Neidio i'r prif gynnwy

Dadgomisiynu Ysbyty Enfys Bangor i ddechrau'r wythnos hon

Bydd y broses o ddadgomisiynu'r ysbyty dros dro ym Mangor a gafodd ei sefydlu i helpu'r frwydr yn erbyn COVID-19 yn dechrau'r wythnos hon.

Fel rhan o'r ymateb i'r pandemig COVID-19, cafodd Canolfan Brailsford, Prifysgol Bangor ei throi yn ysbyty dros dro i ddarparu capasiti ychwanegol ym mis Ebrill 2020. Yn ffodus, diolch i ymdrech y gymuned leol i gadw at y cyfyngiadau sydd ar waith, ni ddefnyddiwyd yr adeilad i'r diben hwn. 

Ers mis Rhagfyr 2020, mae Ysbyty Enfys Bangor wedi cael ei ddefnyddio fel Canolfan Brechu Torfol (MVC) i gefnogi cyflwyno Rhaglen Brechu COVID-19 yn gyflym ac mae dros 85,000 o frechiadau wedi'u rhoi yn y ganolfan.

Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:  "Hoffem ddiolch i'n partneriaid, contractwyr, cymunedau lleol, staff a gwirfoddolwyr am eu holl ymdrechion yn ystod y llynedd wrth i ni ddechrau cyfnod dadgomisiynu Ysbyty Enfys Bangor. 

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Brifysgol Bangor, Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn am ddod ynghyd yn gynnar yn y pandemig a'i gwneud hi'n bosib i'r cyfleusterau fod ar gael i ni. 

 "Diolch byth nad oeddem yn gofalu am unrhyw gleifion yn yr ysbyty ond rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu defnyddio  Ysbyty Enfys Bangor i frechu miloedd o bobl yn ein cymunedau.

Mae'r pandemig hwn wedi cael effaith enfawr ar fywyd, ac er gwaethaf llwyddiant cyflwyno'r brechlyn, mae angen i ni sicrhau ein bod yn dilyn y cyfyngiadau sy'n dal i fod ar waith.

"Mae'n hanfodol bod ein cymunedau lleol yn parhau i ddilyn arweiniad lleol sy'n cynnwys pellhau cymdeithasol, golchi dwylo a defnyddio masgiau wyneb. 

"Mae cyfraddau cymunedol COVID-19 yn cynyddu'n gyflym ar draws Gwynedd ac Ynys Môn felly mae'n bwysig iawn bod pawb yn cael eu brechiad, bydd hyn yn helpu i amddiffyn eich hun a'r rhai sy'n annwyl i chi.

Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Campws ym Mhrifysgol Bangor:

"Mae Prifysgol Bangor yn falch o gefnogi'r gymuned a'n partneriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bangor Betsi Cadwaladr ac yn falch o fod mewn sefyllfa i gynnig ein cyfleusterau.  Edrychwn ymlaen at droi'r adeilad yn ôl i ganolfan chwaraeon ar gyfer myfyrwyr, staff a'r gymuned leol."

O ddydd Llun, 5 Gorffennaf 2021 bydd y Ganolfan Brechu Torfol yn symud i Eglwys Gadeiriol Bangor lle bydd brechwyr yn parhau i roi brechiadau tan ddiwedd y rhaglen gyfredol.

Dywedodd Deon a Glwysgwr Eglwys Gadeiriol Bangor, y Parch Kathy Jones: "Rydym yn falch fod y Gadeirlan yn gallu cynnig gofod fel canolfan dros fisoedd yr haf. 

"Rydym yn awyddus i wasanaethu'r gymuned mewn unrhyw ffordd y gallwn ac yn falch o allu gwneud hynny mewn ffordd mor bwysig ac arwyddocaol. 

"Ni fydd hyn yn effeithio ar y patrwm wythnosol cyfredol o agor y Gadeirlan ar ddyddiau Mercher a Sul."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi: "Rydym wedi gweld partneriaeth wych yn gweithio yn ystod pandemig Coronaferiws ac mae Ysbyty Enfys Bangor wedi bod yn enghraifft wych. Yn ddiolchgar, ni chafodd yr ysbyty ei ddefnyddio fel y bwriadwyd.  Fel canolfan frechu, fodd bynnag, mae wedi rhoi amddiffyniad i filoedd o drigolion Ynys Môn a Gwynedd rhag y firws hwn a rhoi gobaith i ddychwelyd i ffordd fwy normal o fyw. Rydym yn ddiolchgar i'r holl staff a gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio yno, yn cefnogi'n cymunedau, am yr 14 mis diwethaf."

I drefnu eich brechiad COVID-19: Brechiad COVID-19: Trefnu apwyntiad ar lein - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)