Neidio i'r prif gynnwy

Disgrifiad torcalonnus Corrie yn tynnu sylw at y pwysau cudd sydd ar borthorion ysbyty

18.01.23

Mae tad, a welodd rai golygfeydd torcalonnus wrth weithio mewn ysbyty yng Ngogledd Cymru, wedi ysgrifennu disgrifiad personol a theimladwy o'i brofiadau.

Adroddodd Corrie Twist, 45 oed ac o’r Rhyl, sut y gwnaeth y profiad o weld rhywun yn syrthio a marw cyn iddo fynd â baban ymadawedig i'r marwdy adael ôl parhaol arno.

Ac yntau bellach yn rheolwr cynorthwyol porthora yn Ysbyty Glan Clwyd, rhannodd ei brofiad fel rhan o un o Rowndiau Schwartz y safle.

Mae’r cyfarfodydd wedi’u llunio i ddarparu fforwm strwythuredig lle mae’r holl staff, clinigol ac anghlinigol, yn gallu rhannu profiadau a thrafod yn agored yr heriau a’r gwobrau sy’n gysylltiedig â darparu gofal.

Dywedodd: “Fe’m trawodd faint yr ydym yn ei weld yn ystod ein diwrnod arferol a gall rhywfaint ohono fod yn eithaf trawmatig. Roeddwn i'n meddwl y dylwn i fod yn agored fel y byddai cydweithwyr ieuengach yn teimlo'n fwy cyfforddis i siarad am eu hiechyd meddwl a'r hyn y mae'n rhaid iddynt ymwneud ag ef yn y gwaith.

“Mae’n swydd eithaf heriol, gan eich bod yn datrys problemau drwy’r amser, ond mae’n rhoi boddhad mawr. Mae pob stori mor wahanol ond mae’n bwysig siarad am yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod eich diwrnod.”

Ar ôl gweithio mewn maes peirianneg sifil gyda’r un cwmni am 23 mlynedd, gweithiodd Corrie ar brosiect yn yr ysbyty am chwe blynedd yn ystod y 23 mlynedd – a phenderfynodd mai bod yn agos i’w gartref oedd lle’r oedd eisiau bod.

Gwasanaeth GIG newydd yn darparu mynediad hawdd i gymorth iechyd meddwl arbenigol ar draws Gogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Felly, cafodd swydd fel porthor yn Ysbyty Glan Clwyd a gweithiodd ei ffordd i fyny. Gwnaeth y profiad iddo annog staff i brosesu’r hyn y maent yn eu profi ac addawodd i’w hun i beidio byth â gofyn iddynt wneud rhywbeth na fyddai’n ei wneud ei hun.

Rhan o’r broses honno oedd bod yn agored ac mae'n rhoi cipolwg dwys o’r heriau o wneud rôl nad yw llawer o bobl byth yn sylwi arni pan fyddant yn ymweld ag ysbyty.

Mae Corrie yn ddigon parod i ddweud bod llawer mwy o bethau cadarnhaol am fod yn borthor na phethau negyddol, ond mae’n credu ei bod yn bwysig bod pobl yn deall y pwysau sy’n cael ei roi ar iechyd meddwl hefyd.

Fel rhedwr awyddus, dywedodd mai mynd allan a chael ymarfer corff oedd un o’r ffyrdd yr oedd yn ymdopi â’r pethau a welodd.

* Mae tystiolaeth yn dangos bod mynychu Rowndiau Schwartz yn lleihau teimladau o straen ac unigrwydd, yn gwella mewnwelediad ac yn helpu i ddatblygu gwerthfawrogiad tuag at rolau cydweithwyr sydd mewn meysydd eraill.

Darllenwch stori Corrie isod:

Hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl am ddim i drigolion Gogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Diwrnod ym mywyd Porthor

Wrth i’r glaw daro ffenestr flaen fy nghar, gyda’r sychwyr yn gwneud eu gorau i’w glirio, teimlaf don o bryder yn dod drosof.

Mae fy meddwl yn dechrau crwydro ac rwy’n dechrau myfyrio ar fy sifftiau blaenorol. Roedd yn 4:45am ac roeddwn i fod i ddechrau am 6am.

Wrth yrru i mewn i’r maes parcio, roedd fy meddwl yn dal i ymgolli yn nigwyddiadau’r noson gynt – beth ddaw yn sgil heddiw? Siawns, ni allai dim fod mor ofidus â'r diwrnod cynt.

Crwydrodd fy meddwl, gan ail-fyw’r digwyddiadau. Roeddwn i'n gallu clywed yr alwad MET yn fyw, rydym ni wedi ein hyfforddi i ymateb yn brydlon i argyfyngau meddygol.

Rwy’n gweld fy hun yn fy ngwisg gwaith, yn rhedeg i’r ardal ddadebru, gan sicrhau bod gan y tîm gyfeiriad clir o ran lleoliad y claf a oedd angen eu help yn fawr.

Rwy’n sefyll yn yr ystafell ddadebru, yn gwylio, yn aros ac yn amsugno’r trawma, wedi ymgolli yn yr awyrgylch.

Ar ôl yr hyn a deimlai fel tragwyddoldeb, y peiriannau'n dal i ganu, penderfynwyd nad oedd dim y gellid ei wneud. Roedd y gwryw, yn ei 30au a dim llawer yn ieuengach na mi, newydd golli ei fywyd.

Roedd ei anafiadau o’r ddamwain ffordd yn rhy ddifrifol i’w gorff allu ei ddioddef. Roedd clywed sgrech ei bartner, y boen, yr emosiwn amrwd yn y foment honno, yn rhywbeth na fydd byth yn eich gadael.

Galwodd y nyrs a oedd yn gyfrifol y tîm am ôl-drafodaeth. Gallaf glywed ei geiriau o hyd.

Dywedodd: “Rydym wedi gorffen yma, gallwch fynd nawr”.

Cerddais i fwrdd, y geiriau “rydym wedi gorffen yma, gallwch fynd nawr” yn canu yn fy nghlustiau.

I ble yr wyf yn mynd nawr? A wyf yn mynd yn ôl i borthdy’r porthorion a thrafod yr hyn a welais? A wyf yn mynd am dro i glirio fy meddwl? Onid oeddwn yn ddigon pwysig i gael fy ngwahodd i’r ôl-drafodaeth?

Cyn i mi gael cyfle i benderfynu, roedd y dasg nesaf newydd ddod i mewn a chefais fy ngalw i’r Adran Achosion Brys, at fachgen saith mlwydd oed gyda thoriad i’w dibia.

Roedd gobaith John am gael gadael Ysbyty Treffynnon yn pylu, hynny yw cyn iddo gyfarfod a'r Hyrwyddwyr Adsefydlu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Ar ôl cyrraedd, roedd y bachgen yn ofnus, yn ofidus yn emosiynol ac mewn poen. Roedd ei fam yn ddagreuol. Dywedodd wrthyf ei fod wedi syrthio, yn ddi-dyst, ac roedd hi’n beio ei hun.

Fy nhasg nesaf oedd ceisio tynnu sylw’r bachgen ifanc a mynd ag ef i'r ystafell blastr wrth wneud i’r fam deimlo'n gartrefol. Ar ôl ychydig funudau, roeddwn i wedi adeiladu perthynas gyda'r bachgen ifanc dros bêl-droed. Roedd yn chwerthin ac yn tynnu coes gyda mi. Euthum i’w ddanfon yn ddiogel i ben ei daith – roeddwn wedi cyflawni fy swydd.

Cerddais tuag at borthdy’r porthorion gan ei bod yn amser egwyl arnaf. Fy mwriad oedd cael rhywbeth i fwyta ac yfed cyn rhan olaf fy sifft.

Eisteddais yn y porthdy ochr yn ochr â dau borthor ifanc a dibrofiad, gan fyfyrio ar yr oriau blaenorol.

Canodd y ffôn, cefais wybod am y dasg nesaf. Cafodd cais ei wneud i drosglwyddo claf i’r marwdy. Edrychais ar y bechgyn, gwelais anesmwythder yn eu llygaid.

 “Fe wnawn ni hyn fechgyn”, dywedais, gan gyfeirio ataf fy hun a phorthor mwy profiadol. Daeth mwy o fanylion drwodd atom. Roedd yr alwad gan yr adran famolaeth ac erbyn hynny, roeddwn yn gwybod mai baban ydoedd.

Gwnaethom gerdded draw i gerbyd y marwdy, ac yn naturiol gwibiodd cant a mil o gwestiynau drwy fy meddwl. Tybed beth a oedd wedi digwydd. Ai bachgen neu ferch ydyw? Faint yw ei oed?

Gan geisio tynnu fy meddwl oddi ar y sefyllfa, dechreuais fân siarad gyda fy nghydweithiwr. “Dim llawer i fynd nawr, rydym ni bron â gorffen,” dywedais.

Gwnaethom yrru i'r marwdy, ychydig o eiriau arwynebol yn cael eu rhannu rhyngom. Nid yw'r alwad hon byth yn un hawdd a rhoddodd y tawelwch lletchwith amser gwerthfawr i fyfyrio ar anwyliaid.

Gallaf weld fy hun, fel rhyw fath o brofiad y tu allan i’r corff, yn sefyll yn y marwdy yn gafael ar flwch bach.

Rwy’n cymryd y blwch yn fy mreichiau, yn gwybod y bydd baban bach yn cael ei osod y tu mewn – plentyn rhywun, eu llawenydd, eu byd.

Fel porthor, ni feddyliais erioed y byddai’r dasg hon yn syrthio i’m dwylo.

Hwb Iechyd Meddwl - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Rwy’n ymlonyddu fy hun, yn ystyried realiti’r sefyllfa, gan feddwl am unrhyw beth er mwyn tynnu sylw oddi ar yr hyn yr oeddwn ar fin ei wneud. Rwy'n cymryd anadl ddofn, llwnc caled, ac yn cerdded yn gyflym i'r cerbyd sy'n aros.

Mae gor-wyliadwriaeth a phryder yn rhedeg drwof, rwy'n ymwybodol o bopeth o'm cwmpas wrth i mi nesáu at y ward famolaeth.

Rwy’n clywed baban yn crio yn y pellter, mamau’n sgwrsio ar y coridor, synau peiriannau’n canu. Mae fy nghalon yn cyflymu ac mae fy nwylo’n dechrau chwysu fel yr wyf yn agosáu at yr orsaf nyrsio.

Mae’r nyrs sy’n gyfrifol yn ymwybodol o fy mhresenoldeb ac yn rhoi golwg o adnabyddiaeth cyn fy ngalw i un ochr.

Rwy’n sylwi ar y cochni o gwmpas ei llygaid. Rwy’n gweld ei bod wedi bod yn crio.

Fodd bynnag, mae hi’n parhau i fod yn urddasol ac yn cymryd y blwch bach oddi arnaf. Rwy’n camu i un ochr, gan aros yn amyneddgar.

Mae’r porthor sydd gyda mi yn troi ei ben ac yn ymddangos yr un mor anghyfforddus â mi. Mae’r ddau ohonom yn dioddef.

Ar ôl yr hyn a deimlai fel tragwyddoldeb, mae'r nyrs yn ailymddangos ac yn fy ngalw i mewn i ystafell ochr gyda goleuadau wedi’u pylu. Mae'r bleindiau wedi’u tynnu i lawr ac mae’r ffenestr ar gau.

Mae arogl cynhyrchion babanod yn llenwi'r ystafell. Rwy'n ansicr beth yw'r arogl ond rwy'n cymryd mai bath babi ydyw. Mae'n arogli'n gynnes ac yn feddal, gan roi teimlad llethol o fywyd.

Fel yr wyf yn cerdded tuag at y gwely o’m blaen, mae blanced las wedi’i lapio o amgylch blwch bach, blwch a gariais fel cargo gwerthfawr. Mae tegan anifail bach wedi’i guddio yn yr ochr.

Roeddwn yn gwybod na fydda’r blwch yn ddi-bwysau y tro hwn. Nawr, gallaf deimlo pwysau tristwch, galar, poen a chydymdeimlad twymgalon, i gyd wedi’u tywallt i mewn i’r blwch bach hwn.

Fel yr wyf yn ymestyn allan am y pecyn gwerthfawr hwn, rwy’n crynu. Mae fy nghalon, sy’n drwm â thristwch, yn carlamu ond rwy’n gweddïo y bydd fy ngwydnwch yn cymryd drosodd.

Therapi a chymorth anifeiliaid yn helpu cleifion a chyflyrau iechyd meddwl - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Rwy’n gallu teimlo’r chwys ar fy nwylo ac mae ton o bryder, arswyd bron, yn llifo drwof.

Mae fy nwylo’n llithro dan y flanced las esmwyth ac am eiliad, roeddwn yn gyfrifol am y bachgen bach hwnnw.

Byddwn yn sicrhau fy mod yn ei drosglwyddo i'w leoliad nesaf gydag urddas a’r parch mwyaf.

Yn y foment fer honno, roedd yn teimlo fel bod amser yn llonydd. Nid oedd dim yn ymddangos yn bwysig. Roedd yn ymddangos fel bod yr holl bethau amherthnasol yr ydym yn poeni amdanynt o ddydd i ddydd wedi pylu.

Mae fy nghalon wedi’i boddi mewn tristwch. Gan ddal tonnau emosiwn yn ôl, rwy’n gweddïo mai dyma’r tro olaf y byddaf yn gorfod gwneud hyn.

Rwy’n ymwybodol o’r synau ar y ward. Gallaf glywed sŵn traed. Fodd bynnag, ar yr adeg honno, mae’r synau’n diflannu. Y cyfan y gallaf ei glywed erbyn hyn yw fy anadl fy hun, yn ceisio'n daer i’w reoli.

Rwy’n ansicr a oedd panig wedi cydio ynof, neu nid oeddwn yn bresennol yn seicolegol mwyach. Cefais fy hun yn ôl wrth y cerbyd mewn distawrwydd, yn edrych i lawr ar y bwndel ar fy nglin yn pendroni, yn gor-feddwl.

Meddyliais am fachgen bach pwy yr oeddwn yn gyfrifol amdano? Byd pwy oedd newydd ddod i ben? Cymaint o gwestiynau, yn ceisio’n daer i adfer fy nhawelwch meddwl fy hun, fel y byddaf yn gwneud wrth redeg.

Mewn gwirionedd, y pedwar munud hwnnw yn ôl i'r marwdy oedd y pedwar munud hiraf o fy mywyd. Roedd yn teimlo fel symudiad araf, fel petai amser wedi dod i stop, y fan yn dal i fod yn dawel.

Pa eiriau y gellir eu siarad mewn gwirionedd sydd ag unrhyw werth yn y sefyllfa hon? Nid oes geiriau, dim ond parch ac urddas.

Byddech yn meddwl mai’r rhan anoddaf oedd casglu’r plentyn o’r ward mamolaeth, amgylchedd wedi’i lenwi â bywyd newydd, cariad a chwerthin.

I mi, y rhan anoddaf yw cerdded i ffwrdd, trosglwyddo’r baban i’r marwdy, man tawel, wedi’i lenwi â thristwch, pryderon a chwestiynau heb eu hateb. Hyd yn oed ym misoedd yr haf, mae’n teimlo’n oer a llawn gwacter.

Rwy’n trosglwyddo’r cargo gwerthfawr wedi’i lapio yn y flanced esmwyth honno, gan sicrhau bod y tegan anifail yn aros yn y lle y dylai fod.

Mae teimlad o ryddhad yn fy amlyncu; cwblheais fy nhasg er gwaethaf gorfod wynebu fy ofnau. Rwy’n cerdded yn ôl am borthdy’r porthorion, gan osod y wên gyfarwydd honno yr wyf yn ei rhoi bob dydd, gan fod yn foesgar ac yn gwrtais gydag unrhyw un yr wyf yn cerdded heibio iddynt.

Mae’n ymdrech disodli galar gyda rhyw fath o lawenydd. Rwy’n ymwybodol fy mod yn ceisio osgoi ac yn dod yn fwy gwydn wrth i bob tasg gael ei chyflawni.

Mae pobl yn dweud: “Dim ond porthorion ydynt”. Maent yn dweud: “Bydd y porthor yn ei wneud”. Nid oes ganddynt unrhyw syniad o beth yw diwrnod gwirioneddol ym mywyd porthor.

Sut gallent wybod? Nid ydynt yn gwybod, nid ydynt yn cerdded yn ein hesgidiau.

Rwy’n gofyn y cwestiwn hwn i chi: “A allwch chi ei wneud? A allwch chi droi eich emosiynau i ffwrdd mor hawdd? A allwch chi fod mor wydn? A yw’n haws peidio â theimlo unrhyw beth o gwbl?

Rwy’n edrych ar fy oriawr ac mae chwe munud hyd nes i fy sifft newydd ddechrau. Rwy’n cerdded yn gyflym ar draws y maes parcio.

Mae eirlaw bellach yn ogystal â gwynt. Rwy’n ceisio’n daer i anghofio digwyddiadau’r diwrnod blaenorol, gan ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol, gan gynllunio fy nhasg nesaf.

Wrth i mi ymlwybro tuag at borthdy’r porthorion, rwy’n pendroni, “beth ddaw yn sgil heddiw?"

Gweithio i Ni - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)