Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Llawfeddygol Brys yr un Diwrnod newydd yn Ysbyty Gwynedd i wella amser triniaeth i bobl sydd angen gofal brys

Bydd Uned Gofal Llawfeddygol Brys yr un Diwrnod newydd (SDEC) yn Ysbyty Gwynedd yn sicrhau bod cleifion yn cael y gofal sydd ei angen arnynt yn y lle cywir ar yr adeg gywir.

Mae’r SDEC ar gyfer cleifion llawfeddygol sy’n oedolion sy’n cael eu cyfeirio gan eu Meddyg Teulu neu sydd wedi cael eu gweld a’u hadolygu yn yr Adran Achosion Brys. 

Bydd y gwasanaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn asesu, rhoi diagnosis a thrin cleifion cymwys cyn eu rhyddhau gartref i wella neu aros am fwy o driniaeth.

Dywedodd Mr Anil Lala, Llawfeddyg Colorectol Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol ar gyfer SDEC: “Mae dipyn go lew o gleifion sy’n cael poen bol llym yn cael eu cyfeirio gan eu Meddyg Teulu gydag amheuaeth o gyflyrau llawfeddygol fel llid y pendics llym. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o’r cleifion sy’n cael eu cyfeirio atom gyda chyflyrau llawfeddygol angen llawfeddygaeth. Ar ôl cael asesiadau a phrofion diagnostig gan uwch feddyg, gall y cleifion hyn gael eu rheoli gartref yn hytrach na fel cleifion mewnol. 

“Datblygwyd yr uned hon i ddarparu ymgynghoriad effeithlon i gleifion a all fod yn poeni am ymweld â’r ysbyty yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

“Yn y gorffennol roedd yr holl gleifion a gyfeiriwyd gan eu Meddyg Teulu gydag amheuaeth o gyflyrau llawfeddygol llym yn gorfod teithio i ward lawfeddygol yn yr ysbyty cyn iddynt gael eu hasesu gan uwch feddyg. I osgoi teithiau diangen y tu mewn i’r ysbyty i gleifion nad oes angen iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty, mae’r gwasanaeth hwn yn awr wedi’i leoli wrth ddrws ffrynt yr ysbyty, drws nesaf i’r Adran Achosion Brys.

“Fel llawfeddygon hoffem weld ein cleifion yn ddigon cynnar i osgoi dirywiad yn eu cyflwr ac yn bendant cyn iddi fod yn rhy hwyr i ymyrryd. Rydym yn credu y bydd y gwasanaeth hwn yn helpu ein cleifion i gael mynediad hawdd ar gyfer eu cyflyrau llawfeddygol llym.”

Dywedodd Mr Oliver Blocker, Llawfeddyg Orthopaedig Ymgynghorol sydd wedi cael ei gefnogi gan y Comisiwn Bevan i gefnogi cyflwyno’r uned SDEC yn Ysbyty Gwynedd: “Rwy’n falch iawn o’r cydweithio sydd wedi bod gyda fy nghydweithwyr sydd wedi ein caniatáu i sefydlu SDEC i’n cleifion.

“Mae gweledigaeth y tîm Orthopaedig o wasanaeth Trawma Drws Ffrynt ym Mangor yn ffitio’n berffaith gyda’r model hwn ac rwy’n credu ein bod yn arwain y ffordd yn genedlaethol gyda’r math hwn o wasanaeth.

“Mae cleifion ag anafiadau cyhyrysgerbydol yn awr yn cael penderfyniad ar unwaith am eu gofal gyda chynllun ar gyfer triniaeth yn cael ei roi ar waith gan uwch feddyg ymgynghorol wrth y drws ffrynt.

“Mae hyn yn atal derbyniadau i’r ysbyty ac yn darparu gofal prydlon i’n cleifion hefyd.”

Caiff yr uned ei rhedeg gan dîm o uwch staff nyrsio a llawfeddygol a all ddarparu mynediad cyflym at brofion a thriniaethau.

Dywed Arniel Hernando, Uwch Nyrs Ymarferydd,  sydd wedi cael ei drosglwyddo o Ward Conwy i’r SDEC bod yr uned yn rhoi cyfle i staff o arbenigeddau gwahanol i ddysgu gan ei gilydd.

Dywedodd: “Mae hwn yn gyfle gwych i nyrsys fel finnau fod yn rhan o brosiect fel hwn. 

“Mae cleifion yn cael eu gweld yn gyflym iawn ac yn cael eu triniaeth yn brydlon fel y gallent fynd adref ar yr un diwrnod heb fod angen iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty.

“Mae hyn yn bwysig iawn i ni, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn, pan rydym eisiau lleihau’r amser y mae ein cleifion yn ei dreulio yn yr ysbyty.

“Yn ogystal â gweld y manteision i’n cleifion, rwyf wir yn edrych ymlaen at weithio ag arbenigeddau gwahanol a dysgu o arbenigedd ein gilydd.” 

Ychwanegodd, Lesley Walsh, Pennaeth Llawfeddygol Nyrsio: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses o sefydlu SDEC yn Ysbyty Gwynedd.

“Y prif amcan yw gwella profiad ein cleifion llawfeddygol pan fyddent yn dod i’n hysbytai am ofal brys.

“Mae SDEC yn darparu’r driniaeth gywir ar yr adeg gywir, ac yn darparu mynediad cynt at sganiau a diagnosteg. 

“Bydd hefyd yn lleihau’r nifer o dderbyniadau dros nos ac yn sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld gan arbenigwr sydd yn gallu hwyluso triniaeth a diagnosis cynnar gyda’r nod o gael eu rhyddhau ar yr un diwrnod.”

Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am – 8pm.