Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth iechyd meddwl brys ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod o'r wythnos erbyn hyn yng Ngogledd Cymru drwy GIG 111

Mae llinell ffôn GIG sy’n darparu cymorth iechyd meddwl brys ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod o’r wythnos erbyn hyn.

Lansiwyd gwasanaeth GIG 111 Pwyso 2 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Ionawr, i ddarparu cymorth yn y lle cyntaf rhwng oriau 08:30 a 23:00.

Diolch i ymgyrch recriwtio a hyfforddi eang, mae bellach ar gael ar sail 24 awr y dydd, saith niwrnod o’r wythnos, gan sicrhau bod mwy o bobl ar draws y rhanbarth yn gallu cael mynediad at gyngor a chymorth arbenigol pan fo ei angen.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn annog y rheiny sydd ag anghenion iechyd meddwl i alw 111 a dewis opsiwn 2, lle byddant yn cael eu trosglwyddo i ymarferydd lles ymroddedig.

Gellir ffonio’r rhif o linell dir neu ffôn symudol yn rhad ac am ddim, hyd yn oed pan nad oes gan y sawl sy’n ffonio unrhyw gredyd ar ôl. Mewn sefyllfaoedd sy'n peryglu bywyd, dylai pobl bob amser alw 999 neu fynychu eu Hadran Achosion Brys agosaf (A&E).

Ers lansio ym mis Ionawr, mae tîm GIG 111 Pwyso 2 wedi delio â mwy na 800 o alwadau.

Dywedodd Dr Anita Pierce, Seiciatrydd Ymgynghorol a Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol ar gyfer Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Mae rhai o'r sawl sy’n cael cymorth drwy wasanaeth GIG 111 Pwyso 2 yn bobl a fyddai wedi mynychu ein Hadrannau Achosion Brys fel arall. Gall eraill fod wedi gweld eu hiechyd meddwl yn gwaethygu yn sylweddol oherwydd nad oeddent yn gwybod ble i droi, neu nad oedden nhw'n gallu cael mynediad at gymorth.

“Mae’r rhai sydd wedi cysylltu â’r gwasanaeth wedi sôn am welliannau sylweddol i’w lles, ac mae data cynnar yn awgrymu ei fod yn lleihau galw ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru a chydweithwyr sy’n feddygon teulu.

“Rydym yn falch iawn gyda pha mor effeithlon y gweithredwyd y gwasanaeth newydd hwn, yr oedd gwir ei angen, mewn cyfnod o amser mor fyr. Er gwaethaf y niferoedd uchel o swyddi gwag yn y GIG, rydym yn wirioneddol falch o ba mor llwyddiannus fu'r ymgyrch recriwtio, sydd wedi’n galluogi i gael gwasanaeth 24 awr y dydd, saith niwrnod o’r wythnos yn gynharach na’r disgwyl, gan sicrhau bod mwy o bobl yn cael mynediad prydlon at y cymorth mwyaf priodol.

“Mae hyn yn cyd-fynd â'n gweledigaeth strategol ehangach i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl sy'n canolbwyntio ar gleifion, sy’n ymatebol, ac yn hygyrch.”  

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

“Mae gwasanaeth 111, Dewis 2 yn gam enfawr ymlaen o ran cynnig mynediad mwy hwylus i gymorth iechyd meddwl brys ac mae’n bleser gen i weld bod y gwasanaeth bellach ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod o’r wythnos ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £6m er mwyn helpu i ddatblygu’r gwasanaeth hwn sydd ar y trywydd cywir i fod ar gael ledled Cymru erbyn diwedd mis Ebrill.”

Mae cyfeirio pobl sydd ag anghenion gofal brys at y lle cywir, y tro cyntaf yn uchelgais gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng. Yn arbennig, mae Nod 2 yn anelu at sefydlu llwybr (GIG 111 Pwyso 2)  i gefnogi pobl gydag iechyd emosiynol, salwch meddyliol a/neu faterion lles i gael mynediad uniongyrchol at weithiwr iechyd meddwl 24 awr y daith, saith niwrnod o’r wythnos. Fe'i cynlluniwyd o edrych ar fodelau arfer orau yn yr Alban a Lloegr.

Anogir y rheiny sydd ag anghenion iechyd meddwl brys i ddeialu 111 ac i ddewis opsiwn 2.

Ar gyfer cyngor a chymorth nad yw'n frys, cysylltwch â Llinell Gymorth CALL Iechyd Meddwl Cymru, sydd ar gael 24 awr y dydd, drwy alw’n rhadffôn 0800 132737, tecstio ‘Help’ i 81066, neu fynd i callhelpline.org.uk.