Neidio i'r prif gynnwy

Enwebu nyrs arbenigol methiant y galon am wobr genedlaethol fawreddog

Mae nyrs sy'n arbenigo ym methiant y galon ac ecocardiograffeg wedi'i henwebu am wobr iechyd fawreddog.

Mae Viki Jenkins, sy’n Uwch Nyrs Ymarferydd Methiant y Galon ac yn Ecocardiograffydd, wedi'i henwebu am wobr yng nghategori Grymuso pobl i gyd-gynhyrchu eu gofal yng Ngwobrau GIG Cymru eleni.

Mae Viki wedi cael cydnabyddiaeth am ei gwaith yn datblygu ac yn treialu ap sy'n monitro cleifion sydd â chyflyrau'r galon yn eu cartref trwy gyfrwng eu ffôn symudol neu gyfrifiadur llechen.

Lluniwyd  yr ap gan gwmni datblygu Huma a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a dreialodd yr ap yn ystod haf 2021.

Fel rhan o'r arbrawf, cafodd cleifion offer i gymryd darlleniadau, yn cynnwys cyff i fesur pwysedd gwaed, clorian i bwyso ac ocsifesurydd pwls.

Gallai arbenigwyr ym maes cardioleg fonitro symptomau a chynnydd pob claf o bell, a chynnal ymgynghoriadau trwy gyfrwng fideo i ymdrin ag unrhyw bryderon. Pan oedd angen hynny, trefnwyd i gleifion ymweld â'r ysbyty i gael rhagor o driniaeth ac ymgynghori.

Dywedodd Viki: “Roedd yn gyfle gwych i archwilio sut yn union fydd gwasanaethau iechyd y dyfodol – mae COVID-19 wedi dangos y dylem groesawu arloeseddau fel hwn.

“Bydd cleifion yn cael yr ymyriadau gofynnol yn gynt. Gallaf ei ddefnyddio'n gyflym ac yn rhwydd, ac mae'n atal pobl rhag dod i'r ysbyty’n ddiangen.”

Cynhelir Gwobrau Blynyddol GIG Cymru yng Nghaerdydd ar 20fed Hydref 2022, ac maent yn gyfle i ddathlu rhagoriaeth ac amlygu doniau staff iechyd a gofal yng Nghymru.