Mae Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael cloch newydd i helpu cleifion nodi diwedd eu triniaeth.
Mae'r gloch 'Diwedd Triniaeth' wedi cymryd y lle blaenaf yn yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod, yr uned i'r newydd-anedig cyntaf yng Ngogledd Cymru i gael cloch.
Cafodd Theo Shaw ei eni 12 wythnos yn gynnar yn pwyso 2lb 11oz yn unig, a threuliodd dros ddau fis yn yr uned gofal dwys ar beiriant anadlu i helpu iddo anadlu.
Dywedodd Amanda ei fam, sy’n 40 oed o Wrecsam: "Nid oedd yn feichiogrwydd syml, a golygodd haint yn fy ngwaed fy mod wedi mynd i gyfnod esgor cynnar. Digwyddodd bopeth mor gyflym.
"Roedd gan Theo Afiechyd Cronig yr Ysgyfaint, sy'n datblygu mewn babanod cynamserol oherwydd y cymorth y maent eu hangen i anadlu yn ystod diwrnodau cyntaf eu bywydau.
"Roedd yn gyfnod pryderus iawn."
Treuliodd Theo saith wythnos yn Ysbyty Glan Clwyd, a chafodd ei drosglwyddo yn ddiweddarach i Uned Gofal Arbennig i Fabanod Wrecsam, ble treuliodd dair wythnos arall cyn cael ei ryddhau o driniaeth.
Amanda a Stephen ei gŵr, sydd hefyd â merch o'r enw Amy, 21 oed, a mab o'r enw Ethan, 10 oed, oedd y cyntaf i ganu cloch newydd yr uned.
Dywedodd Amanda: "Roedd y seremoni canu'r gloch yn eithaf emosiynol. Darllenais bennill, a chymerodd staff yr ysbyty luniau.
"Roedd yn ffordd hyfryd o orffen beth oedd wedi bod yn gwpl o fisoedd llawn straen. Roedd yn wych gorffen pethau ar nodyn cadarnhaol."
Dywedodd Lisa Andrews, dirprwy reolwyr yr uned: "Mae'r staff yn yr uned i'r newydd-anedig yn Ysbyty Maelor wrth eu boddau i gynnig y profiad unigryw hwn i'w cleifion, sydd yn aml wedi cael taith hir ac anodd.
"Mae'n anrhydedd bod yn rhan o dîm sy'n helpu i wella plant, ac mae gweld dathliad cloch ddiwedd triniaeth yn ei wneud hyd yn oed gwell."
Cafodd y gloch ei rhoi gan y sefydliad End of Treatment Bells, a sefydlwyd gan Tracey Payton, a Phil ei gŵr ar ôl i Emma eu merch, ganu cloch ddiwedd triniaeth pan gafodd ei rhyddhau o'r ysbyty yn Oklahoma, yn yr Unol Daleithiau, ble cafodd driniaeth ar gyfer canser meinwe meddwl prin.
Dywedodd Tracey: "Roeddem wrth ein boddau gyda'r gloch, a'i natur symbolaidd. Ers hynny, rydym wedi rhoi dros 250 o glychau yn y Deyrnas Unedig a dramor er mwyn i gleifion eu canu i ddathlu cerrig milltir yn ystod eu triniaeth.
"Nid cloch yn unig ydyw- mae'n symbol o obaith."
Mae Theo yn awr wedi cael ei ryddhau o'r SCBU, ac yn gwella'n dda gartref.
Ychwanegodd Amanda: "O waelod ein calonnau, rwyf eisiau diolch i bawb sydd wedi trin Theo, ac sydd wedi ein cefnogi drwy amser anodd iawn.
"Mae'r nyrsys yn yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn darparu llawer mwy na gofal meddygol yn unig- maent yn ffrindiau, yn gwnselwyr a phopeth arall.
"Ni fyddem wedi gallu ei wneud hebddynt."
Cliciwch yma i ymweld â gwefan End of Treatment Bells.