Neidio i'r prif gynnwy

Fel mae twristiaid a'r rhai sy'n mynd allan am y diwrnod yn paratoi i ddod i Ogledd Cymru yr haf hwn, mae arweinwyr y GIG yn eu hannog i gael triniaeth yn ddiogel a lleddfu pwysau sydd ar staff meddygol

14/07/21

Bydd y pandemig COVID-19 yn gweld pobl ar draws y DU yn dewis cael gwyliau yn y wlad hon yn hytrach na theithio dramor yn y misoedd sydd i ddod, sy’n golygu y bydd poblogaeth y rhanbarth yn codi’n sylweddol, gan roi straen ychwanegol ar weithwyr ysbyty.

Fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru Helpu Ni, Helpu Chi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gofyn i ymwelwyr feddwl dwywaith cyn mynychu Adran Achos Brys neu ffonio 999 gyda chyflyrau sydd ddim yn bygwth bywyd.  

Yn lle hynny, anogir pobl i ffonio 111 am ddim o linell dir neu ffôn symudol, lle byddant yn derbyn cefnogaeth a chyfarwyddyd 24 awr.

Hefyd mae gwefan GIG 111 Cymru - sy’n cynnwys gwiriwr symptomau ar-lein a manylion o gwynion a chyflyrau cyffredin i edrych allan amdanynt - fferyllfeydd cymunedol, ac Unedau Mân Anafiadau (MIU) sy’n delio gydag ystod o anafiadau o losgiadau, pigiadau, brathiadau anifeiliaid a thoriadau i’r pen, i anafiadau mân i goesau neu freichiau, llygaid ac anafiadau pen.

Mae Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cychwynnol a Chymunedol yn annog unrhyw un gyda phryderon iechyd i gysylltu â’r platfformau hyn yn y lle cyntaf.                           

“Fel mae cyfyngiadau COVID-19 yn llacio a’n bod ni’n nesáu at wyliau’r ysgol, fe fydd cynnydd mawr yn y nifer o bobl yn y rhanbarth,” meddai Dr Stockport.  

“Trwy gydol y pandemig Coronafirws, rydym wedi cofleidio technoleg ddigidol a gwasanaethau rhithwir, a chyda’r rhif ffôn 111 nawr ar gael i gleifion yng Ngogledd Cymru, mae yna sawl ffordd y gall pobl gysylltu i gael mynediad at y GIG yn ddiogel.

“Bydd hynny yn ei dro yn lleddfu’r pwysau ar staff gofal iechyd, gostwng amseroedd aros ac arbed adnoddau hanfodol pan fyddwn ni eu hangen fwyaf.”

Ychwanegodd: “Trwy ffonio 111 byddwch yn derbyn yr holl gefnogaeth arbenigol a fydd ei angen arnoch, ac os bydd angen apwyntiad neu asesiad y tu allan i oriau, gellir trefnu hynny.  Os yw’n argyfwng yna dylech ffonio 999 neu fynd i’r ysbyty agosaf, ond dim ond mewn achos o argyfwng.

“Ac os ydych yn cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd, cofiwch ddod ag o gyda chi.”

Gofynnir i wersylloedd gwyliau, gweithwyr twristiaeth, gwestai a busnesau lletygarwch rannu’r neges gyda gwesteion a helpu i ostwng y pwysau ar weithwyr gofal iechyd yr haf hwn.  

Ategodd Jim Jones, Prif Weithredwr Twristiaeth Gogledd Cymru y geiriau hynny ac ychwanegodd: “Rydym yn disgwyl gwyliau’r haf i fod yn eithriadol o brysur eleni, sydd i’w groesawu ac yn union beth mae’r diwydiant ei angen ar ôl amser mor heriol.  

“Tra rydym eisiau i’n hymwelwyr fwynhau ein hardal hardd, rydym hefyd eisiau iddynt fod yn ymwybodol o sut i gael help os ydynt yn mynd i drafferthion meddygol.  

“Y ffordd hawsaf a chyflymaf o dderbyn cefnogaeth feddygol yw ffonio 111 yn hytrach na mynychu adrannau achosion brys ysbytai, felly gwrandewch ar y cyngor a helpwch staff y GIG yma yng Ngogledd Cymru wrth ymweld â’r ardal.”

Mae GIG 111 Cymru wedi’i staffio gan dîm mawr o nyrsys, meddygon a fferyllwyr, a dwsinau o ymdrinwyr galwadau wedi’u hyfforddi.  Mae’r gwasanaeth yn cael ei weithredu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o leoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys mewn canolfan fawr yn Llanelwy.

Am fwy o wybodaeth ar y ffordd orau o gael mynediad at wasanaethau’r GIG ewch i gwefan GIG 111 Cymru.

Os nad ydych yn siŵr ble i fynd am y cyngor a’r driniaeth gywir, mae nifer o ddewisidau a gwasanaethau ar gael ar draws Gogledd Cymru i'ch helpu i gael y cyngor iawn.

Defnyddiwch yr hashnodau #HelpuNiHelpuChi a#HelpUsHelpYou i gefnogi’r ymgyrch Helpu Ni, Helpu Chi.