Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi cynlluniau newydd i gefnogi iechyd meddwl yn y gymuned gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Cyhoeddi cynlluniau newydd i gefnogi iechyd meddwl yn y gymuned gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae cynlluniau i gyflwyno cefnogaeth yn gynt i bobl â phroblemau iechyd meddwl wedi cael eu cyhoeddi gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Dywed y Bwrdd Iechyd bod ei gynllun penodedig ar gyfer rhwydwaith integredig o gefnogaeth newydd yn y gymuned, a ellir cael mynediad ato heb gyfeiriad neu apwyntiad, yn rhan o "drawsnewid system gyfan" o ran sut mae cefnogaeth iechyd meddwl yn cael ei ddarparu.

Mae dull newydd BIPBC wedi’i seilio ar egwyddorion ei ymgyrch MI FEDRAF, sy'n ceisio symud y pwyslais ar ofal i atal ac ymyrraeth gynnar; grymuso pobl i gymryd rheolaeth o'u hiechyd meddwl; a rhoi llais i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ceisio adeiladu ar gyflwyniad llwyddiannus Canolfannau Gofal Brys Iechyd Meddwl MI FEDRAF, sy'n cefnogi pobl sydd mewn argyfwng sy'n mynd i Adrannau Achosion Brys un o dri phrif ysbytai Gogledd Cymru.

O dan y cynlluniau newydd, bydd y Timau Iechyd Meddwl Cymuned a’r Timau Triniaeth yn y Cartref sy'n bod yn barod yn parhau i gefnogi'r rheiny sydd â'r angen mwyaf. 

Bydd ystod o gefnogaeth newydd yn cael ei gyflwyno o danynt sy'n darparu ymyrraeth gynnar i atal pobl rhag mynd i argyfwng, a rhoi cefnogaeth yn agosach at y cartref i'r rheiny sydd yn gwneud hynny.

Bydd hyn yn cynnwys:

  • Canolfannau MI FEDRAF Cymuned -sy'n dod ag ystod o sefydliadau ynghyd i hyrwyddo lles ac iechyd emosiynol a rhoi cefnogaeth frys ac mewn argyfwng i oedolion fel gwasanaeth galw i mewn
  • Gofal Cychwynnol MI FEDRAF – rhoi mwy o gefnogaeth iechyd meddwl mewn meddygfeydd
  • Canolfannau Gofal Brys Iechyd Meddwl MI FEDRAF – cefnogi mwy o bobl sydd mewn argyfwng mewn Adrannau Achosion Brys ac ar wardiau ysbyty
  • MI FEDRAF+  – rhoi cefnogaeth 24 awr o lefel uchel a gweithio'n agos â gwasanaethau iechyd meddwl gofal eilaidd.  Dyma'r unig wasanaeth newydd y mae angen cyfeiriad ar ei gyfer.

Mae'r dull newydd hwn yn cael ei arwain gan BIPBC mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gwasanaethau brys, elusennau iechyd meddwl a phobl sydd â phrofiad byw o broblemau iechyd meddwl fel rhan o'r gwaith trawsnewid ehangach ar wasanaethau iechyd meddwl a amlinellwyd yn y strategaeth uchelgeisiol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru.

Dyfarnwyd cyllid gan Gronfa Trawsnewid Cymru Iachach Llywodraeth Cymru i wireddu'r cynlluniau hyn.

Dywedodd Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Partneriaethau BIPBC: "Rydym yn benderfynol i symud y pwyslais ar ofal i ymyrraeth gynnar ac atal, fel bod pobl yn derbyn y gefnogaeth gywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir.

“Unwaith bydd wedi'i sefydlu'n llawn, rydym yn disgwyl y bydd mwy o bobl yn derbyn y gefnogaeth gynnar y mae ei angen arnynt yn y gymuned, gan arwain at leihau amseroedd aros a gwell canlyniadau i bobl sydd angen cefnogaeth arbenigol ein gwasanaethau iechyd meddwl.

“Mae hon yn elfen bwysig yn yr holl waith o drawsnewid system gofal iechyd meddwl ar draws Gogledd Cymru a bydd yn gofyn i ni weithio'n agos gyda'n sefydliadau partner, y trydydd sector, a phobl sydd â phrofiad byw o broblemau iechyd meddwl.

“Mae angen egni, syniadau a brwdfrydedd pobl ar draws Gogledd Cymru arnom i’n helpu i siapio sut ydym yn symud hwn yn ei flaen.  Rwyf eisiau annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i gysylltu â ni ar ican@wales.nhs.uk.”

Mae'r cynlluniau wedi'u croesawu gan Alun Thomas, Prif Weithredwr Hafal, prif elusen Cymru. Dywedodd:

"Mae Hafal yn falch o weld datblygiad parhaus gwasanaethau iechyd meddwl gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.  Rydym yn croesawu'r dull newydd hwn lle mae'r bobl hynny y mae’n well iddynt gael eu cefnogi gan bartneriaeth rhwng y GIG a phartneriaid cymuned eraill yn gallu derbyn gwasanaethau heb orfod cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol. 

"Mae ystod eang o adnoddau ar gael ar draws Gogledd Cymru yn cynnwys y rheiny mewn gweithgareddau cymdeithasol, hamdden ac addysg lle, gyda'r gefnogaeth briodol, gall pobl ddod o hyd i ffyrdd cadarnhaol i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a fydd yn rhyddhau adnoddau iechyd meddwl arbenigol i'r unigolion hynny sydd angen cefnogaeth ar y lefelau mwyaf dwys.

"Rydym yn edrych ymlaen at weld y Canolfannau MI FEDRAF Cymuned yn cynnig gwasanaethau lleol ac ymatebol ar Gogledd Cymru."