyd ei agor ar 17 Mai 1980 gan Ei Huchelder Brenhinol Tywysoges Margaret, a chafodd cleifion eu trosglwyddo ar yr un diwrnod o Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl ac Ysbyty HM Stanley, Llanelwy.

Cafodd estyniad i'r ysbyty, sydd bellach yn gartref i wasanaethau merched a ward plant yr ysbyty, ei gwblhau ym 1994. Cafodd Uned Ablett, sy'n cynnig gofal i oedolion sydd angen gofal iechyd meddwl fel cleifion mewnol, ei hagor flwyddyn yn ddiweddarach ym 1995. Mae cynlluniau'n cael eu datblygu ar hyn o bryd am uned iechyd meddwl newydd ar diroedd Ysbyty Glan Clwyd i gymryd lle Uned Ablett.

Agorwyd Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru 20 mlynedd yn ôl i'r mis hwn. Mae gan y ganolfan ward achosion dydd a chleifion mewnol, ac mae'n darparu ystod o driniaethau cemotherapi a radiotherapi, gan weithio ochr yn ochr ag unedau canser yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd.

Yn 2011, dechreuodd gwaith ailddatblygu adeilad y prif ysbyty fel rhan o'r gwaith i dynnu asbestos a ddefnyddiwyd wrth ei adeiladu. Cafodd cyfanswm o fwy na 300,000 o dunnelli o asbestos ei dynnu o safle'r ysbyty, ac roedd gwasanaethau'n parhau i fod ar agor trwy gydol y gwaith ailddatblygu.

Roedd yr ailddatblygu'n gyfle i feddwl o'r newydd am osodiad cyfan yr ysbyty, gan gynnwys adleoli gwasanaethau i wella cydweithio a dysgu.

Roedd y gwelliannau’n cynnwys ailgynllunio sut roedd yr Adrannau Achosion Brys a'r theatrâu'n gweithio, gan addasu gosodiad wardiau i gyrraedd y safonau gofal iechyd diweddaraf, a chyfleusterau newydd yn cynnwys dialysis wrth ochr y gwely, gwasanaethau therapïau i gleifion mewnol a mynedfa ysbyty wedi'i hailwampio.

Cafodd y gwaith ei gwblhau yn 2019 trwy agor ystafell fwyta a bar te Cynghrair y Cyfeillion newydd i staff, cleifion ac ymwelwyr.