Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoedd yng Ngogledd Cymru yn cael eu hannog i lynu at y rheolau yn dilyn ymddangosiad straen newydd o COVID-19

Mae dyfodiad straeniau newydd COVID-19 wedi ysgogi Meddyg Gofal Dwys a Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru i annog y cyhoedd i barhau i ddilyn canllawiau'r llywodraeth i ddiogelu eu hunain a'u hanwyliaid.

Mae straen Caint, sydd wedi dod y ffurf bennaf o'r Coronafeirws yng Nghymru, ac amrywiolyn De Affrica a Brasil bellach, yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed bod pawb yn dilyn canllawiau'r llywodraeth sydd mewn grym. 

Gwnaeth Dr Saleyha Ahsan, sy'n Feddyg Gofal Dwys, golli ei thad, Ahsan-ul-Haq-Chaudry, 81, yn anffodus dros y Nadolig ar ôl iddo ddal COVID-19. 

Dywedodd: “Roedd fy nhad yn heini ac iach iawn am ei oed. Roedd yn ddyn rhadlon iawn ac yn mwynhau cymdeithasu gyda'i ffrindiau a'i deulu. 

"Fodd bynnag, dros y flwyddyn ddiwethaf roedd wedi bod yn cysgodi. Roedd hyn yn anodd iawn iddo gan ei fod wrth ei fodd allan ac o gwmpas pobl.

"Er hyn mi gafodd COVID. Rydym yn credu mai un o'r amrywiolion newydd ydoedd a gwyddwn ei fod yn gryfach ac yn haws ei drosglwyddo.  

"Yn anffodus gwnaeth hwn ei ladd. Os gall ddigwydd i rywun fel fi a'm teulu, sydd i gyd yn feddygol, gall ddigwydd i unrhyw un. Mae'n digwydd i unrhyw un. Mae wedi digwydd i dros 100,000 o bobl. 

"Rydym yn deall bod pawb wedi blino ar y cyfyngiadau symud a'u bod eisiau gweld eu teulu a'u ffrindiau, ond mae'n rhaid i ni ddal ati. Does ond un ffordd o'ch cadw chi a'ch anwyliaid yn ddiogel a glynu at y rheolau ydy hynny. Peidiwch â bod yn hunanfodlon."

Dywedodd Carl Foulkes, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, y byddant yn parhau i orfodi dirwyon ar y rhai hynny sy'n parhau i dorri'r rheolau drwy anwybyddu'r ddeddfwriaeth. 

Dywedodd: "Rwyf eisiau diolch i’r mwyafrif helaeth o'n cymunedau am ein cynorthwyo ni a'n cydweithwyr yn y GIG i atal lledaeniad COVID. 

"Mae'r mwyafrif helaeth o'n cymunedau yn gwneud y peth iawn drwy ddilyn y rheolau a'n cynorthwyo ni a'r GIG drwy arafu lledaeniad y feirws. 

"Rydym wedi cynyddu ein lefel o orfodaeth ar gyfer y rhai hynny sydd ddim yn dilyn yn rheolau. Fe wnawn barhau i wneud hynny.

"Rydym yma i'ch cynorthwyo chi a gwarchod y GIG yn ystod yr amser anodd iawn hwn. Ond mae fy neges yn glir - gwnewch y peth iawn a dilynwch y rheoliadau.

"Mae angen i ni barhau i warchod a chynorthwyo ein gilydd. Mae ysbryd cymunedol gwych wedi bod yng Ngogledd Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn rhan allweddol o ran pwy ydym ni ac rydym angen cadw'r ethos hwnnw i fynd."