Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu gweithwyr cefnogi nyrsys yn Ysbyty Llandudno

Mae cyfraniad staff cefnogi nyrsys wedi cael ei ganmol yn Ysbyty Llandudno.

Fel rhan o Ddiwrnod Gweithwyr Cefnogi Nyrsys (Tachwedd 23), bu i dîm rheoli’r ysbyty greu murlun i ddathlu ymdrechion eu cydweithwyr. 

Mae Gweithwyr Cefnogi Nyrsys yn cynnwys amrywiaeth o swyddi a rolau gwahanol, yn cynnwys Gweithwyr Cefnogi Gofal Iechyd, Ymarferwyr Cynorthwyol, Cysylltiadau Nyrsio a Chynorthwywyr Gofal Iechyd. 

Dywedodd Wendy Tee, Metron Ysbyty Llandudno: “Mae Gweithwyr Cefnogi Nyrsys yn rhan hanfodol o bob un o’n timau nyrsio ac maent wedi bod yn gefnogaeth amhrisiadwy yn ystod y pandemig COVID-19.

“Mae Gweithwyr Cefnogi Gofal Iechyd ar draws pob adran wedi gorfod addasu i weithio’n wahanol a gyda chyfarpar diogelu personol (PPE), sy’n gallu bod yn heriol yn ei hun.

“Yma yn Ysbyty Llandudno, bydd tri o’n Gweithwyr Cefnogi Gofal Iechyd yn dechrau eu cwrs nyrsio BN byrrach cyn bo hir. 

“Mae’r ymroddiad y mae’r staff hyn yn ei ddangos yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ofal cleifion, diolch am eich gwaith caled a’ch ymrwymiad.”