Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022 – dewch i gwrdd â rhai o'r merched ysbrydoledig sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

08.03.22

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ddathliad byd-eang o gyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched. 

Mae'r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu er mwyn cyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. 

Mae ein Bwrdd Iechyd yn cynnwys llu o ferched anhygoel, o bob math o gefndiroedd. 

Wrth i ferched ledled y byd ddod at ei gilydd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022, mae rhai o’n haelodau benywaidd yn rhannu eu myfyrdodau a’u straeon. 

Dr. Karen Mottart, Cyfarwyddwr Meddygol Ysbyty Gwynedd, ITU

Rydw i wedi cael fy ysbrydoli gan lawer o ferched yn fy mywyd a fy ngyrfa, yn enwedig fy nwy nain.  Roedd fy nain ar ochr fy nhad yn ddynes â deallusrwydd emosiynol enfawr a dangosodd fod pŵer cariad yn nodwedd allweddol i fatriarchiaid (yn sicr, yr oedd hi'n un o'r rheiny!).  Heb os, hi oedd yr unigolyn mwyaf ffyddlon, dibynadwy a digyfnewid yn ystod fy mywyd pan yn ifanc. Ar y llaw arall, roedd mam fy mam yn hynod o ddeallus. Roedd ganddi ddoethuriaeth mewn cemeg a gweithiodd yn y labordai gyda Watson a Crick, a dysgodd hi i mi ei bod hi'n bosibl i ferch gael gyrfa. 

Penderfynais fynd i'r Royal Free yn Llundain i gael fy addysg feddygol. Roedd y dewis hwn yn gysylltiedig yn bennaf â'i hanes fel yr ysgol feddygol gyntaf i ferched yn unig.  Dysgais mewn amgylchedd lle'r oedd rhaniad cyfartal o ferched a dynion, rhywbeth a oedd yn brin ar y pryd.  Mae’n galonogol gweld bod niferoedd cynyddol o ferched yn dewis meddygaeth fel gyrfa.  Mae fy nith bellach yn anelu at yrfa fel meddyg; mae hi yn ei phedwaredd flwyddyn yn yr ysgol feddygol, ac mae'n wych ei chlywed yn siarad am ei nodau.  Yn sicr, mae hi wedi cael delwedd fwy cadarnhaol ynghylch merched mewn meddygaeth nag y ces i.

Er mai Diwrnod Rhyngwladol y Merched yw hi, rwyf hefyd wedi cael fy ysbrydoli gan lond llaw o ddynion yn ystod fy ngyrfa, yn enwedig Meddyg Gofal Dwys o Abertawe yn ystod y flwyddyn hyfforddi olaf ond un.  Ei eiriau cyntaf i mi fwy neu lai oedd ‘ni allaf addysgu mwy o feddygaeth i chi, ond gallaf ddangos ichi sut i fod yn feddyg ymgynghorol’.  Dysgodd lawer am feddygaeth gofal dwys i mi ond roedd hefyd yn arweinydd ysbrydoledig ac mae sawl agwedd o fy null gweithredu heddiw yn deillio ohono ef.

Dechreuais ar fy swydd gyntaf fel Meddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd ym 1997, ac yn 2016, deuthum yn Gyfarwyddwr Meddygol Dros Dro cyn dechrau yn y swydd yn llawn amser.  Roedd y posibilrwydd o rôl cyfarwyddwr meddygol yn peri arswyd; doeddwn i ddim yn meddwl fy mod yn ddigon da.  Fodd bynnag, gyda chefnogaeth a rhywfaint o amser, rwyf wedi tyfu yn y swydd. Mae'n fraint enfawr i mi gael gwneud y swydd hon, ac mae'n rhoi cyfle i mi gefnogi'r holl staff, a dylanwadu ar ein taith. Rwy'n ffynnu trwy gefnogi fy nghydweithwyr i gyflawni eu potensial. Mae’n hanfodol ein bod yn garedig â’n gilydd, yn cydnabod ac yn gwobrwyo cydweithwyr am yr hyn y maent yn ei wneud.  Mae'n llawer rhy hawdd canolbwyntio ar bethau negyddol. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn hynod heriol, ac yn fwy nag erioed erbyn hyn, mae angen trafodaeth onest a didwyll.  

Rwy’n ffodus fy mod wedi cael cefnogaeth ac anogaeth gan gydweithwyr, ffrindiau a theulu trwy gydol fy ngyrfa.  Nid wyf erioed wedi teimlo dan anfantais fel dynes yn y proffesiwn meddygol, ond gwn nad dyna brofiad pawb.  Rwy'n sylweddoli bod gennym gryn dipyn o waith i'w wneud i sicrhau chwarae teg go iawn, wrth i mi weld yr anghydraddoldeb sydd o'm cwmpas. 

Yn fy rôl fel Cyfarwyddwr Meddygol, rwy'n frwd dros annog arweinyddiaeth gan ferched.  Rwy'n gweld nifer o ferched gwych yn codi o'r rhengoedd ac rwy'n gwybod y gallent fod yn ddylanwad gwirioneddol yn ein sefydliad.  Rwy’n gredwr cryf yng nghryfder a chydnerthedd mewnol merched ac rwy'n meddwl y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol. 

 

Dr Alison Ingham, Ymgynghorydd Anaesthesia a Gofal Dwys ac Arweinydd Clinigol Rhanbarthol ar gyfer Rhoi Organau, Gogledd Orllewin

Rwyf yn hyrwyddwr rhoi organau ers i mi ddod yn Feddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Gofal Dwys yn 2005.  Yn aml, rhoi organau yw’r unig beth cadarnhaol sy’n deillio o sefyllfa drasig, ac mae darparu’r rhodd honno o fywyd yn newid bywyd eraill. 

Roeddwn yn ffodus i fod yn rhan o’r sgyrsiau i sicrhau’r newid yn y ddeddfwriaeth yng Nghymru yn 2015 pan ddaeth Cymru yn wlad gyntaf yn y DU i sefydlu system feddal o optio allan o gydsynio i roi organau.  Yn dilyn hyn, rwyf wedi gweithio gyda sawl aelod anhygoel o’r tîm Rhoi Organau sydd wedi helpu i ledaenu'r neges ynghylch rhoi organau, nid yn unig o ran annog pobl i siarad am hynny, ond hefyd trwy newid y ffordd y mae pobl yn meddwl am roi organau, rhywbeth sydd wedi achub llawer o fywydau trwy gyfrwng y rhoddion sydd wedi'u gwneud.

Rwy’n gweithio ochr yn ochr â thîm anhygoel o ddynion a merched, gan gynnwys y Nyrsys Arbenigol ym maes Rhoi Organau; maent yn ysbrydolgar ac mae eu gwaith yn amhrisiadwy.  Er bod llawer o ferched yn rhan o dimau sy'n gweithio i wasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG (NHSBT), mae mwy o ddynion ar y pwyllgor cenedlaethol o hyd.  Mae'n debyg mai'r rheswm am hyn yw'r ffaith bod mwy o ddynion mewn rolau Meddygon Ymgynghorol mewn Unedau Gofal Dwys, ac yn sgil hynny, byddant yn cael eu penodi i rolau Arweinwyr Clinigol. Credaf ei bod hi'n anoddach i ferched nag i ddynion yn y proffesiwn meddygol, heb os.  Mae merched yn dal i gael eu hystyried yn brif ofalwyr ac maent yn fwy tebygol o dreulio amser i ffwrdd o'r gwaith yn gofalu am blant.  Hefyd, mae'r farn ystrydebol mai dynion yw'r uwch feddygon yn dal i fodoli. Rwyf hyd yn oed wedi cael fy nghamgymeryd am y meddyg iau yn ystod fy rownd ward, gyda'r claf yn cymryd yn ganiataol mai fy nghofrestrydd gwrywaidd oedd y Meddyg Ymgynghorol.  Yn anffodus, mae hyn yn dal yn bodoli heddiw, ond mae'n newid. Rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, y gwelwn lawer mwy o ferched yn dod yn Feddygon Ymgynghorol ac mewn rolau uwch o fewn sefydliadau. 

Fel byddaf i bob amser yn dweud wrth fy nwy ferch, peidiwch â gadael i unrhyw beth eich rhwystro rhag cyflawni eich uchelgeisiau mewn bywyd, a dyna fyddai fy neges i bob dynes ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.

 

Charlotte Makanga, Fferyllydd Gwrthficrobaidd Ymgynghorol, un o Ymddiriedolwyr Girl Guiding Cymru a Chomisiynydd Rhyngwladol ar gyfer Girl Guiding UK

Rwy'n gweithio ym maes Fferylliaeth ers tua 20 mlynedd, ac yn y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi ymgymryd â rôl Fferyllydd Gwrthficrobaidd Ymgynghorol y Bwrdd Iechyd.  Rwy’n frwd dros addysgu’r cyhoedd am y defnydd o wrthfiotigau a’r effeithiau niweidiol  a all ddeillio o orddefnyddio gwrthfiotigau.

Fy niddordeb mawr arall y tu allan i'r gwaith yw'r Geidiau. Ymunais â'r Geidiaid pan oeddwn yn saith mlwydd oed; maent wedi rhoi cyfleoedd anhygoel i mi sydd wedi'm galluogi i fynd ledled y byd.  Fe wnaeth bod yn rhan o'r sefydliad hwn newid fy mywyd yn llwyr a rhoi'r dewrder a'r hyder i mi gyfawni'r hyn roeddwn i'n dymuno'i fod.

Rwy’n hynod angerddol am wneud pethau’n well i ferched mewn bywyd a gwneud yn siŵr bod merched ifanc yn cael y cyfleoedd y maent yn eu haeddu.  Mae wedi bod yn fraint wirioneddol cael bod yn un o Ymddiriedolwyr Girl Guiding Cymru a gweld llawer o ferched ifanc yn blodeuo ac yn datblygu ac yn meithrin sgiliau arwain. 

Mae llawer o ferched ifanc heddiw yn cael trafferth â delwedd y corff a rhan o fy rôl yw eu cefnogi a'u hannog i fod yn fodlon â phwy ydynt a theimlo eu bod yn cael eu grymuso i ddod yn bwy bynnag maent yn dymuno bod.  Mae’n anodd iawn i ferched ifanc y dyddiau hyn, yn enwedig gyda’r cyfryngau cymdeithasol, gyda llawer o bwysau i edrych neu ymddwyn mewn ffordd benodol, felly mae angen cefnogaeth ac anogaeth wirioneddol iddynt.

Fy neges ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yw peidiwch byth â meddwl nad ydych chi'n ddigon da a pheidiwch byth ag ofni anelu at yr hyn rydych chi'n dymuno'i gyflawni mewn bywyd - ewch amdani. 

 

Dr Jennifer Kent, Meddyg Iau

Rwy'n feddyg ers wyth mis yn unig, ac rwyf i wedi cael profiad da o weithio ym meysydd llawfeddygaeth, meddygaeth a phractis cyffredinol. Yn gyffredinol, rwyf wedi cael profiad gwych hyd yn hyn o fod yn feddyg, ond rwyf wedi profi rhywfaint o heriau wrth weithio fel dynes yn y maes meddygol.  Yn benodol, tybir yn gyffredinol yn feunyddiol nad wyf yn feddyg a châf fy nghamgymryd am weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd arall. Bydd hyn weithiau'n gwneud i mi deimlo'r angen i ddangos bod gennyf wybodaeth a sgiliau meddyg fel bod y cleifion yn ymddiried ynof yn yr un modd ag y byddent yn fy nghymheiriaid gwrywaidd. 

Er ein bod yn cael cefnogaeth wych gan ein huwch feddygon sy'n ddynion, rwy'n gweld eisiau mwy o gynrychiolaeth gan ferched mewn rolau uwch, megis swyddi cofrestryddion a meddygon ymgynghorol.  Mae hyn yn bendant yn fwy amlwg ym maes llawfeddygaeth ac mae'n bwysig gweld mwy o ferched yn y rolau hynny y gallaf eu hedmygu. 

Yr hyn yr hoffwn ei weld yn y dyfodol yw mwy o gynrychiolaeth gan ferched yn y rolau uwch hynny, a byddai’n wych pe bai mwy o fentora yn cael ei gynnig i feddygon iau benywaidd ifanc fel fi.  Byddai’n wych gweld mwy o uwch feddygon benywaidd yn fentoriaid sy’n gallu bod yn glust i wrando a chynnig sylwadau am syniadau a darparu cyngor penodol â deallwriaeth o'r profiad o fod yn ddynes yn y maes meddygol.  Dyma rywbeth rwy'n gobeithio y gallwn ni oll weithio i'w gyflawni yn y dyfodol.

 

Yr Athro Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Dementia

Fel Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Dementia, mae fy rôl yn ymwneud â nodi arferion da presennol a'u rhannu ar draws ein Bwrdd Iechyd.  Fel Nyrs Gyffredinol gofrestredig, rwy'n canolbwyntio yn y lle cyntaf ar ein safleoedd ysbytai cyffredinol a chymunedol i wella safonau profiad cleifion.  Mae gennyf ddiddordeb arbennig hefyd ym mhrofiad perthnasau sy'n ofalwyr, ac rwyf am sicrhau yr ymatebir i’w hanghenion a’u safbwyntiau.  Mae’n fraint cael gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid yn fy ngwaith ac mae’n anrhydedd bod wedi cael fy mhenodi’n Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerwrangon, yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chleifion a theuluoedd.  Rwy’n gobeithio defnyddio fy sgiliau ymgysylltu i’n helpu i ymgysylltu hyd yn oed yn well ar draws y Bwrdd Iechyd, yn enwedig o fewn yr Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, lle rwy’n gweld llawer o gyfleoedd a brwdfrydedd.  Fel mam sengl, mae wedi bod yn anodd cyrraedd y pwynt hwn yn fy ngyrfa, ond fy ysgogiad yw sicrhau fod pob claf dementia yn cael y profiad gorau posibl, fel pe baent yn aelod o’m teulu fy hun.  Mae rolau fy swydd yn fy helpu i wneud hyn oherwydd maent yn rhoi mwy o gyfleoedd i mi weithio gydag eraill a chyflawni pethau, gan symud o siarad i weithredu.

 

Amy Kerti, Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Dementia

Rwy'n Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Dementia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Fel Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig (RMN), rwy’n arbenigo ym maes dementia mewn rolau a gwasanaethau amrywiol ers tua 20 mlynedd.  Fe wnes i deilwra fy ngyrfa a'm profiad academaidd yn benodol i wella gofal pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd.  Rwyf wedi datblygu gwasanaethau dementia ym meysydd gofal preifat, gofal cymdeithasol a’r GIG, gan gynnwys gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd.  Rwy’n credu y dylai pobl sy’n byw gyda dementia gael mynediad at y cymorth gorau i'w galluogi i aros gartref gyda’u hanwyliaid.  Mae fy ngyrfa wedi bod yn fraint drwyddi draw, ac rwyf wedi gweithio gyda phobl hynod ar yr adeg anoddaf yn eu bywydau.  Maent hwythau hefyd wedi dysgu cymaint i mi am fywyd a gwerthoedd dynol. Rwy'n gryf o blaid arferion seiliedig ar dystiolaeth, parhad a thosturi fel rhan o ofal. Credaf fod yn rhaid i aelodau'r gweithlu deimlo eu bod wedi'u grymuso ac yn wybodus, a bod ganddynt y sgiliau clinigol i ymarfer yn y modd mwyaf canmoladwy. Fel Uwch-ddarlithydd anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor, credaf y bydd addysg ynghylch gofal dementia yn ysgogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol i sicrhau gyrfaoedd gwerth chweil gyda phobl sy'n byw gyda dementia.  I ysgogi safonau newydd a datblygu dulliau newydd o weithio.