Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad - Llywodraeth Cymru wedi diweddaru canllawiau ar ymweld ag ysbytai

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu harweiniad i GIG Cymru ynghylch ymwelwyr yn dod i’n safleoedd yn cynnwys y rhai sy’n dod gyda chleifion i apwyntiadau megis sganiau.

Cyn y gallwn roi’r arweiniad hwn ar waith, rhaid i ni sicrhau ei bod mor ddiogel â phosibl i bawb gadw pellter cymdeithasol. Rydym yn gweithio ar frys ar sut y byddwn yn gweithredu’r arweiniad diweddaraf yn ddiogel ond yn anffodus, ni allwn wneud hyn i bob claf o ddydd Llun 20 Gorffennaf. Rydym yn gobeithio gallu rhoi hyn ar waith yn raddol a bydd mwy o wybodaeth yn dilyn. Os oes gennych apwyntiad, cysylltwch â’ch bydwraig neu’r adran uwchsain i drafod hyn.

Rydym yn gwerthfawrogi ei fod yn gyfnod anodd i bawb a byddwn yn parhau i gefnogi llesiant ein cleifion/ defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd a'u hanwyliaid yn y ffordd orau y gallwn. Diolch i chi am eich amynedd parhaus yn ystod yr amser hwn.