Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu cyflawniadau ein staff GIG ar draws Gogledd Cymru

 

Bydd cyflawniadau a llwyddiannau staff, gwasanaethau a gwirfoddolwyr y GIG ar draws Gogledd Cymru yn cael eu cydnabod a’u dathlu mewn seremoni wobrwyo yn ddiweddarach y mis hwn.

Eleni, bydd mwy na 450 o staff, noddwyr a gwesteion yn mynychu seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Venue Cymru yn Llandudno ar 20 Hydref.

Dywedodd y Cadeirydd Dyfed Edwards: “Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r rhestr fer ar gyfer ein Gwobrau Cyrhaeddiad Staff 2023.  Llongyfarchiadau i'r rhai sydd yn y rownd derfynol!

“Mae cael eich cydnabod a'ch dathlu am eich ymdrechion gwych gan eich cyfoedion yn arbennig.  Rwyf wedi dweud o'r eiliad y gwnes i ymuno â'r Bwrdd Iechyd - mae'r ymrwymiad a'r ymroddiad i ofal cleifion sy'n cael ei arddangos gan gymaint o bobl yn ddyddiol yn rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn falch iawn ohono.

"Cydnabod a rhannu gwaith rhagorol yw sut yr ydym yn dysgu fel sefydliad a sut yr ydym yn parhau i wneud gwelliannau ar draws y Bwrdd Iechyd."

Dyma'r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni:

  • Gwobr Arweinyddiaeth
    • Peter Greensmith (Cyfarwyddwr Cyswllt, Gwasanaeth Deintyddol Gogledd Cymru)
    • Nia Williams (Therapydd Ymgynghorol, Uned Strôc, Ysbyty Maelor Wrecsam)
    • Clare McMullan (Ymarferydd Nyrsio Arbenigol, gyda Gwasanaeth Briwiau Coes yn Arfon a Môn)
  • Gwobr Tîm y Flwyddyn
    • Tîm Triniaeth yn y Cartref (Ardal y Dwyrain)
    • Gwasanaeth Asesu’r Cof Wrecsam a Sir y Fflint
    •  Tîm Adsefydlu Cymunedol Rhanbarthol (Cyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl)
  • Gwobr Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant
    • Tîm Grwpiau Agored i Niwed, Ymweliadau Iechyd ar gyfer Ceiswyr Lloches (Jackie Williams a Sharon Woods)
    • Rakesh Kumar (Ffisiotherapydd Clinigol Arbenigol, Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd)
    • Charlotte Wainwright (Cydlynydd Hyrwyddwyr Ymyrraeth Iechyd a Lles, Iechyd Galwedigaethol)
  • Gwobr Ymchwil, Trawsnewid, Gwella ac Arloesi
    • Eirian Edwards (Uwch Ymarferydd Nyrsio, Gofal Critigol, Ysbyty Gwynedd)
    • Tîm Clinig Lwmp Gwddf Un Stop (Ysbyty Glan Clwyd)
    • Llawfeddygaeth drwy gymorth robot, Tîm Gynaecoleg (Ysbyty Gwynedd)
  • Gwobr y Gymraeg
    • Emma Cunnah-Newell (Arbenigwr Chwarae Iechyd Cofrestredig, Ysbyty Maelor Wrecsam)
    • Lowri Davies (Ymarferydd CAMHS, Cymuned Iechyd Integredig (IHC) y Gorllewin)
    • Amanda Sellens (Cynorthwyydd Theatr, Ysbyty Glan Clwyd)
  • Gwobr am Wirfoddoli
    • Neville Taylor (Gwirfoddolwr Robin yn Ysbyty Cymuned Tywyn)
    • Edward Parr (Gwirfoddolwr Robin yn Ysbyty Maelor Wrecsam)
  • Gwobr Partneriaeth
    • Arweinwyr Profiad Plant
    • Tîm Profi a Thrin Cyflym Hepatitis C
    • Y Gwasanaeth Covid Hir
  • Gwobr y Filltir Ychwanegol
    • Llinos Williams (Cydymaith Meddygol, Trawma ac Orthopedeg, Ysbyty Glan Clwyd)
    • Lisa Orhan (Metron Gymunedol, Ysbyty Brenhinol Alexandra)
    • Elena Jones (Fferyllydd, Ysbyty Gwynedd)
  • Gwobr Seren y Dyfodol
    • Richard Nye (Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, Iechyd Meddwl Oedolion, Ysbyty Bryn y Neuadd)
    • Harri Miller (Ymarferydd Cynorthwyol Deietegol Iechyd Cyhoeddus, IHC y Gorllewin)
    • Corri Twist (Rheolwr Cynorthwyol Gwasanaethau Gwesty yn Ysbyty Glan Clwyd)
  • Gwobr Cynaliadwyedd Amgylcheddol
    • Y Tîm Llawfeddygaeth Llaw
    • Grŵp Gwyrdd Ysbyty Gwynedd
    • Trystan Lewis (Uwch Reolwr Cymorth Busnes, Cyfleusterau, Ysbyty Gwynedd)

Mae’r gwobrwyau blynyddol yn rhan bwysig o’r ffordd yr ydym yn cydnabod a dathlu cyflawniadau ein staff, gwasanaethau a gwirfoddolwyr ac maent ond yn bosibl diolch i gymorth hael ein noddwyr sy’n eu cefnogi. Ein noddwyr eleni yw:

Centerprise International (prif noddwr y digwyddiad), AaGIC , Clwyd Recruitment Solutions CRS, Agoriad, Prifysgol Bangor, Fferyllfa Rowlands, Prifysgol Wrecsam, ID Medical, Unite, Gleeds NHS Charities Together a Medacs.