Dewch i gwrdd â rhai o'r bobl sy'n parhau i ddarparu gofal brys a gofal canser brys yn ystod COVID-19

Fel rhan o'r ymateb i'r achosion o COVID-19 mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn blaenoriaethu'r cleifion ar draws Gogledd Cymru sydd angen y gofal mwyaf brys, fel y rheiny sydd angen triniaeth canser.

Mae clinigwyr a staff theatr yn gweithio'n galed ar draws y Bwrdd Iechyd i sicrhau y gallent barhau i ddarparu triniaeth i'r rheiny sydd ei angen fwyaf.  

Dywed Mr Palanichamy Chandran, Llawfeddyg Ymgynghorol Cyffredinol a Cholorectol sydd wedi gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam am 15 mlynedd, bod llawer o waith trefnu wedi mynd i sicrhau bod ei gleifion yn dal yn cael y driniaeth sydd ei angen arnynt. 

Dywedodd: "Gan fod llawfeddygaeth ddewisol wedi'i ohirio ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio'n unig ar ein cleifion sydd angen triniaeth canser brys. 

"Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi parhau i ddarparu'r llawdriniaethau hyn i'n cleifion hyd yn hyn, ac rydym yn cymryd pob rhagofal i sicrhau bod ein cleifion yn ddiogel yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty. 

"Rydym yn deall ei fod yn gyfnod pryderus i'n cleifion sydd yn awr yn dod am eu llawdriniaethau heb gefnogaeth eu teuluoedd oherwydd y cyfyngiadau ar ymweld sydd ar waith. 

"Fel tîm byddwn yn sicrhau bod ein cleifion i gyd yn cael y gefnogaeth a'r gofal sydd ei angen arnynt yn ystod eu hamser gyda ni."

Mae Mrs Mandana Pennick, Llawfeddyg Ymgynghorol y Fron yn Ysbyty Glan Clwyd yn parhau i ddarparu Clinig Diagnostig y Fron a Mynediad Brys i bobl i gael profion i benderfynu os yw annormaledd neu lwmp ar y fron yn anfalaen (ddim yn ganser) neu'n falaen (canseraidd), yn ogystal â gwneud llawdriniaethau canser. 

Dywedodd: "Rydym wedi parhau i ddarparu'r clinig i'n cleifion dwywaith yr wythnos i sicrhau ein bod yn dal i weld y rheiny a all fod angen triniaeth brys ar ôl cael diagnosis o ganser y fron.                

"Rydym hefyd yn defnyddio ein rhith glinig y fron a sefydlwyd y llynedd lle gall ein cleifion, a all fod yn pryderu am eu briw er enghraifft, anfon llun yn ddiogel at gyfeiriad e-bost pwrpasol lle gallwn ei asesu. 

"Rydw i, a llawer o'r staff yn y clinig a'r timau llawfeddygol wedi cael ein hyfforddi eto felly rydym yn barod i helpu ein cydweithwyr ar yr Uned Gofal Dwys petai’r angen yn codi, ond yn y cyfamser rydym yn parhau i ddarparu gofal brys i'r cleifion hynny sydd ei angen fwyaf. 

"Rydym yn trafod pob un o'n cleifion yn ein cyfarfodydd Tîm Amlddisgyblaethol lle byddwn yn asesu beth yw'r driniaeth orau iddynt ar hyn o bryd. 

"Rydym yn gwneud asesiad risg bob amser a bydd y rheiny sydd angen llawdriniaeth yn cael un ac efallai bydd eraill yn cael eu rheoli gyda meddyginiaeth, ni fyddwn yn anghofio am neb."

Dywed Mr Richard Peevor a Miss Rosalind Jones, Llawfeddygon Gynaecoleg Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd fod pob claf canser gynae wedi cael eu llawdriniaethau yn ystod y pandemig.

Dywedodd Mr Peevor: "Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaeth canser gynae effeithlon ar draws Gogledd Cymru yn ystod y cyfnod hwn na welwyd mo’i debyg o'r blaen. 

"Mae'r ffordd yr ydym yn cynnal ein clinigau wedi newid, rydym yn awr yn darparu llawer mwy o ymgynghoriadau dros y ffôn i leihau'r angen i'n cleifion ddod i mewn i'r ysbyty. 

"Mae ein tîm theatr hefyd wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau y gallwn ddarparu llawdriniaethau mewn amgylchedd diogel a lle darperir cyfarpar diogelu personol (PPE) digonol."

Fodd bynnag, dywed Miss Jones ei bod yn pryderu ar ôl i'r nifer o gyfeiriadau am waedu ar ôl diwedd y misglwyf leihau ers dechrau'r pandemig. 

Dywedodd: "Rwy'n pryderu bod yna ferched adref sydd â symptomau o waedu ar ôl diwedd y misglwyf ac sydd ddim yn mynd at eu Meddyg Teulu.

"Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y cyfeiriadau ar gyfer y cyflwr hwn felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â'r symptomau hyn i gysylltu â'u Meddyg Teulu cyn gynted ag sy'n bosibl.

Yn ogystal â llawdriniaethau canser mae ein timau Trawma ar draws Gogledd Cymru yn parhau i drin cleifion sy'n mynd i'r ysbyty sydd angen triniaeth brys, fel torri clun. 

Dywed Mr Ibrahim Malek, Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopaedig a Thrawma  yn Ysbyty Maelor Wrecsam:  "Yn ystod y cyfnod o waharddiad symudiad mae codymau ac anafiadau gartref, yn enwedig ymysg yr henoed, yn parhau ac rydym hefyd wedi gweld ychydig o gynnydd mewn anafiadau sy'n gysylltiedig â gwaith o gwmpas y tŷ. 

"Mae trawma brys yn dal i gael ei ddarparu fel yr arfer.  Mae gennym dîm ymroddedig dan arweiniad meddygon ymgynghorol arbenigol ar gael saith niwrnod yr wythnos yn awr i ddarparu'r driniaeth gorau heb unrhyw oedi.  

"Mae ein cleifion trawma yn cael eu gweld yn gynt oherwydd ein bod yn gweithio mewn ffordd wahanol ac mae ein timau theatr yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cleifion yn parhau i gael y driniaeth orau bosibl.

"Mae'r pandemig hwn wedi dod â llawer o newidiadau, ond nid yw wedi, nac yn mynd i newid ein dyletswydd i ddarparu'r driniaeth orau bosibl i'n cleifion beth bynnag yw’r amgylchiadau." 

Ychwanegodd Mr Oliver Blocker, Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopaedig a Thrawma, a ymunodd ag Ysbyty Gwynedd ar ddechrau mis Mawrth:  "Diogelwch cleifion yw'r peth pwysicaf sydd ar ein meddyliau bob amser, yn enwedig yn ystod cyfnodau fel hyn. 

"Rydym yn parhau i ddarparu gwasanaeth brys i'n cleifion ond byddwn yn annog y cyhoedd i aros yn ddiogel, a chymryd gofal ychwanegol wrth wneud unrhyw waith o gwmpas y tŷ. 

"Rydym yn cymryd yr holl ragofalon ychwanegol sydd eu hangen arnom i sicrhau y gallwn ddarparu amgylchedd diogel i'n cleifion, ac mae gennym ein theatr trawma pwrpasol sydd yn weithredol saith niwrnod yr wythnos.

"Er bod ein llawfeddygaeth ddewisol wedi cael ei ohirio dros dro, rydym yn dal i gael cyfeiriadau gan Feddygon Teulu a byddwn yn cysylltu â'r cleifion hynny a ddynodwyd fel cleifion brys a byddent yn cael y driniaeth sydd ei angen arnynt."