Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Dementia: Rhannu'r Daith

18/05/21

Mae'r GIG yng Ngogledd Cymru wedi cyhoeddi arweiniad newydd i egluro fwy am y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia, yn ogystal â'u teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae Gofal Dementia: Rhannu'r Daith yn egluro'n glir pa gefnogaeth y mae pobl yn ei disgwyl wrth gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd, p'un a yw hynny yn yr ysbyty neu yn y gymuned, yn ogystal ag egluro'r rôl y mae'n rhaid i deuluoedd a gofalwyr ei chwarae wrth gynllunio gofal.

Mae'r lansiad yn cyd-fynd ag Wythnos Gweithredu Dementia 2021, sy'n ymgyrch cenedlaethol o dan arweiniad y Gymdeithas Alzheimer's.  Mae wedi ei dylunio i godi ymwybyddiaeth a gwella bywydau pobl a effeithir gan ddementia, ac mae'n cael ei gefnogi'n llawn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Meddai Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: "Rydym yn gwybod bod mynd i'r ysbyty a chael triniaeth yn gallu bod yn brofiad pryderus, yn enwedig i rywun sydd â dementia.

"Rydym eisiau sicrhau bod y lefel cywir o gymorth ar gael ar bob cam o daith y claf, a hefyd i aelodau o'r teulu a'r gofalwyr. 

"Mae ein harweiniad newydd, Gofal Dementia: Rhannu'r Daith , yn helpu i ddangos sut y bydd y cymorth yn cael ei ddarparu p'un a yw pobl yn dod i mewn am apwyntiad wedi ei gynllunio neu am achos brys.  Mae'n egluro mwy am sut yr ydym wedi ei gwneud hi'n haws i bobl sydd â dementia gael y budd mwyaf o'n gwasanaethau ac yn amlinellu'r gofal y gallwch chi a'ch teulu ei ddisgwyl o'r diagnosis i ofal diwedd-oes.

"Mae mor bwysig ein bod yn cymryd y cyfle i godi ymwybyddiaeth am ddementia a sut i sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth a'r cymorth gorau posib."

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ein Llwybr Gofal Integredig newydd a fydd yn gwneud ein gwasanaethau yn fwy cyfeillgar i bobl â dementia: Gofal Dementia: Rhannu'r Daith.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Wythnos Gweithredu Dementia ar wefan Cymdeithas Alzheimers.