Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod Gweithwyr Cymorth Nyrsio am fynd gam ymhellach i gefnogi cleifion a chydweithwyr

I ddathlu Diwrnod y Gweithwyr Cymorth Nyrsio eleni, gwahoddwyd staff o Sir y Fflint a Wrecsam i enwebu cydweithwyr i dderbyn cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad am yr ymroddiad a ddônt i’w rôl.

Lansiodd y Tîm Datblygu Ymarfer, ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Wobr Seren y Ward i ddiolch i'r gweithwyr cymorth, a rhoi sylw i'r cyfraniad hanfodol y maent yn ei wneud at ofal cleifion ledled y rhanbarth

Dywedodd Laura Kendal, Nyrs Datblygu Ymarfer Llawfeddygol: "Daeth y tîm ynghyd i sicrhau ein bod yn dathlu Diwrnod y Gweithwyr Cymorth Nyrsio mewn cydweithrediad â Choleg Brenhinol y Nyrsys. Fel diolch am eu holl waith caled, ymroddiad, gofal gofalgar a thosturiol, lansiwyd gwobr seren y gyfarwyddiaeth.

“Cawsom dros 100 o enwebiadau ac roedd y cyflwyniadau mor galonnog, emosiynol ac annwyl, mae'n fy ngwneud mor falch o weithio gyda'r aelodau staff hyn. Mae gweithwyr cymorth yn amhrisiadwy i bob tîm ac rydym yn fythol ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a ddarperir ganddynt.”

Dewiswyd yr enillwyr canlynol, a dderbyniodd Wobr Seren y Ward a hamper rhodd, o bob cyfarwyddiaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam a thimau cymunedol yn Sir y Fflint a Wrecsam.

  • Llawfeddygaeth - Heather Lloyd, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, o Ward Mason.
  • Cwadrant Brys - Mandy Matthias, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
  • Meddygaeth - Freya Williamson, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, o'r Uned Gardiaidd Lem.
  • Gofal Critigol a Theatrau – Gwynra Evans, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, Gofal Critigol.
  • Pediatreg - Kim Weaver, Cadw Tŷ, o Ward y Plant.
  • Cymuned - Lauraine Clayton, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, Tîm Nyrsys Ardal Gyda'r Hwyr a Dros Nos, Ardal y Dwyrain
  • Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - Lynda Massey, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd o'r Gwasanaethau Cymunedol.
  • Mamolaeth a SCBU - Natalie Lancaster, Gweithiwr Cymorth Mamolaeth.

Y mis Tachwedd hwn oedd yr ail flwyddyn i nodi Diwrnod Cenedlaethol y Gweithwyr Cymorth Nyrsio trwy roi sylw i aelodau hanfodol o dimau nyrsio sy'n gweithio mewn wardiau, clinigau a lleoliadau cymunedol gydag oedolion a phlant ac sy'n cael effaith bwysig ar sicrhau gofal o ansawdd uchel i gleifion.