Bydd cyflawniadau a llwyddiannau staff, gwasanaethau a gwirfoddolwyr y GIG ar draws Gogledd Cymru yn cael eu cydnabod a’u dathlu mewn seremoni wobrwyo yn ddiweddarach y mis hwn.
Eleni, bydd mwy na 450 o staff, noddwyr a gwesteion yn mynychu seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Venue Cymru yn Llandudno ar 20 Hydref.
Dywedodd y Cadeirydd Dyfed Edwards: “Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r rhestr fer ar gyfer ein Gwobrau Cyrhaeddiad Staff 2023. Llongyfarchiadau i'r rhai sydd yn y rownd derfynol!
“Mae cael eich cydnabod a'ch dathlu am eich ymdrechion gwych gan eich cyfoedion yn arbennig. Rwyf wedi dweud o'r eiliad y gwnes i ymuno â'r Bwrdd Iechyd - mae'r ymrwymiad a'r ymroddiad i ofal cleifion sy'n cael ei arddangos gan gymaint o bobl yn ddyddiol yn rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn falch iawn ohono.
"Cydnabod a rhannu gwaith rhagorol yw sut yr ydym yn dysgu fel sefydliad a sut yr ydym yn parhau i wneud gwelliannau ar draws y Bwrdd Iechyd."
Dyma'r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni:
- Gwobr Arweinyddiaeth
- Peter Greensmith (Cyfarwyddwr Cyswllt, Gwasanaeth Deintyddol Gogledd Cymru)
- Nia Williams (Therapydd Ymgynghorol, Uned Strôc, Ysbyty Maelor Wrecsam)
- Clare McMullan (Ymarferydd Nyrsio Arbenigol, gyda Gwasanaeth Briwiau Coes yn Arfon a Môn)
- Gwobr Tîm y Flwyddyn
- Tîm Triniaeth yn y Cartref (Ardal y Dwyrain)
- Gwasanaeth Asesu’r Cof Wrecsam a Sir y Fflint
- Tîm Adsefydlu Cymunedol Rhanbarthol (Cyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl)
- Gwobr Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant
- Tîm Grwpiau Agored i Niwed, Ymweliadau Iechyd ar gyfer Ceiswyr Lloches (Jackie Williams a Sharon Woods)
- Rakesh Kumar (Ffisiotherapydd Clinigol Arbenigol, Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd)
- Charlotte Wainwright (Cydlynydd Hyrwyddwyr Ymyrraeth Iechyd a Lles, Iechyd Galwedigaethol)
- Gwobr Ymchwil, Trawsnewid, Gwella ac Arloesi
- Eirian Edwards (Uwch Ymarferydd Nyrsio, Gofal Critigol, Ysbyty Gwynedd)
- Tîm Clinig Lwmp Gwddf Un Stop (Ysbyty Glan Clwyd)
- Llawfeddygaeth drwy gymorth robot, Tîm Gynaecoleg (Ysbyty Gwynedd)
- Gwobr y Gymraeg
- Emma Cunnah-Newell (Arbenigwr Chwarae Iechyd Cofrestredig, Ysbyty Maelor Wrecsam)
- Lowri Davies (Ymarferydd CAMHS, Cymuned Iechyd Integredig (IHC) y Gorllewin)
- Amanda Sellens (Cynorthwyydd Theatr, Ysbyty Glan Clwyd)
- Gwobr am Wirfoddoli
- Neville Taylor (Gwirfoddolwr Robin yn Ysbyty Cymuned Tywyn)
- Edward Parr (Gwirfoddolwr Robin yn Ysbyty Maelor Wrecsam)
- Gwobr Partneriaeth
- Arweinwyr Profiad Plant
- Tîm Profi a Thrin Cyflym Hepatitis C
- Y Gwasanaeth Covid Hir
- Gwobr y Filltir Ychwanegol
- Llinos Williams (Cydymaith Meddygol, Trawma ac Orthopedeg, Ysbyty Glan Clwyd)
- Lisa Orhan (Metron Gymunedol, Ysbyty Brenhinol Alexandra)
- Elena Jones (Fferyllydd, Ysbyty Gwynedd)
- Gwobr Seren y Dyfodol
- Richard Nye (Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, Iechyd Meddwl Oedolion, Ysbyty Bryn y Neuadd)
- Harri Miller (Ymarferydd Cynorthwyol Deietegol Iechyd Cyhoeddus, IHC y Gorllewin)
- Corri Twist (Rheolwr Cynorthwyol Gwasanaethau Gwesty yn Ysbyty Glan Clwyd)
- Gwobr Cynaliadwyedd Amgylcheddol
- Y Tîm Llawfeddygaeth Llaw
- Grŵp Gwyrdd Ysbyty Gwynedd
- Trystan Lewis (Uwch Reolwr Cymorth Busnes, Cyfleusterau, Ysbyty Gwynedd)
Mae’r gwobrwyau blynyddol yn rhan bwysig o’r ffordd yr ydym yn cydnabod a dathlu cyflawniadau ein staff, gwasanaethau a gwirfoddolwyr ac maent ond yn bosibl diolch i gymorth hael ein noddwyr sy’n eu cefnogi. Ein noddwyr eleni yw:
Centerprise International (prif noddwr y digwyddiad), AaGIC , Clwyd Recruitment Solutions CRS, Agoriad, Prifysgol Bangor, Fferyllfa Rowlands, Prifysgol Wrecsam, ID Medical, Unite, Gleeds NHS Charities Together a Medacs.