Neidio i'r prif gynnwy

Dau lawfeddyg yn ennill gwobr am eu hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol

26.10.23

Mae dau lawfeddyg wedi ennill gwobr am eu hymdrechion i leihau’r ôl troed carbon mewn llawdriniaethau.

Y Llawfeddygon Orthopedig Ymgynghorol, Mr Edwin Jesudason o Ysbyty Gwynedd a Mr Preetham Kodumuri o Ysbyty Maelor Wrecsam oedd enillwyr y Wobr Cynaliadwyedd Amgylcheddol yng Ngwobrau Cyrhaeddiad blynyddol y Bwrdd Iechyd eleni.

Mae’r Gwobrau Cyrhaeddiad, a noddir gan Centerprise International, yn dathlu llwyddiannau anhygoel staff a gwirfoddolwyr y GIG o bob rhan o Ogledd Cymru.

Dechreuodd taith gynaliadwyedd y ddau lawfeddyg yn 2021. Roeddent yn un o bum tîm llawfeddygol a oedd yn cystadlu yn yr ‘Her Llawfeddygaeth Werdd’ gyntaf erioed, cystadleuaeth a gynhaliwyd ar y cyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a’r Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy.

Mae’r GIG yn gyfrifol am bedwar y cant o gyfanswm ôl troed carbon y DU ac mae’r theatrau llawdriniaeth yn arbennig, yn defnyddio llawer o ynni.

Dywedodd Mr Kodumuri: “Fe wnaethom ni ganolbwyntio ar lawdriniaethau ar y dwylo ar gyfer ein her, gan leihau’r nwyddau traul sy’n cael eu defnyddio a maint y gwastraff clinigol sy’n cael ei wastraffu, drwy greu pecyn triniaethau newydd, symlach. Fe wnaethom ni hefyd leihau’r defnydd o welyau ward a gofod theatr, gan herio’r rhagdybiaeth bod rhaid i bob triniaeth llawfeddygol ddigwydd mewn theatrau. Mae’n bosibl cynnal mân lawdriniaethau mewn ystafelloedd sy’n defnyddio llai o ynni.

“Cafodd y prosiect, a ddaeth yn ail yn yr her, gefnogaeth gan aelodau o’r tîm o’r ddau ysbyty gan gynnwys Iona Williamson, Rheolwr Gwasanaethau Di-haint, Teresa Revell a Mandy Roberts, Dirprwy Arweinyddion y Tîm Uned Achosion Dydd, a’r Ymarferydd Theatr, Shan Roberts.”

Ers yr her, a thros y 18 mis diwethaf, mae'r tîm yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi perfformio 200 o fân lawdriniaethau ar y dwylo yn llwyddiannus gan ddefnyddio model llawfeddygol "darbodus a gwyrdd" yn eu prif theatrau.

Maen nhw'n hynod falch eu bod wedi lleihau eu hôl troed carbon gan 80%, arbed 65% o gostau, a chynhyrchu 65% yn llai o wastraff clinigol. Mae eu hymrwymiad i gynaliadwyedd wedi caniatáu iddynt ailgyfeirio adnoddau tuag at ddarparu gwell gofal a gwell canlyniadau i gleifion yn ogystal â gwella'r effaith amgylcheddol.

Ychwanegodd Mr Jesudason: “Mae ein llwyddiant hyd yma wrth leihau ein hôl troed carbon wedi ein hysbrydoli i gymryd camau pellach i hyrwyddo llawdriniaeth gynaliadwy. Bellach mae gennym ni ystafelloedd ar gyfer mân lawdriniaethau ar y dwylo sydd y tu allan i'r prif theatrau, ac mewn amgylcheddau cleifion allanol. Mae hyn yn ein galluogi i leihau ein hôl troed carbon ymhellach a chynhyrchu arbedion cost ychwanegol gan barhau i gynnal y lefel uchel o ofal y mae ein cleifion yn ei ddisgwyl gennym ni.”

Dywedodd Steve Teare, o gwmni Gleeds a oedd yn noddi’r wobr: “Mae llawer iawn o ffocws ar hyn o bryd ar gynaliadwyedd ac effaith gwasanaethau’r GIG ar yr amgylchedd.

“Dangosodd y tair enghraifft yn y rownd derfynol sut y gall newidiadau a wnawn ni nawr wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Llongyfarchiadau i Mr Jesudason a Mr Kodumuri ar ennill y wobr hon.”

Dywedodd Jez Nash, Prif Weithredwr Centerprise International, noddwr y digwyddiad: “Rydym yn ein chweched flwyddyn yn noddi Gwobrau Cyrhaeddiad BIPBC, ac mae ymrwymiad rhagorol staff y GIG yng Ngogledd Cymru yn parhau i wneud argraff arnaf i. Maen nhw’n arloesol yn eu hagwedd at ddarparu gofal ac yn dangos tosturi di-ben draw tuag at eu cleifion a’u cydweithwyr.

“Rydym yn falch iawn o rannu achlysur y gwobrau gyda 500 o staff y GIG, ac yn falch o allu parhau â’n cysylltiad â noson wych i ddathlu eu hymdrechion.

“Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd ar restr fer y gwobrau eleni.”