Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabyddiaeth am bartneriaeth arloesol sy'n mynd i'r afael â Covid Hir, cyflwr a fu'n gwbl anhysbys gynt

Tachwedd 3, 2023

Mae'r tîm amlddisgyblaethol mawr sy'n gyfrifol am Wasanaeth Covid Hir y Bwrdd Iechyd wedi ennill gwobr am ei ymagwedd arloesol tuag at drin pobl sy'n dioddef symptomau'r feirws yn barhaus.

Gwnaeth aelodau'r tîm dderbyn y Wobr am Bartneriaeth yn seremoni fawreddog Gwobrau Cyrhaeddiad Betsi Cadwaladr.

Yn wyneb y pandemig, daeth y gwasanaeth newydd â chleifion, uwch glinigwyr o nifer o arbenigeddau, staff y rheng flaen a sefydliadau cymunedol at ei gilydd i ddysgu mwy am y cyflwr a fu'n anhysbys gynt ac i ddatblygu model triniaeth ar ei gyfer.

Roedd byw gyda Covid Hir ar ddechrau'r pandemig yn aml yn brofiad ynysig a brawychus. Mae symptomau Covid Hir yn arwain at anableddau difrifol i rai cleifion, sydd yn aml yn effeithio ar eu gallu i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd, mynd i'r gwaith a gofalu am eu teuluoedd. 

Gwnaeth y tîm weithio'n agos gyda chleifion i gydgynhyrchu rhaglen driniaeth a oedd yn diwallu eu hanghenion, gan gynnwys therapi grŵp ac un i un a ddarperir wyneb yn wyneb mewn lleoliadau cymunedol ar draws Gogledd Cymru ac ar-lein. Gall cleifion gyfeirio eu hunain neu gallant gael eu cyfeirio gan weithiwr iechyd proffesiynol.

Dywedodd Zoe Gamble, sy'n swyddog profiad cleifion ei bod wedi enwebu ei chydweithwyr ar ôl cael ei hysbrydoli gan eu gwaith.

"Gwasanaeth sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y grŵp penodol a chymhleth iawn o gleifion yw hwn - cleifion sydd wedi cael eu gorlethu'n llwyr gan haint COVID-19 acíwt ynghyd ag ystod o symptomau eraill yn ddiweddarach," meddai.

Dywedodd Dr Joanne Pike, o Brifysgol Wrecsam a noddodd y wobr: "Mae gweithio mewn partneriaeth yn rhan annatod o'r hyn sydd wrth wraidd y GIG.

"Llongyfarchiadau i wasanaeth Covid Hir Betsi Cadwaladr am ennill y wobr hon. Roedd eu hymdrechion wrth weithio mewn partneriaeth â chleifion a rhanddeiliaid yn enghraifft eithriadol o bŵer a gwerth cydgynhyrchu."

Dywedodd Jez Nash, Prif Weithredwr Centerprise International, noddwr y digwyddiad: “Rydym yn ein chweched flwyddyn yn noddi Gwobrau Cyrhaeddiad BIPBC, ac mae ymrwymiad rhagorol staff y GIG yng Ngogledd Cymru yn parhau i wneud argraff arnaf i.   

"Maen nhw’n arloesol yn eu hagwedd at ddarparu gofal ac yn dangos tosturi di-ben-draw tuag at eu cleifion a’u cydweithwyr.

“Rydym yn falch iawn o rannu achlysur y gwobrau gyda 500 o staff y GIG, ac yn falch o allu parhau â’n cysylltiad â noson wych i ddathlu eu hymdrechion.

“Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd ar restr fer y gwobrau eleni.”

 

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

🔵 Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio.