Mae fferyllydd yng Ngogledd Cymru yn helpu rhieni sy'n addysgu plant gartref i gael mynediad at ddeunydd am atal haint, micro-organebau a defnydd o wrthfiotigau.
Mae'r Fferyllydd Gwrthficrobau, Kailey Sassi-Jones wedi datblygu cyfres fer o wersi ar fyd micro-organebau, atal haint a defnydd gwrthfiotigau.
Mae'r adnodd dwyieithog rhad ac am ddim wedi ei e-bostio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i'r holl gydlynwyr ysgolion iach yng Nghymru i'w rannu gyda'u hysgolion cynradd.
Mae'r modiwlau wedi eu hanelu at blant blynyddoedd tri a phedwar ysgolion cynradd, ond gellir ei ddefnyddio gan blant iau o dan oruchwyliaeth, yn ogystal â phlant hŷn a all ehangu ar y gweithgareddau sy'n dilyn y cyflwyniad byr.
Mae'r adnoddau'n cynnwys croeseiriau, chwileiriau a gweithgareddau rhyngweithiol eraill i helpu plant i ddysgu am beth yw organebau niweidiol a sut y gall firysau megis y ffliw achosi afiechydon.
Dywedodd Kailey: "O ystyried ein sefyllfa ni ar hyn o bryd, roeddwn i eisiau datblygu pecyn gan ddefnyddio'r adnoddau e-Bug i helpu plant i ddeall beth yw chwilod a germau, i'w helpu i gael gwell syniad o'r hyn sy'n digwydd ledled y byd gyda COVID-19.
"Er nad yw'r adnodd yn ymwneud â'r Coronafeirws yn benodol, a hynny'n fwriadol, mae'n cynnwys gwybodaeth ar beth ydyw a sut mae'n cael ei drosglwyddo o fewn y cysyniad ehangach o organebau niweidiol.
"Mae'r hyfforddiant wedi ei anelu tuag at addysgu plant iau am beth yw haint, a sut yr ydym yn amddiffyn ein hunain ac eraill ohono.
"Mae wedi ei ddylunio i fod mor hygyrch i gymaint o ddisgyblion â phosib. Gall plant iau fwynhau'r gweithgareddau cynwysedig, tra gall disgyblion hŷn adeiladu ar yr addysg gynwysedig a datblygu eu gwybodaeth o sut mae firysau a bacteria'n gweithio.
"Mae'n hawdd i rieni ei ddefnyddio a gobeithio ei fod yn hwyl i'r plant gymryd rhan ynddo hefyd."
Mae'r adnodd ar-lein sydd am ddim yn dilyn llwyddiant prosiect Kailey gydag arweinwyr ysgolion iach o Gonwy a Sir Ddinbych ble darparwyd sesiynau 'Hyfforddi'r Athro' dwyieithog, gan hwyluso'r defnydd o ddeunyddiau e-Bug achrededig NICE yn yr ystafell ddosbarth.
Yn ogystal â bod am ddim i rieni a gofalwyr gael mynediad ato o gartref, caiff y modiwlau eu rhannu gydag ysgolion ar draws Gogledd Cymru i gefnogi addysgu yn yr ystafelloedd dosbarth.
Mae'r modiwl cyntaf yn cyflwyno plant i fyd y micro-organebau a chafodd ei rannu gyda phob ysgol gynradd yng Nghymru drwy'r arweinwyr ysgolion iach ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r ail fodiwl yn canolbwyntio ar ficro-organebau niweidiol ac yn cyflwyno'r cysyniad o atal haint, ac mae'r trydydd modiwl yn atgyfnerthu pwysigrwydd o olchi dwylo ac iechyd y croen sy'n adnodd pwysig ac amserol wrth i'r ysgolion ail agor.
Mae mwy o ddeunydd ar gael mewn dros ugain o ieithoedd ar www.e-bug.eu. Gallwch ddod o hyd i adnoddau Kailey drwy ddilyn y ddolen hon:
Saesneg - https://e-bug.eu/junior_pack.aspx?cc=wal_eng&ss=2&t=Introduction%20to%20Microbe
Cymraeg - https://e-bug.eu/junior_pack.aspx?cc=wal&ss=2&t=e-Bug%20Lesson%20Pack