Neidio i'r prif gynnwy

Deietegydd yn ennill gwobr genedlaethol am ei hangerdd a'i hymroddiad

18/11/2022

Mae deietegydd sy'n gweithio mewn carchar wedi’i henwi’n Weithiwr Proffesiynol Maeth Clinigol y Flwyddyn yn y Gwobrau Maeth Clinigol cenedlaethol.

Helpodd Fran Allsop, deietegydd yng Ngharchar Berwyn yn Wrecsam, un o garchardai mwyaf y DU, i sefydlu gwasanaeth deieteg pwrpasol newydd yn y carchar.

Mae Fran yn asesu cleifion dros y ffôn neu mewn clinigau wyneb yn wyneb ar gyfer ystod eang o gyflyrau gan gynnwys, rheoli pwysau, diabetes mellitus math 2, clefyd coeliag, oncoleg, clefyd llidus y coluddyn, cymorth maethol drwy'r geg a syndrom coluddyn llidus.

Mae hi hefyd wedi dechrau grŵp rheoli pwysau cyntaf o'i fath ar gyfer y dynion yn y carchar ac mae'n rheoli anghenion maeth a risg carcharorion sy'n gwrthod bwyd.

Dywedodd Fran: “Rydw i wrth fy modd fy mod wedi ennill y wobr hon. Mae deieteg mewn carchardai yn faes nad yw’n cael ei gynrychioli’n ddigonol ym maes deieteteg. Rwy'n gobeithio y bydd y wobr hon yn codi proffil y rôl yn yr amgylchedd arbenigol hwn ac yn helpu i lobïo dros anghenion maeth carcharorion ledled y wlad.

"Fe wnes sefydlu gwasanaeth deieteg er mwyn cefnogi'r dynion yng Ngharchar y Berwyn ar gyfer pethau fel bod eisiau colli pwysau, dysgu sut i reoli diabetes, rheoli symptomau anhwylder gastro neu gyngor am fagu pwysau i'r rhai sydd mewn perygl o ddiffyg maeth. Doedd y gwasanaeth hwn ddim yn bodoli o gwbl yn y carchar."

Cyn hynny, bu Fran yn gweithio fel Deietegydd Oncoleg Arbenigol yn Ysbyty Glan Clwyd lle bu’n cefnogi anghenion maeth cleifion ar hyd eu taith ganser, yn bennaf yn gofalu am gleifion â chanser gastroberfeddol a chleifion â chanser y pen a’r gwddf – gan gynnwys rheoli porthiant tiwb, addysg ensymau pancreatig a chymorth maethol.

Dywedodd Jacqui Learoyd, rheolwr llinell Fran yn y carchar: “Bu’n rhaid i Fran ail-ddylunio a rhoi gwasanaeth ar waith a fyddai’n darparu asesiad a gofal effeithiol i 2,106 o ddynion y carchar. Mae’r dynion sy’n byw yng Ngharchar Berwyn yn gwerthfawrogi’r gofal a’r driniaeth y mae’n eu cynnig iddynt yn fawr, ac mae’r canlyniadau clinigol wedi bod yn ardderchog ar gyfer iechyd corfforol a chymdeithasol.”

Mae'r Gwobrau Maeth Clinigol yn cydnabod rhagoriaeth a chyflawniad mewn maeth clinigol, meddygol ac iechyd.

Cafodd Fran ei henwebu gan Suzanne Parry, dietegydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam a ddywedodd: "Y prif reswm y gwnes i enwebu Fran, ar wahân i'w llwyddiannau yn y carchar ac yn Ysbyty Glan Clwyd, yw oherwydd ei hangerdd amlwg a heintus am ei swydd a'r proffesiwn deieteg. Does ond rhaid bod yn ei phresenoldeb, gwrando ar ei phodlediad neu sgrolio ei thudalennau cyfryngau cymdeithasol am eiliadau ac mae ei brwdfrydedd a'i hymroddiad yn amlwg."