Neidio i'r prif gynnwy

Dros 2,000 o breswylwyr Ynys Môn i gael eu brechlyn COVID-19 yn Ysbyty Penrhos Stanley

Bydd oddeutu 2,000 o bobl yn cael eu brechlyn COVID-19 yn Ysbyty Penrhos Stanley dros y diwrnodau nesaf.

Dechreuodd y bobl gyntaf o'r pedwar grŵp blaenoriaeth o Gaergybi a'r ardal gyfagos gael eu pigiadau ddydd Iau,11 Chwefror.

Mae'r ganolfan frechu leol wedi'i sefydlu o fewn wythnos diolch i ymdrechion enfawr staff yr ysbyty a'r timau gofal cychwynnol.

Dau o'r bobl gyntaf i gael y brechlyn oedd gŵr a gwraig, Barbara a Peter Wrigley, o Fae Trearddur.

Dywedodd Barbara, 77 oed: “Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi cael fy mrechlyn, a hefyd ei gael mor agos at ble rydym ni'n byw.

“Nid ydym wedi bod allan yn unrhyw le mewn gwirionedd dros y flwyddyn ddiwethaf, ar wahân i’r siopau felly mae cael y brechlyn yn rhoi rhywfaint o obaith i ni fod yna olau ar ddiwedd y twnnel.

Ychwanegodd Peter, 75 oed: “Mae’n rhaid i mi ddiolch i’r staff am eu hymdrechion i ddarparu’r clinigau hyn yn y gymuned.

“Mae wedi’i drefnu’n dda iawn ac fe wnaeth pawb i chi deimlo’n gartrefol - mae cael y brechlyn hwn yn bwysig iawn, ac rwy’n annog pawb i’w gymryd pan ddaw eu tro nhw.”

Dywedodd Catrin Macey, Nyrs Arweiniol Glinigol ar gyfer Gofal Cychwynnol yn Ardal y Gorllewin y Bwrdd Iechyd, ei bod yn hynod falch o'r timau sydd wedi bod yn rhan o sefydlu'r clinigau mewn cyn lleied o amser.

Dywedodd: “Rydym ni mor falch o allu darparu darpariaeth ar gyfer y brechlyn yn lleol i gartrefi pobl.

“Rydym wedi cael cefnogaeth anhygoel gan lawer o wahanol staff y GIG i’n helpu i wneud hyn, mae meddygfeydd lleol yn cymryd rhan ac mae gennym ffisiotherapyddion, nyrsys o feddygfeydd eraill yn helpu i ddod â hyn at ei gilydd - mae’n fenter fawr ar y cyd.

“Mae'n wirioneddol anhygoel bod yn rhan ohono; Rwy'n credu ei fod yn dystiolaeth o ba mor ymroddedig a gwych yw ein staff yn y GIG."

Dr David Williams, o Feddygfa Fictoria yng Nghaergybi, yw un o’r Meddygon Teulu sy’n brechu cleifion yn yr ysbyty.

Dywedodd: “Mae'n bwysig bod gennym ni ganolfannau fel hyn ar gael yn y gymuned oherwydd gall rhai pobl ei chael hi'n anodd teithio i'r Ganolfan Brechu Torfol ym Mangor.

“Mae’n rhaid i ni hefyd gofio nad yw llawer o bobl yn y grŵp blaenoriaeth 1-4 wedi teithio’n bell dros y 12 mis diwethaf felly mae’n wych gallu cynnig y brechlyn yn lleol pan fydd yn bosibl.

“Mae bod yn yr ysbyty’n golygu ein bod yn gallu defnyddio’r Pfizer am y tro cyntaf gyda’n cleifion ar Ynys Môn a brechu dros 2,000 o bobl o fewn ychydig ddiwrnodau.

“Bydd hyn yn sicrhau ein bod wedi brechu llawer iawn o bobl fregus yn yr ardal hon erbyn diwedd y penwythnos, sy’n newyddion gwych.”

 Bydd yr ysbyty yn rhoi’r brechlynnau hyd at ddydd Sul, 14 Chwefror. Mae pob apwyntiad wedi'i drefnu ymlaen llaw, nid oes apwyntiadau galw heibio ar gael.

Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym ni wrth ein boddau gyda’r gefnogaeth rydym ni wedi’i chael i’n galluogi ni i sefydlu’r clinigau hyn yn yr ysbyty.

 “Mae gennym nifer o wirfoddolwyr o Gyngor Ynys Môn a Medrwn Môn yn cefnogi gyda dyletswyddau marsial ac yn tywys cleifion a thros 40 o wirfoddolwyr eraill sydd wedi rhoi eu henwau i gefnogi’r clinigau dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf.

 “Mae hon yn ymdrech gymunedol anhygoel, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r ymdrech i helpu i wneud i hyn ddigwydd.”

Mae pobl sy'n hynod fregus yn glinigol neu dros 70 oed nad ydynt eto wedi cael eu hapwyntiad brechlyn coronafirws cyntaf yn cael eu hannog i gysylltu â chanolfan trefnu brechlynnau dynodedig cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi dros 70 oed neu os ydych chi wedi cael llythyr ffurfiol o'r blaen gan Lywodraeth Cymru yn eich cynghori i gysgodi oherwydd eich bod chi'n hynod fregus yn glinigol, ac nad ydych chi wedi cael eich apwyntiad brechlyn coronafirws cyntaf, cysylltwch â’r Ganolfan Trefnu Brechlyn COVID-19 ar 03000 840004 i drefnu eich apwyntiad.