Neidio i'r prif gynnwy

Galw ar gyn aelodau o staff i ddychwelyd i'r gwaith er mwyn cefnogi cydweithwyr yn ystod pandemig COVID-19

Mae cyn nyrs o'r Adran Achosion Brys yn dychwelyd i'r GIG er mwyn cefnogi ei chydweithwyr yn wyneb achosion COVID-19.

Mae Nayema Williams yn un o blith nifer o nyrsys sy'n dychwelyd i'r proffesiwn ar draws Gogledd Cymru er mwyn helpu'r gwasanaeth iechyd i drechu'r firws.

Bu Nayema'n gweithio yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd am bum mlynedd a gadawodd y proffesiwn er mwyn sefydlu ei busnes ei hun yn 2018.

Yn dilyn achosion COVID-19, penderfynodd ail-ymuno â'r gwasanaeth iechyd ac mae hi ar hyn o bryd yn cael hyfforddiant i ofalu am gleifion sydd â salwch critigol.

Dywedodd: “Pan sylweddolais pa mor ddifrifol oedd achosion COVID-19 wedi dod, penderfynais ddychwelyd at nyrsio er mwyn helpu fy nghydweithwyr.

“Rydw i wedi cael ychydig o hyfforddiant yn ddiweddar gyda'r tîm gofal dwys yn Ysbyty Gwynedd er mwyn adnewyddu fy sgiliau. Dydw i ddim wedi cael unrhyw gyswllt â chleifion yn y ddwy flynedd diwethaf felly mae'r hyfforddiant yma wedi bod o fudd mawr."

Mae Hazel Taylor, Nyrs Datblygu Arferion yn Ysbyty Gwynedd, wedi bod yn gysylltiedig â threfnu hyfforddiant ar gyfer aelodau o staff sy'n dychwelyd, a hefyd y rheiny sy'n cael eu hadleoli i rolau eraill yn y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd: “Rydym ni wedi bod yn brysur iawn yn trefnu sesiynau hyfforddiant ar gyfer nifer o aelodau gwahanol o staff ar draws yr ysbyty fel eu bod yn gallu dod i Ofal Critigol er mwyn gofalu am ein cleifion mwyaf sâl yn ystod y cyfnod hwn.

“Byddwn yn annog unrhyw aelodau o staff sydd wedi ymddeol i ddod yn ôl atom i'n cefnogi, gallwn ni gynnig hyfforddiant sylweddol a chymorth llawn gan y Tîm Gofal Critigol i chi fel y byddwch yn teimlo'n gyfforddus yn dychwelyd i'r gwaith."

Mae angen rolau hefyd yn ein tri ysbyty dros dro ym Mangor, Llandudno a Glannau Dyfrdwy, yn ogystal ag yn ein cymuned.

Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am nyrsys cofrestredig, meddygon a therapyddion i ymuno â'n timau ar draws Gogledd Cymru.

Mae gennym ystod o rolau llawn amser, dros dro, hyblyg ac ar gyfer gweithwyr banc gyda'r gofyniad i ddechrau'n syth.

Os hoffech ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb mewn dychwelyd, ewch i https://bcuhb.nhs.wales/covid-19/betsineedsyou/