Neidio i'r prif gynnwy

Danfon blychau arbennig ar gyfer babanod sy'n cael eu geni â Syndrom Down ledled Gogledd Cymru

Bydd rhieni babanod sy'n cael eu geni â Syndrom Down ledled Gogledd Cymru yn cael blwch arbennig i ddathlu dyfodiad eu newydd-anedig. 

Crëwyd y blychau 'Seren Dwt' gan Laura Thomas a Louise Kennedy o Dde Cymru, sydd ill dwy yn fam i blentyn a gafodd ddiagnosis yn cadarnhau Syndrom Down ar ôl eu geni, ac yn eiddgar i weld newid yn y cymorth sydd ar gael i rieni yng Nghymru.

Y baban cyntaf a gafodd flwch oedd Nico Jones, a anwyd yn Ysbyty Gwynedd 11 wythnos yn ôl. 

Dywedodd ei fam, Amy Williams, ei bod hi'n teimlo'n hynod o emosiynol wrth dderbyn y blwch, ond ychwanegodd bod hynny hefyd wedi cynnig cysur a chefnogaeth iddi hi ac i'w theulu. 

Dywedodd: “Pan gefais y blwch hyfryd ar gyfer Nico, roeddwn yn teimlo'n hynod o emosiynol wrth wybod bod rhywun yn rhywle yn fodlon mynd gam ymhellach i baratoi rhywbeth fel hyn ar gyfer plant tebyg iddo ef. 

“Yn ogystal ag eitemau hyfryd ar gyfer Nico, mae'r blwch hefyd yn cynnwys llawer o wybodaeth sy'n helpu i gynorthwyo rhieni sydd â phlentyn â Syndrom Down.

“Roedd hi'n hyfryd cael cwrdd â Laura a Louise yn ddiweddar a diolch yn bersonol iddynt am y blwch seren Dwt.”

Dywed Laura a Louise ill dwy eu bod wedi'u rhyddhau o'r ysbyty ar ôl genedigaeth eu babanod heb y cymorth a'r wybodaeth yr oedd eu hangen arnynt. Yn sgil hynny, fe wnaeth sefydlu Seren Dwt i sicrhau y bydd rhieni tebyg iddynt hwy yn gallu cael y cymorth y mae arnynt ei angen. 

Dywedodd y ddwy: “Rydym yn dymuno sicrhau bod pob rhiant sydd â baban â Syndrom Down yn teimlo bod eu baban yn cael ei ddathlu a'i groesawu yng ngwir ystyr y gair yn y byd hwn. Mae pob baban yn haeddu hynny. 

“Felly, ar ôl cael ein hysbrydoli gan flychau eraill i fabanod newydd o bob cwr o'r byd, rydym wedi lansio blychau i fabanod Seren Dwt, i'w hanfon i holl Fyrddau Iechyd Cymru.

“Gobeithio y bydd y blychau hyn yn sicrhau y caiff rhieni newydd yn cael y cysur a'r cymorth y bydd arnynt eu hangen ar adeg sy'n gallu bod yn ddryslyd a gofidus. Bydd yn dathlu eu newydd-ddyfodiad â'r cariad y maent yn ei haeddu, ac yn cyfeirio teuluoedd yn gynnil at y cymorth sydd ar gael, yn lleol ac yn genedlaethol, os byddant yn dymuno'i gael.”

Ychwanegodd Eleri Pritchard, Metron Mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd: “Ar ran holl Wardiau Mamolaeth ein Bwrdd Iechyd, hoffwn ddiolch i Laura a Louise am ddanfon y blychau hyfryd hyn i'n hunedau. 

“Rwy'n sicr y bydd y blychau yn codi gwên ar wynebau mwy o'n rhieni sydd â babanod â Syndrom Down, yn ogystal â darparu'r cymorth ychwanegol y bydd arnynt ei angen.”