Neidio i'r prif gynnwy

Diolch i'n gwirfoddolwyr

Mae dechrau mis Mehefin yn dathlu dechrau Wythnos y Gwirfoddolwyr, dathliad blynyddol o’r cyfraniad y mae miliynau o bobl yn ei wneud ar draws y wlad drwy wirfoddoli.

Ym mis Mawrth 2020, lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr apêl am wirfoddolwyr i helpu i gefnogi’r gwasanaeth iechyd yn ei ymateb i’r pandemig COVID-19.

Cofrestrodd dros 1,800 o bobl i ddod yn wirfoddolwyr posibl gyda nifer fawr ohonynt wedi’u hadleoli i’w rolau ar draws y Bwrdd Iechyd yn barod.  

Un o’r gwirfoddolwyr hynny yw Ian Price, a gafodd ei roi ar gynllun saib swydd ar ddiwedd mis Mawrth, a benderfynodd gofrestru i ddod yn wirfoddolwr yn Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd: “Rwyf fel arfer yn gweithio mewn bwyty, ond oherwydd y cyfyngiadau o gwmpas y sector lletygarwch rwyf wedi bod i ffwrdd o fy ngwaith ers 23 Mawrth.

“Roeddwn wedi gweld bod y GIG yn chwilio am wirfoddolwyr felly penderfynais wneud cais - rydym yn lwcus iawn o gael y GIG felly mae’n braf gallu cynnig rhywbeth yn ôl!”

Oherwydd y cyfyngiadau ar ymweld sydd ar waith yn yr ysbytai mae Ian wedi bod yn helpu i ddanfon eitemau fel dillad, sy’n dod i mewn gan ffrindiau a pherthnasau i gleifion ar y wardiau.

“Rwyf wirioneddol yn mwynhau bod yn wirfoddolwr. Mae’n deimlad braf gwneud rhywbeth da ond yn bwysicaf oll, mae’r staff yr wyf wedi gweithio â nhw yn ei wneud yn lle dymunol i fod ynddo yn ogystal â’r gwirfoddolwyr eraill.  

“Mae pawb wedi bod mor garedig, cymwynasgar a chroesawgar.”

Cafodd Steve Marriott drawiad ar y galon yn 2012 a chofrestrodd i fod yn wirfoddolwr i roi rhywbeth yn ôl i’r GIG.

Dywedodd Steve, sy’n 59 oed o Wrecsam ac yn gweithio i Remploy fel Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, ond sydd wedi’i roi ar gynllun saib swydd ar hyn o bryd: “Mae fy rôl fel Gwirfoddolwr Ymateb i COVID-19 yn cynnwys danfon offer pwysig i leoliadau amrywiol ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru. Rwyf wir yn mwynhau’r cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’r GIG yn ystod yr argyfwng parhaus hwn.

“Nid yn unig y mae gwirfoddoli wedi helpu gyda fy lles personol, ond mae mynd o gwmpas a sgwrsio â llawer o’r gweithwyr allweddol pwysig eraill wedi bod yn ysbrydoledig. Rydym wirioneddol yn rhan o hwn gyda’n gilydd.”

Mae Adrian Lemberton, Rheolwr Diogelwch Gwybodaeth i Heddlu Swydd Gaerhirfryn sydd wedi ymddeol, yn un o’r wyth gwirfoddolwr sy’n cefnogi staff yn Ysbyty Llandudno ar hyn o bryd.

Dywedodd: “Rwy’n mwynhau fy amser fel gwirfoddolwr yn fawr iawn, mae’n braf gan fy mod yn treulio llawer o fy amser yn siarad â’r cleifion. 

“Rwy’n meddwl bod cael rhywun i siarad â nhw yn rhoi llawer o gysur iddynt gan nad ydynt yn cael gweld eu teuluoedd ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau ar ymweld sydd ar waith. Gan fod y staff mor brysur mae’n golygu nad ydynt yn gallu treulio llawer o amser yn siarad â’r cleifion felly rwy’n meddwl fod cael y gwirfoddolwyr gerllaw yn helpu gyda hynny.

“Rwy’n cael llawer o bleser o’r rôl a phan fydd hyn i gyd ar ben rwy’n mynd i gofrestru i ddod yn un o wirfoddolwyr y Robiniaid fel y gallaf barhau i wirfoddoli i’r gwasanaeth iechyd.”  

Mae’r ceisiadau ar gyfer bod yn un o’n Gwirfoddolwyr Ymateb i COVID-19 ar gau ar hyn o bryd, ond gallwch ddal gofrestru i ddod yn un o wirfoddolwyr y Robiniaid y Bwrdd Iechyd drwy fynd ar:  https://www.bcugetinvolved.wales/the-robins