Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod Janet am ymdrechion i gefnogi tîm Gofal Cychwynnol Wrecsam a Sir y Fflint.

Mae uwch arweinydd ymroddedig wedi ennill gwobr y Bwrdd Iechyd am ei hymdrechion i gefnogi gwasanaethau Gofal Cychwynnol yn Wrecsam a Sir y Fflint.
Cafodd Janet Ellis Wobr Rhagoriaeth mewn Arweinyddiaeth yng Ngwobrau Cyrhaeddiad blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a noddwyd gan Centerprise International. 
Janet yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Gofal Cychwynnol a Chomisiynu'r Dwyrain, Gofal Cychwynnol a Chymuned.
Cafodd ei chydnabod am yr arweinyddiaeth a ddarparodd i'w thîm, darparu cefnogaeth i'w helpu i ddatblygu'n broffesiynol a chyflwyno newidiadau i wella'r ffordd mae gwasanaethau Gofal Cychwynnol yn cael eu darparu yn yr ardal.
Cafodd Janet ei disgrifio fel “uchafbwynt arweinyddiaeth yn nhîm Gofal Cychwynnol y Dwyrain" gan ei chydweithiwr James Duckers, a'i enwebodd am y wobr.
"Mae ganddi allu gwych i ysbrydoli'r tîm a'u grymuso i ddatblygu a thyfu, wrth gymryd perchnogaeth dros ei gwaith.
"Mae wedi caniatáu i ni gymryd mwy a mwy o gamau'n unigol i ddatblygu ein sgiliau.
"Mae rhai rhinweddau y mae arweinwyr rhagorol yn meddu arnynt megis gwytnwch, tosturi, gostyngeiddrwydd ac awydd aruthrol i ddarparu'r gorau, ac mae gan Janet ddigonedd o'r rhinweddau hyn. 
Cafodd Gill Strong a Gaynor Gaskell, sy'n gweithio o fewn Iechyd Meddwl Cymuned yng Nglannau Dyfrdwy a Bae Colwyn yn ôl eu trefn hefyd eu canmol yn y gwobrau.
Dywedodd Luke Thornhill, a gyflwynodd y wobr ar ran Gofal Iechyd Medacs: "Roeddem yn falch iawn o gefnogi Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd am yr ail flwyddyn yn olynol.
"Roedd pob un o'r enwebai yn y categori Rhagoriaeth mewn Arweinyddiaeth yn enghreifftiau gwych o arweinyddiaeth ysbrydoledig ac arloesol. Mae Janet yn amlwg yn uchel ei pharch gan ei chydweithwyr, ac roeddwn yn falch iawn o gyflwyno'r wobr hon iddi"
Dywedodd Jeremy Nash, Prif Weithredwr Centerprise International: "Roedd yn fraint bod yn brif noddwr Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae'r gwobrau'n gyfle gwych i gydnabod gwaith gwych y bobl sy'n gweithio yn y GIG ar draws Gogledd Cymru.
"Mae Centreprise wedi ymrwymo i gefnogi'r gymuned yng Nghymru a'r GIG yn gyfartal.  Roeddem yn falch o gyflwyno yn y Gwobrau, a oedd yn ddathliad gwych o ymdrechion anghredadwy y Bwrdd Iechyd a'i staff ymroddedig."