23.03.23
Mae ein cyfarwyddwr meddygol gweithredol a dirprwy brif weithredwr dros dro, Dr Nick Lyons, wedi rhoi'r neges ganlynol ar gyfer y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod i nodi tair blynedd ers dechrau pandemig Covid-19.
Dywedodd: "Yn gyntaf, hoffwn gydnabod pawb sydd wedi marw er tristwch mawr o ganlyniad i Covid-19. Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i'r holl deuluoedd a ffrindiau sydd wedi gorfod dod i delerau â cholli anwyliaid.
"Fe gollais i anwyliaid a chydweithwyr agos hefyd o ganlyniad i Covid-19 ac rydw i'n gallu uniaethu â'r emosiynau hynny.
"Nid oes unrhyw eiriau i gyfleu'r ymdeimlad o golled y mae cynifer o bobl yn ei deimlo, yn ystod cyfnod mor fyr a thorcalonnus. Nid oedd llawer yn gallu bod gyda'u hanwyliaid yn gorfforol yn ystod eiliadau olaf eu bywydau ac mae'n rhaid ni i gofio, ymysg yr holl ystadegau, mai pobl yw'r rhain y mae eraill yn eu caru ac yn gweld eu heisiau.
"Gwnaeth bywyd newid i bob un ohonom ni dair blynedd yn ôl a byddai'n anodd dod o hyd i unrhyw un nad yw dyfodiad yr haint ffyrnig hon wedi effeithio arnynt, boed yn gorfforol, yn economaidd neu'n emosiynol.
"Mae hefyd yn briodol cofio ein bod yn dal wrthi'n delio â Covid-19 - nid yw wedi diflannu. Rydym ni i gyd yn dysgu byw gyda'r 'norm newydd' yma.
"Yn wir, mae llawer o'r rheiny a ddaliodd yr haint yn dal i ddelio â'r sgil-effeithiau ac rydym yn dal i weld bod y sawl sy'n dioddef gyda Covid Hir yn derbyn gofal sylfaenol ac yn mynd i'n clinigau pwrpasol.
"Mae'r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod yn gyfle, nid yn unig i ni gofio'r sawl sydd wedi profi colled ond hefyd i ailddatgan ein hewyllys ar y cyd i fynd i'r afael â'r problemau a ddaeth yn sgil Covid, gyda'n gilydd fel cymdeithas.
"Gwelsom enghreifftiau dirifedi o'r undod hwnnw yn ystod y pandemig, yn cynnwys llawer o weithredoedd anhunanol gan ffrindiau, cymdogion ac yn aml, dieithriaid llwyr yn helpu eraill.
COVID Hir - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nhs.wales)
"Roedd ein gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol ar flaen y gad yn hyn o beth, ac aethant gam ymhellach na'r hyn y gellid ei ddisgwyl i ofalu am y sawl a ddaliodd Covid-19.
"Mae fy myfyrdodau olaf yn ymwneud â'r unigolion anhunanol hynny.
"Gwnaeth y cyhoedd sefyll ar stepen y drws gan glapio, taro llestri a phedyll a gwnaethant ddathlu gwaith ein staff rheng flaen yn ystod y diwrnodau cynnar hynny. Gobeithio, fel cymdeithas, nad ydym wedi colli'r teimlad hwnnw na'r ymdeimlad o ddiolchgarwch yr oedd pob un ohonom yn ei deimlo.
"Wrth i ni symud i fyw mewn oes lle bo i Covid-19 rôl lai amlwg, mae'r aelodau hynny o staff yn parhau i weithio'n ddiflino yn wyneb amgylchiadau hynod anodd.
"Ar y diwrnod myfyrio hwn, gadewch i ni gofio am y rhai rydym wedi'u colli, gofalu am y rhai sy'n dal i fod gyda ni a dathlu'r staff iechyd a gofal hynny sy'n parhau i weithio y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir ganddynt er lles pob un ohonom."