Mae cynlluniau i gyflwyno cefnogaeth yn gynt i bobl â phroblemau iechyd meddwl wedi cael eu cyhoeddi gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Dywed y Bwrdd Iechyd bod ei gynllun penodedig ar gyfer rhwydwaith integredig o gefnogaeth newydd yn y gymuned, a ellir cael mynediad ato heb gyfeiriad neu apwyntiad, yn rhan o "drawsnewid system gyfan" o ran sut mae cefnogaeth iechyd meddwl yn cael ei ddarparu.
Mae dull newydd BIPBC wedi’i seilio ar egwyddorion ei ymgyrch MI FEDRAF, sy'n ceisio symud y pwyslais ar ofal i atal ac ymyrraeth gynnar; grymuso pobl i gymryd rheolaeth o'u hiechyd meddwl; a rhoi llais i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ceisio adeiladu ar gyflwyniad llwyddiannus Canolfannau Gofal Brys Iechyd Meddwl MI FEDRAF, sy'n cefnogi pobl sydd mewn argyfwng sy'n mynd i Adrannau Achosion Brys un o dri phrif ysbytai Gogledd Cymru.
O dan y cynlluniau newydd, bydd y Timau Iechyd Meddwl Cymuned a’r Timau Triniaeth yn y Cartref sy'n bod yn barod yn parhau i gefnogi'r rheiny sydd â'r angen mwyaf.
Bydd ystod o gefnogaeth newydd yn cael ei gyflwyno o danynt sy'n darparu ymyrraeth gynnar i atal pobl rhag mynd i argyfwng, a rhoi cefnogaeth yn agosach at y cartref i'r rheiny sydd yn gwneud hynny.
Bydd hyn yn cynnwys:
Mae'r dull newydd hwn yn cael ei arwain gan BIPBC mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gwasanaethau brys, elusennau iechyd meddwl a phobl sydd â phrofiad byw o broblemau iechyd meddwl fel rhan o'r gwaith trawsnewid ehangach ar wasanaethau iechyd meddwl a amlinellwyd yn y strategaeth uchelgeisiol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru.
Dyfarnwyd cyllid gan Gronfa Trawsnewid Cymru Iachach Llywodraeth Cymru i wireddu'r cynlluniau hyn.
Dywedodd Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Partneriaethau BIPBC: "Rydym yn benderfynol i symud y pwyslais ar ofal i ymyrraeth gynnar ac atal, fel bod pobl yn derbyn y gefnogaeth gywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir.
“Unwaith bydd wedi'i sefydlu'n llawn, rydym yn disgwyl y bydd mwy o bobl yn derbyn y gefnogaeth gynnar y mae ei angen arnynt yn y gymuned, gan arwain at leihau amseroedd aros a gwell canlyniadau i bobl sydd angen cefnogaeth arbenigol ein gwasanaethau iechyd meddwl.
“Mae hon yn elfen bwysig yn yr holl waith o drawsnewid system gofal iechyd meddwl ar draws Gogledd Cymru a bydd yn gofyn i ni weithio'n agos gyda'n sefydliadau partner, y trydydd sector, a phobl sydd â phrofiad byw o broblemau iechyd meddwl.
“Mae angen egni, syniadau a brwdfrydedd pobl ar draws Gogledd Cymru arnom i’n helpu i siapio sut ydym yn symud hwn yn ei flaen. Rwyf eisiau annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i gysylltu â ni ar ican@wales.nhs.uk.”
Mae'r cynlluniau wedi'u croesawu gan Alun Thomas, Prif Weithredwr Hafal, prif elusen Cymru. Dywedodd:
"Mae Hafal yn falch o weld datblygiad parhaus gwasanaethau iechyd meddwl gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Rydym yn croesawu'r dull newydd hwn lle mae'r bobl hynny y mae’n well iddynt gael eu cefnogi gan bartneriaeth rhwng y GIG a phartneriaid cymuned eraill yn gallu derbyn gwasanaethau heb orfod cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol.
"Mae ystod eang o adnoddau ar gael ar draws Gogledd Cymru yn cynnwys y rheiny mewn gweithgareddau cymdeithasol, hamdden ac addysg lle, gyda'r gefnogaeth briodol, gall pobl ddod o hyd i ffyrdd cadarnhaol i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a fydd yn rhyddhau adnoddau iechyd meddwl arbenigol i'r unigolion hynny sydd angen cefnogaeth ar y lefelau mwyaf dwys.
"Rydym yn edrych ymlaen at weld y Canolfannau MI FEDRAF Cymuned yn cynnig gwasanaethau lleol ac ymatebol ar Gogledd Cymru."